Atal nyrs o'r gogledd o'r proffesiwn am gam-drin

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ei chau yn 2013 oherwydd pryderon am ofal
  • Awdur, Dafydd Evans
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru

Mae nyrs 鈥渃reulon鈥 a 鈥渄ideimlad鈥 wnaeth gam-drin cleifion bregus yn gorfforol ar uned iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi cael ei atal rhag gweithio yn y proffesiwn.

Roedd Robert Lang yn gweithio ar ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd cyn i'r uned gael ei chau yn 2013 oherwydd pryderon am ofal.

Fe ddaeth y panel o鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i'r casgliad fod y nyrs seiciatrig wedi 鈥渁chosi niwed鈥 i dri chlaf oedrannus trwy ddefnyddio grym diangen ar un dyn, cicio dyn hanner noeth sawl gwaith ar y llawr, a gorfodi meddyginiaeth ar ddynes oedrannus.

Nododd adroddiad panel yr NMC fod Robert Lang wedi dweud yn 2014 鈥渆i bod yn ward anodd a bod staff o dan bwysau鈥.

Ond daeth Panel Addasrwydd i Ymarfer i鈥檙 casgliad fis diwethaf bod 鈥渃amymddwyn鈥 Mr Lang yn 鈥渄dideimlad, yn greulon ac yn amhroffesiynol鈥, gan ddangos 鈥渄iffyg gofal llwyr鈥.

Dywedodd teulu un o鈥檙 cleifion wrth 麻豆约拍 Cymru eu bod yn 鈥渇alch鈥 bod Mr Lang wedi cael ei atal rhag gweithio fel nyrs eto, gan ychwanegu 鈥渕ae鈥檔 fymryn bach o gyfiawnder鈥.

Clywodd pwyllgor yr NMC sut roedd y nyrs wedi plygu pen-glin arthritig claf yn 鈥渇fyrnig鈥 wrth ei helpu i mewn i gadair olwyn ym mis Mehefin 2013, gan achosi iddo sgrechian mewn poen.

Fe glywon nhw hefyd fod Mr Lang wedi cicio claf dementia oedd wedi cropian ar y llawr i mewn i swyddfa yn gwisgo pad anymataliaeth yn unig yn 2012/13

Disgrifiodd cydweithiwr sut roedd Mr Lang wedi dweud wrth y claf i adael, ond gan nad oedd y claf yn gallu deall, fe wnaeth y nyrs ei gicio i ffwrdd.

鈥淩oedd fel y byddech chi'n cicio bocs neu wrthrych i'w symud,鈥 meddai'r cydweithiwr.

鈥淩oedd yn ddigon caled i鈥檙 [claf] fod wedi teimlo ei fod yn cael ei gicio. Fe'i ciciodd ychydig o weithiau."

Disgrifiad o'r llun, Nododd adroddiad panel yr NMC fod Robert Lang wedi dweud yn 2014 鈥渆i bod yn ward anodd a bod staff o dan bwysau鈥

Daeth y panel i鈥檙 casgliad hefyd bod Robert Lang, a oedd wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ers 1983, wedi rhoi gorfodi meddyginiaeth yn groes i ewyllys claf ym mis Hydref 2013.

Gwnaeth hyn trwy wthio cadair y claf yn 么l ar ei goesau cefn a gwthio chwistrell i geg y claf.

Dywedodd cydweithiwr gwahanol wrth y pwyllgor: 鈥淩oedd hi鈥檔 pesychu ac yn poeri. Roeddwn i wedi dychryn.

"Fe wnaeth Robert barhau i wthio鈥檙 meddyginiaethau i lawr ei gwddf, a鈥檙 ffordd roedd hi鈥檔 pesychu a phoeri, mae鈥檔 debyg nad aethon nhw lle roedden nhw i fod.鈥

Dywedodd perthynas wrth 麻豆约拍 Cymru fod Mr Lang wedi trin cleifion yn 鈥渁nnynol鈥 ac nad oedd 鈥測n ffit i fod yn nyrs鈥.

Daeth panel yr NMC i鈥檙 casgliad y byddai ymddygiad Mr Lang yn cael ei ystyried yn 鈥渨arthus鈥 a鈥檌 fod yn gyfystyr 芒 chamymddwyn.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Tawel Fan yn rhan o uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd

Dywedodd yr adroddiad fod Mr Lang wedi dweud wrth yr NMC ym mis Ionawr 2023 nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ymgysylltu 芒鈥檜 proses ddisgyblu ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ddychwelyd i nyrsio.

Cafodd ei gyfeirio at yr NMC yn 2014 gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar 么l iddynt ei atal o鈥檌 waith yn dilyn ymchwiliad i arferion ar y ward.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi bod o dan y chwyddwydr ers hynny, ond y gred ydy mai Mr Lang ydy鈥檙 aelod cyntaf o staff i gael ei dynnu oddi ar gofrestr mewn cysylltiad 芒鈥檙 digwyddiadau yn ward Tawel Fan.

Dywedodd Carol Shillabeer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Roedd ymddygiad Mr Lang yn ofnadwy.

"Fe gymrodd fantais o鈥檌 safle fel gweithiwr iechyd ac ar ran y bwrdd iechyd rwy鈥檔 ymddiheuro am y loes sylweddol mae cleifion a theuluoedd wedi ei brofi oherwydd ei ymddygiad.鈥

Ychwanegodd fod "y pryderon yn destun ymchwiliadau gan yr heddlu yn ogystal ag archwiliadau allanol gan Donna Ockenden a'r Health and Social Care Advisory Service (HASCAS), ac yn dilyn hynny digwyddodd proses ddisgyblu mewnol, ac nid yw Mr Lang yn gweithio i鈥檙 bwrdd iechyd bellach".

"Ers y cyfnod yma mae prosesau wedi eu hadolygu, newid wedi ei gyflwyno ac mae鈥檙 bwrdd yn dal wedi ei ymrwymo鈥檔 llwyr i ddiogelwch yr holl gleifion yn ein gofal,鈥 meddai Carol Shillabeer.

Pam gymrodd hi 10 mlynedd?

Wrth egluro pam fod y broses ddisgyblu wedi cymryd 10 mlynedd dywedodd Paul Johnson o'r NMC: 鈥淢ae鈥檔 ddrwg gennym fod yr achos hwn wedi cymryd mor hir.

"Gall achosion addasrwydd i ymarfer fod yn gymhleth gyda nifer o ffactorau鈥檔 effeithio ar yr amser mae鈥檔 ei chymryd i gyrraedd penderfyniad.

鈥淕all hyn gynnwys cyfnodau hir o oedi wrth aros am ymchwiliadau cyrff eraill, neu gasglu llawer o wybodaeth a thystiolaeth dros gyfnod hir.鈥