Glanaethwy: Ennill C么r y Byd yn Llangollen yn 'freuddwyd'

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Disgrifiad o'r llun, C么r Ysgol Glanaethwy yn dathlu eu llwyddiant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Mae arweinwyr C么r Ysgol Glanaethwy yn dweud "nad ydyn nhw'n gallu coelio'n iawn" eu bod wedi ennill cystadleuaeth C么r y Byd yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Dyma'r tro cyntaf i'r c么r o Fangor ennill y teitl, sydd hefyd yn cynnwys gwobr o 拢3,000.

Ers ei gyflwyno yn 1987, C么r y Byd ydi un o brif uchafbwyntiau'r 诺yl, gan ddenu cantorion o bedwar ban byd i gystadlu am Dlws Pavarotti mewn cyngerdd i gloi'r eisteddfod.

Ond gydag ansicrwydd am ddyfodol yr 诺yl, dywedodd yr arweinydd, Cefin Roberts, bod "isio i ni gefnogi'r Eisteddfod yn fwy neu mae'n beryg y gwnawn ni ei cholli hi, a'n bai ni fydd o os 'nawn ni ei cholli hi."

Disgrifiad o'r llun, Mae Cefin Roberts yn teimlo "y medran ni yng Nghymru fod yn gwneud mwy i gefnogi" Eisteddfod Llangollen

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd arweinwyr y c么r, Cefin a Rhian Roberts fod ennill y wobr yn "golygu lot i ni fel ysgol".

"'Da ni dal ddim yn coelio'n iawn. Ma'n dipyn bach o freuddwyd a 'da ni 'di mopio," meddai Rhian.

"'Da ni'n amrywio o 12 oed i bron i 70 oed wedyn mae o'n her i ni gyflwyno'r gerddoriaeth a'r symudiadau a'r gwisgoedd a phob peth felly... fel sioe weledol 'swn i'n disgrifio fo fwya'."

Cafodd tlws C么r y Byd ei gyflwyno i'r Eisteddfod yn 2005 gan y tenor adnabyddus, Luciano Pavarotti er cof am ei dad Fernando Pavarotti a ganodd yn Llangollen gyda鈥檌 g么r o Modena yn yr Eidal yn 1955.

Cafodd y c么r buddugol ei ddewis o enillwyr pum prif gategori corawl yr Eisteddfod, sef cymysg, benywaidd, meibion, siambr 鈥嬧媋c agored.

Ar 么l ennill y categori c么r agored fe frwydrodd C么r Glanaethwy yn erbyn Cantamus Camerata o Brifysgol Talaith Oklahoma yn UDA, Tegalaw o鈥檙 Bala, Corws Meantime o Lundain a'r GC Ensemble o Ynysoedd y Philipinau.

'Teulu bach ar y llwyfan'

Fe gyflwynodd Glanaethwy bedwar darn yn cyflwyno'r Mabinogion a Shakespeare, wrth i'r tylwyth teg wahodd Llangollen i daith theatrig ac arbrofol.

Mae Cefin yn meddwl "mai'r cyfuniad o gyflwyno theatr drwy gerdd a'r briodas yn goreograffyddol 芒'r theatr" ydi un o'r rhesymau eu bod nhw wedi ennill.

Fel c么r agored mae Cefin yn egluro mai "cymuned yr ysgol ydi hwn - yn rieni, yn gyfeillion, pawb yn dod at ei gilydd".

"Hwn oedd yr egin g么r naethon ni fynd i Britain's Got Talent flynyddoedd yn 么l. Dyna lle nathon ni ddechrau cyfuno'r cantorion a dwi'n meddwl bellach ma' pawb yn gwerthfawrogi bo' ni'n dysgu 'wbath o'n gilydd yn cyfuno'r oedrannau 'ma.

"Mae'r plant yn dysgu gan yr oedolion ac mae'r oedolion yn sicr yn deud gymaint maen nhw wedi ddysgu gan y plant.

"Dwi'n meddwl bod hwnna wedi bod yn rhan o'r llwyddiant nos Sadwrn - bod 'na gymuned ar y llwyfan a bod pobl wedi anwylo tuag atan ni yn gweld teulu bach ar y llwyfan."

Ffynhonnell y llun, ITV

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth C么r Glanaethwy o Wynedd yn drydydd yng nghystadleuaeth Britain's Got Talent yn 2015

Gydag ansicrwydd am ddyfodol Eisteddfod Llangollen oherwydd trafferthion ariannol, mae Cefin a Rhian am weld rhagor yn cael ei wneud er mwyn diogelu ei dyfodol.

Mae Cefin yn teimlo "y medran ni yng Nghymru fod yn gwneud mwy i gefnogi'r Eisteddfod".

"Dan ni'n dueddol o gadw draw a dwi'n meddwl hefyd bod o'n bechod na chafodd Cymru gyfle i weld y cystadlu ar ein sianel ni'n fwy cyson.

"Ma' isio i ni gefnogi'r Eisteddfod yn fwy neu mae'n beryg y gwnawn ni ei cholli hi, a'n bai ni fydd o os nawn ni ei cholli hi."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C: 鈥淢ae amserlen S4C yn newid yn flynyddol i adlewyrchu'r cyfoeth o ddigwyddiadau byw sydd gennym ni yng Nghymru dros fisoedd yr haf.

"Rydyn ni鈥檔 falch bod Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn parhau yn rhan o鈥檙 arlwy hynny, ac yn ein rhaglen arbennig nos Sadwrn cafwyd uchafbwyntiau鈥檙 wythnos yn ogystal 芒 darlledu cystadleuaeth C么r y Byd yn fyw yn ei chyfanrwydd.

"Eleni hefyd roedd ein rhaglen gylchgrawn Heno yn dod a blas o鈥檙 糯yl i gynulleidfa ehangach.

"Hoffem longyfarch C么r Glanaethwy yn wresog am ddod i鈥檙 brig mewn cystadleuaeth mor safonol.鈥

'Ma wastad rhyw brosiect ar y gweill'

Mae Glanaethwy wedi cystadlu yn Llangollen ers 1992 a "'da ni 'di cystadlu 100 o weithiau i gyd," meddai Rhian Roberts.

"Dan ni wrth ein boddau yn mynd yna a gweld y diwylliannau i gyd a'r gwisgoedd gwahanol a ma' pawb mor gyfeillgar. Dan ni'n gobeithio gweld yr Eisteddfod yn mynd o nerth i nerth."

Roedd Glanaethwy yn brysur yn Llangollen eleni hefyd, gan gystadlu gyda'r c么r plant, y c么r alaw werin i blant yn ogystal 芒'r c么r agored.

Glanaethwy ddaeth i'r brig yng nghategori'r corau cymysg yng nghystadleuaeth C么r Cymru eleni.

Ond fydd 'na ddim seibiant wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu cyngerdd blynyddol yn Theatr Seilo, Caernarfon ar y 15ed o Orffennaf, a chystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

"Ma' wastad rhyw brosiect arall ar y gweill a felna da ni di bod ers blynyddoedd," meddai Rhian Roberts.