Â鶹ԼÅÄ

Heddlu Gwent yn recriwtio siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Cath Baldwin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent yn derbyn oddeutu 80 o alwadau Cymraeg bob mis, medd Cath Baldwin

Mae Heddlu Gwent wedi dechrau ymgyrch recriwtio ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Am y tro cynta', maen nhw wedi hysbysebu'n benodol am bobl sy'n siarad yr iaith i weithio yn eu hystafell reoli i dderbyn galwadau 999 ac 101.

Yn ôl swyddog polisi'r Gymraeg gyda Heddlu Gwent, Cath Baldwin, maen nhw'n gwneud hyn er mwyn ateb y galw gan y cyhoedd, ac ateb gofynion y safonau iaith.

Dywedodd: "Er bod nifer o bobl gyda ni sy'n dysgu Cymraeg, mae'n cymryd amser nes bo nhw'n ddigon hyderus yn yr iaith i ddefnyddio'r iaith o dan y fath amgylchiadau sy'n bodoli yn yr ystafell reoli, felly ar hyn o bryd ryn ni'n trio'n gorau i ddenu siaradwyr Cymraeg.

"Mae'n amhosib dweud wrthyn nhw pa mor bwysig yw eu sgiliau iaith i ni - maen nhw'n werthfawr iawn."

Ar hyn o bryd, mae Heddlu Gwent yn derbyn rhyw 80 o alwadau Cymraeg bob mis.

"Dy'n ni ddim yn gallu ateb pob galwad yn Gymraeg ar hyn o bryd, a dyna pam mae mor angenrheidiol i ni i recriwtio siaradwyr Cymraeg," meddai Ms Baldwin.

'Heriol a chyffrous'

Mae'r broses o wneud cais am swydd yn cynnwys cyfres o brofion mae'n rhaid i'r ymgeiswyr eu cyflawni o fewn amser penodol, yn ogystal â chyfweliad ffurfiol, ac fe fydd y rheiny ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf.

Mae Megan Wright wedi bod yn gweithio yn yr ystafell reoli ym mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghroesyceiliog ger Cwmbrân ers 7 mis.

Dywedodd: "Mae'n gallu amrywio o alwadau am bobl ar goll, materion yn ymwneud â throseddau, cefnogi aelodau bregus o'r gymuned, a help gyda phethau fel problemau domestig.

"Dwi'n meddwl mae'r swydd yn really heriol, ond mae'n gyffrous a dwi'n caru bod e'n newid o un peth i'r llall - sdim un diwrnod byth yr un peth."

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y swyddi o fewn yr ystafell reoli ar 20 Mehefin.