Â鶹ԼÅÄ

Galw am ymchwiliad arall i ward iechyd meddwl Tawel Fan

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ward Tawel Fan ei chau yn 2013 yn dilyn honiadau bod cleifion yn cael eu cam-drin

Mae wyth o ACau gogledd Cymru wedi galw am ymchwiliad gan y Cynulliad i ward dementia Tawel Fan yn Sir Ddinbych.

Fe wnaeth y grŵp o ACau Ceidwadol, Plaid Cymru ac UKIP fynegi pryder bod dau ymchwiliad i'r honiadau bod cleifion wedi cael eu cam-drin ar y ward wedi dod i gasgliadau gwahanol.

Maen nhw'n ychwanegu bod hyn wedi achosi gofid i deuluoedd y rheiny oedd yn cael triniaeth yno.

Cafodd ward Tawel Fan ei chau yn 2013 yn dilyn yr honiadau bod cleifion yn cael eu cam-drin.

Dywedodd ymchwiliad yn 2015 gan yr arbenigwr gofal iechyd, Donna Ockenden, bod cleifion yno wedi cael eu trin "fel anifeiliaid mewn sŵ".

Ond daeth ymchwiliad arall eleni gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r casgliad bod dim tystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

Yn eu llythyr at gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Nick Ramsay AC, dywedodd y grŵp bod "pobl gogledd Cymru, a theuluoedd Tawel Fan yn enwedig, angen deall y rhesymeg y tu ôl i'r casgliadau hyn".

"Mae angen cael hyder bod y methiannau hanesyddol a phresennol o ran gofal iechyd meddwl yn cael eu cywiro ar frys," meddai'r ACau.

Yr wyth aelod sydd yn cael eu henwi yn y llythyr yw Michelle Brown, Janet Finch-Saunders, LlÅ·r Gruffydd, Sian Gwenllian, Rhun ap Iorwerth, Mark Isherwood, Mandy Jones a Darren Millar.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mewn datganiad ddydd Mawrth ei fod wedi gweld gwelliannau yng ngwasanaeth iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, oedd yn rhedeg ward Tawel Fan.