Â鶹ԼÅÄ

Trenau rhwng y gogledd a'r de yn 'eithriadol o wael'

Trafnidiaeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pennaeth Trafnidiaeth Cymru (TC) wedi cydnabod fod y gwasanaeth trên sy'n cysylltu gogledd a de Cymru wedi bod yn "eithriadol o wael" yn ddiweddar.

Roedd prif weithredwr TC, James Price, yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher.

Mae'r hyn sy'n cael ei alw'n Llinell y Mers yn rhedeg o dde Cymru, trwy Amwythig i Crewe, ac ar hyd y llwybr yma mae trenau rhwng Caerdydd a gogledd Cymru yn rhedeg.

Er iddo gydnabod fod y gwasanaeth wedi bod yn perfformio'n llawer gwaeth ers y pandemig, dywedodd Mr Price mai dyma'r unig lwybr sy'n gwneud elw i TC.

Hen amserlen 'ddim yn gweithio'

Dywedodd wrth y pwyllgor hefyd y bydd amserlenni yn cael eu hadolygu dros yr haf, ac y bydd rhai gwelliannau yn wynebu oedi.

Yn ôl Mr Price, dyw'r hen amserlen "ddim yn gweithio" bellach, gyda mwy o bobl yn gweithio o adref ers y pandemig.

Ond fe wadodd y byddai'r newidiadau yn golygu llai o wasanaethau.

Llywodraeth Cymru sy'n llwyr berchen ar TC.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd James Price fod Llinell y Mers yn un o'r rhai prin sydd wedi gweld y galw'n cynyddu ers y pandemig

Yn dilyn beirniadaeth gan sawl AS, fe wnaeth Mr Price gydnabod fod Llinell y Mers wedi bod yn perfformio'n "eithriadol o wael" oherwydd problemau "oedd heb eu rhagweld".

Dywedodd fod hyn am fod trenau Dosbarth 175 wedi cael eu tynnu o'r rhwydwaith dros dro er mwyn gwirio eu bod yn ddiogel, oedd yn golygu y bu'n rhaid defnyddio trenau salach yn y cyfamser.

"O ganlyniad, roedden ni'n rhedeg gwasanaeth o safon is, gyda llai o gapasiti, oedd yn ei chael hi'n anodd bod ar amser," meddai.

Ond ychwanegodd ei fod yn credu bod y gwasanaeth "bron yn perfformio'n dderbyniol" bellach.

"Ond ein huchelgais, wrth gwrs, ydy rhedeg gwasanaeth gwych," meddai.

'Yr unig un sy'n gwneud arian'

Dywedodd fod Llinell y Mers yn un o'r rhai prin sydd wedi gweld y galw yn cynyddu ers y pandemig.

Ychwanegodd mai'r daith honno "ydy'r unig un sy'n gwneud unrhyw arian i ni".

Dywedodd hefyd fod rhannau ohoni yn "hen iawn ac araf iawn, felly fe allai wneud gydag ychydig o fuddsoddiad".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhwystredigaeth wedi bod gyda'r amharu mae adeiladu Metro De Cymru wedi'i achosi i deithwyr

Cafodd Mr Price ei herio gan ASau am wasanaethau sâl, gyda'r gwaith ar Metro De Cymru hefyd yn amharu ar deithwyr.

Fe gafodd ei holi gan AS Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake, a fyddai cynlluniau ar gyfer gwasanaeth pob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig yn cael ei wireddu erbyn Mawrth 2024.

Dywedodd Mr Price - oherwydd argaeledd trenau a "gallu" Network Rail - y bydd rhai cynlluniau "yn cael eu gohirio", ond ni aeth i fwy o fanylder ynglŷn â pha rai.

Dywedodd fod TC wedi "gweld newid enfawr mewn patrymau teithio o ganlyniad i Covid".

Ychwanegodd fod yr amserlen wedi'i ddylunio "10 mlynedd yn ôl fwy na thebyg" ac felly nad yw'n addas i'r byd ôl-bandemig.

Mae TC wedi gweld cost Metro De Cymru yn cynyddu o £734m i £1bn dros y blynyddoedd diwethaf, gyda Mr Price yn rhoi'r bai ar "chwyddiant", "Covid" a "gwaith isadeiledd oedd heb ei ragweld".

Mae'r gwaith ar y cynllun hefyd yn golygu fod amharu wedi bod ar amserlenni sawl ardal - fel ar linell Treherbert, ble mae bysiau'n rhedeg yn hytrach na threnau ar hyn o bryd.

Yn ôl AS Llafur Cwm Cynon, Beth Winter, mae rhai o'i hetholwyr wedi cael "rhybudd terfynol" am fod y gwaith wedi eu gwneud yn hwyr i'w swyddi mor aml.

Dywedodd Mr Price fod y rhan fwyaf o'r gwaith fydd yn amharu fwyaf ar deithwyr wedi ei gwblhau, "ar wahân i'r llinell trwy Dreherbert".