Â鶹ԼÅÄ

Nodi pen-blwydd yn 91 trwy efelychu camp Capten Moore

  • Cyhoeddwyd
Rhythwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhythwyn a Gwyneth Evans eisiau codi arian i Fwrdd Iechyd Hywel Dda

Mae dyn o Silian ger Llanbedr Pont Steffan yn bwriadu ceisio efelychu campau'r Capten Tom Moore o Swydd Efrog, trwy gerdded o gwmpas ei gartref 91 o weithiau ar achlysur ei ben-blwydd yn 91 oed.

Mae'r Capten Moore, 99 oed, wedi codi dros £18m ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

Mae Rhythwyn Evans o fferm Tan y Graig wedi byw yn yr ardal erioed, ac mae'n troi'n 91 oed ddydd Sadwrn.

Fe benderfynodd godi arian ar-lein i'r rheini sydd yn trin pobl â coronafeirws er mwyn dangos ei "werthfawrogiad" o'r gwaith mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wneud.

Mae cronfa ar-lein wedi cael ei sefydlu i gyd-fynd â'r pen-blwydd, gyda'r arian yn mynd at elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Rhythwyn Evans yw cerdded o amgylch ei gartref 91 gwaith

Dywedodd Mr Evans: "Mae'r coronafeirws wedi effeithio pawb yn yr ardal hyn.

"Roedd rhaid trio gwneud rhywbeth er gwerthfawrogiad i'r doctoriaid a'r nyrsys a phawb oedd ynglŷn â'r bwrdd iechyd yn yr ardal.

"Roedd rhaid dangos ein gwerthfawrogiad drwy wneud rhywbeth."

'Gwirioneddol ddiolchgar'

Mae ei wraig, Gwyneth, yn falch iawn o ymdrechion ei phriod.

"Wy'n teimlo yn browd iawn bod y teulu wedi penderfynu i wneud hyn a bod Rhythwyn yn ddigon iach ac abl i gerdded o gwmpas y tÅ· 91 o weithiau ar gyfer achos mor deilwng," meddai.

Dywedodd Sarah Jennings o Fwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "wirioneddol ddiolchgar i Mr Evans".

"Mae hyn yn rhywbeth mor anhygoel i'w wneud wrth ddathlu pen-blwydd arbennig ac rydyn ni'n diolch i Mr Evans a'i gefnogwyr am helpu ariannu eitemau allweddol sydd eu hangen ar gyfer lles staff a gwirfoddolwyr," meddai.