Â鶹ԼÅÄ

Statws gwarchodedig i'r Gymraeg o fewn Heddlu'r Gogledd

Jordan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jordan Jones, ni fyddai modd plismona’r gymuned yn effeithiol heb y Gymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae’r iaith Gymraeg wedi derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu Gogledd Cymru, gyda’r nod o gryfhau’r ddarpariaeth dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn ôl y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, sy'n dysgu’r iaith, mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth iddi, ac mae angen sicrhau bod "arweinwyr y dyfodol" yn rhugl.

Ar hyn o bryd mae o leiaf 40% o staff y llu yn medru sgwrsio yn y Gymraeg, a 36% yn rhugl.

Yn ôl swyddogion sy’n gweithio mewn cymunedau, mae’r cyfle i ddioddefwyr gyflwyno tystiolaeth yn eu mamiaith yn hollbwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae o leiaf 40% o staff y llu yn medru sgwrsio yn y Gymraeg, a 36% yn rhugl

Yn byw a gweithio yng Nghaernarfon mae Jordan Jones, un o swyddogion heddlu’r gogledd, yn dweud na fyddai modd plismona’r gymuned yn effeithiol heb y Gymraeg.

"Mae Caernarfon yn lle unigryw - gei di drafferth yma feindio rhywun sydd ddim yn siarad Cymraeg," meddai.

"'Dan ni’n delio efo lot o achosion sydd yn eithaf creulon ac yn ofnadwy o emosiynol, felly dwi’n meddwl fod hi’n bwysig fod aelodau’r cyhoedd yn teimlo’n gyfforddus pan ma' nhw’n siarad efo ni am rheiny.

"Dwi’m yn meddwl 'swn i’n gallu gwneud y swydd dwi’n 'neud yma heb bo' fi’n gallu siarad Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman ddim eisiau gweithwyr newydd fod "dan anfantais"

Yn ôl Heddlu’r Gogledd mae gosod statws gwarchodedig dros y Gymraeg am sicrhau nad oes unrhyw un o fewn y gweithlu dan anfantais.

Tra bod gan y Gymraeg eisoes yr un statws â’r Saesneg, mae dynodi’r statws newydd yn gyfle i sicrhau tegwch cyfleoedd, yn ôl y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman.

Esboniodd: “Dwi eisiau i weithwyr newydd allu sefyll eu harholiadau mynediad drwy’r Gymraeg a Saesneg felly does 'na'm rhaid iddyn nhw wedyn gyfieithu o un iaith i’r llall.

“Dydyn nhw ddim wedyn dan anfantais - mae hynny’n rhan ohono.

“Ond rhan arall o hynny ydy sicrhau bod gennym ni arweinwyr yn y dyfodol sy’n iaith gyntaf Gymraeg.

"Felly yn bendant 'dan ni am sicrhau nad ydy unrhyw un o’n systemau o gynnig dyrchafiadau ddim yn heriol i siaradwyr Cymraeg."

Cyfle i newid agweddau

Er na fydd mwy o gyllid ar gyfer y prosiect, mae’r llu yn dweud mai cyfle i newid agweddau a systemau yw hyn, er mwyn cefnogi’r gweithlu Cymraeg.

Mae'r Prif Gwnstabl - sy’n wreiddiol o ganolbarth Lloegr - hefyd yn dysgu’r iaith.

"Dwi wir yn mwynhau, mae’n dda iawn," meddai.

"Mae’n iaith brydferth a dwi wir yn teimlo mor falch o fyw yng Nghymru, o weithio mewn gweithlu Cymraeg a chymuned Gymraeg.

"Mae pobl wir yn helpu, yn cymryd amser a dwi mor werthfawrogol."

Erbyn hyn mae’n rhaid i bob swydd o fewn y llu gael rhyw lefel o ddealltwriaeth o’r Gymraeg, a Heddlu’r Gogledd yn mynnu fod cefnogaeth a llwybrau dysgu i un rhywun sydd am ddatblygu hynny.