麻豆约拍

BGT: C么r Glanaethwy a mwy o Gymru yn y rownd nesa'

  • Cyhoeddwyd
Cor Glanaethwy

Mae C么r Glanaethwy wedi cael gwybod y byddan nhw'n cystadlu yn rownd gyn-derfynol y rhaglen dalent, Britain's Got Talent.

Fe fydd y c么r yn ymddangos ar y rhaglen nos Lun, ac yn cystadlu am le yn y rownd derfynol y penwythnos nesaf.

Yn ystod clyweliad cyntaf y c么r - sydd 芒 162 o aelodau, yn gyfuniad o g么r iau a ch么r h欧n yr ysgol, a Ch么r cymysg Aethwy - fe gawson nhw ganmoliaeth uchel gan y beirniaid, yn cynnwys Simon Cowell.

Mewn datganiad ar ran y c么r, fe ddiolchodd cyd-gyfarwyddwyr Ysgol Glanaethwy, Cefin a Rhian Roberts am yr holl gefnogaeth, gan annog pawb i wylio a pharhau i gefnogi nos Lun.

Mae 'na Gymraes arall wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol, hefyd. Fe blesiodd Maia Gough o Sgiwen y beirniaid pan ganodd y ferch ifanc g芒n gan Whitney Houston yn y rownd gyntaf.

Roedd 'na ddathlu ym Mhotarddulais hefyd, wrth i'r gr诺p Honeybuns ymuno 芒'r Cymry yn y rownd gyn-derfynol.

O Bort Talbot y daw Groove Thing - criw o 12 o ddawnswyr fydd hefyd yn cystadlu i gyrraedd y ffeinal.