Â鶹ԼÅÄ

Cost adeiladu Metro De Cymru wedi codi i £1 biliwn

  • Cyhoeddwyd
MetroFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trenau FLIRT Dosbarth 231 cyntaf wedi'u cyflwyno'n gynt na'r disgwyl ar y lein rhwng Cwm Rhymni a Chaerdydd

Mae'r gost o adeiladu rhwydwaith rheilffyrdd Metro De Cymru wedi codi i £1 biliwn.

Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn dweud mai chwyddiant ac oedi oherwydd y pandemig sydd wedi gwthio'r pris ymhell uwchben yr amcangyfrif gwreiddiol o £734m.

Y disgwyl yw y bydd y Metro - sydd i fod i wella'r rhwydwaith rheilffyrdd y de-ddwyrain - yn cael ei gwblhau yn 2025.

Dywedodd prif weithredwr TC, James Price, ei fod yn gwneud "popeth sy'n bosib" i reoli costau.

'Tri chwarter ffordd drwy'r rhaglen'

Mae'r trenau FLIRT Dosbarth 231 cyntaf, a gafodd eu hadeiladu yn Y Swistir, wedi'u cyflwyno'n gynt na'r disgwyl ar y lein rhwng Cwm Rhymni a Chaerdydd.

Bydd model newydd arall, y trên tram Dosbarth 398 sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar er mwyn cael ei brofi, yn ymuno â nhw ar y rhwydwaith.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map o gynllun Metro De Cymru

Dywedodd Mr Price wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod "tri chwarter ffordd drwy'r rhaglen nawr".

"Felly mae cyfleoedd i bethau fynd yn sylweddol o chwith yn lleihau'n raddol," ychwanegodd.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r costau."

'Eisiau i bobl fynd 'nôl ar y trenau'

Mae'r Metro'n cael ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, fod adeiladu rheilffordd yn "fusnes cymhleth", ond ei fod yn gobeithio gweld y trenau newydd yn annog pobl i wneud llai o ddefnydd o'u ceir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae trenau newydd eisoes wedi cael eu gweld ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru ar gyfer profion

"Gobeithio y bydd pobl yn dechrau cael ffydd bod pethau'n gwella," meddai.

"Rydym yn gwario biliwn o bunnoedd ar y Metro, £800m ar drenau newydd ledled Cymru. Nawr rydyn ni eisiau i bobl fynd nôl ar y trenau."

Dywedodd hefyd fod nifer y teithwyr wedi lleihau'n sylweddol ers y pandemig.

"Nawr mae'r trenau'n gwella, rhowch gynnig arnyn nhw," ychwanegodd.