Tata Port Talbot: Beth yw barn y pleidiau?

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Cofnododd Tata UK golledion gwerth 拢364m yn 2023-24

Mae undebau ar fin gweithredu'n ddiwydiannol, wrth i Tata fwrw ymlaen 芒 chynlluniau ailstrwythuro mawr a thoriadau i filoedd o swyddi dur.

Mae'r cwmni, sy'n gwneud colledion o bron i 拢1m y dydd, yn cynnig adeiladu ffwrnais drydan gwyrddach ar ei safle mawr ym Mhort Talbot ar arfordir de Cymru.

Ond o ganlyniad i'r newidiadau hynny, fe fydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli.

Gyda'r etholiad cyffredinol ar y gweill, beth yw safbwyntiau鈥檙 gwahanol bleidiau ar y mater?

Mae'r diwydiant dur fel ffynhonnell swyddi wedi bod ar drai yng Nghymru ers ei hanterth yn y 1970au.

Ond mae Tata UK yn dal i fod yn gyflogwr preifat mawr ac mae dur yn parhau i fod yn rhan bwysig o economi Cymru.

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer 2023-24 yn dangos fod y cwmni yn colli bron i 拢1m y dydd.

Mae wedi ymrwymo i fuddsoddiad o 拢1.25bn mewn technoleg fwy eco-gyfeillgar ym Mhort Talbot, gyda grant o 拢500m gan Lywodraeth y DU.

Ond yn y cyfnod pontio, mae disgwyl i filoedd o swyddi ddiflannu yn y DU.

Mae rhai undebau yn edrych ar weithredu diwydiannol, gan honni bod y cynigion yn "chwalu swyddi a chymunedau'n ddiangen".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ni fydd canlyniad yr etholiad yn effeithio penderfyniad Tata, yn 么l y cwmni

Ni fydd Tata Steel yn newid eu cynlluniau ym Mhort Talbot, dim ots pwy fydd yn ennill yr etholiad cyffredinol.

Mewn neges at staff, rhybuddiodd y prif weithredwr Rajesh Nair 鈥渘ad yw鈥檙 etholiad cyffredinol na鈥檌 ganlyniad yn cael unrhyw effaith鈥 ar y penderfyniad i gau鈥檙 ddwy ffwrnais erbyn diwedd mis Medi.

Mae鈥檔 gam y mae鈥檙 cwmni鈥檔 dadlau sy鈥檔 hanfodol i dorri ar ei golledion ariannol, a pharatoi鈥檙 ffordd ar gyfer gwneud dur gwyrddach yn ne Cymru.

Roedd undebau wedi galw am gyfnod pontio hirach, gan gadw o leiaf un ffwrnais yn weithredol nes bod y ffwrnais drydan yn weithredol.

Ond mae Tata wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen 芒 chau鈥檙 ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Medi, gyda gwaith adeiladu ar y ffwrnais drydan i fod i ddechrau ym mis Awst 2025.

Mae bwrdd pontio wedi'i sefydlu i gydlynu cymorth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer gweithwyr fydd yn cael eu heffeithio, ac mae Llywodraeth y DU wedi addo rhoi 拢80m tuag at y gronfa, tra bod Tata Steel wedi ymrwymo 拢20m.

Disgrifiad o'r llun, Mae Jamie Jones yn gweithio ar y safle ers ei fod yn 17 oed

Dywedodd Jamie Jones, sydd wedi bod yn gweithio ar y safle am 28 mlynedd, fod staff yn gweithio 芒 "chwmwl du drostyn nhw ar y funud".

Mae Mr Jones, 45, yn gobeithio gweld y sefyllfa'n newid os fydd llywodraeth newydd yn San Steffan ar 么l yr etholiad.

Dywedodd y bydd cymunedau lleol yn cael eu "dinistrio" o ganlyniad i doriadau Tata.

"Mae pawb rownd fan hyn yn 'nabod rhywun sy'n gweithio'n y gwaith dur," meddai.

"Bydd Port Talbot a Chastell-nedd, ble dwi'n byw, bydden nhw'n cael eu dinistrio.

"Sai'n credu bod lot o jobs yna sy'n talu mor dda... fydd o'n anodd i bobl oed fi ail-trainio i wneud jobs eraill."

Beth yw barn y pleidiau?

Dywedodd y聽Ceidwadwyr Cymreig eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith dur yn parhau ym Mhort Talbot a'i fod yn ddiogel ar gyfer y dyfodol drwy gefnogi'r newid i ffwrneisi trydan.

Dywedon nhw fod Llywodraeth y DU yn buddsoddi 拢500m yn y ffwrneisi newydd, yn ogystal 芒 chreu cronfa bontio gwerth 拢100m i gefnogi gweithwyr i ailhyfforddi.

"Mae hyn yn gyferbyniad enfawr i'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru sydd heb wario'r un geiniog yn helpu'r trawsnewid," meddai llefarydd.

Ychwanegon nhw fod miliynau hefyd yn cael ei fuddsoddi yn economi ehangach de-orllewin Cymru gyda'r Porthladd Rhydd Celtaidd, allai greu miloedd o swyddi sgiliau uchel fyddai'n talu'n dda.

Dywedodd llefarydd y Blaid Lafur ar fusnes, Jonathan Reynolds, y byddai'r blaid yn addo mwy na'r 拢500m sydd wedi'i gynnig gan y Ceidwadwyr i gefnogi'r diwydiant dur yn ne Cymru.

鈥淓in cais yw nad oes unrhyw benderfyniadau di-droi鈥檔-么l yn cael eu gwneud cyn 4 Gorffennaf a bod y cwmni鈥檔 trafod gyda ni, gyda鈥檔 cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gyda鈥檙 undebau llafur, oherwydd mae yna fargen well y gellir ei gwneud,鈥 meddai.

Pan holwyd Mr Reynolds am sylwadau Tata na fydd canlyniad yr etholiad cyffredinol yn newid y cynlluniau, dywedodd: 鈥淢aen nhw wedi bod yn delio 芒 llywodraeth Geidwadol, sydd ddim wedi deall na gofalu am y diwydiant dur.

Ychwanegodd y byddai llywodraeth Lafur ar lefel y DU hefyd yn creu "cronfa trawsnewid dur gwyrdd gwerth 拢3bn".

Y diwydiant 'wedi'i adael i farw'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi ac ynni, Luke Fletcher AS, fod dyfodol y diwydiant dur wedi cael ei adael i "farw" gan Lafur a'r Tor茂aid ac nad oedd unrhyw frys gan y rhai sydd 芒'r p诺er i'w atal.

鈥淥 filoedd o swyddi medrus iawn sy鈥檔 talu鈥檔 dda sydd mewn perygl yn ne Cymru, i fethiant San Steffan i roi鈥檙 pwerau sydd eu hangen ar Gymru i fod yn gyfrifol am ein tynged economaidd ein hunain 鈥 rydyn ni鈥檔 gwybod nad yw hyn cystal ag y mae鈥檔 ei gael," meddai.

鈥淢ae gan Blaid Cymru weledigaeth glir o ran diogelu鈥檙 swyddi hyn trwy drawsnewidiad cyfiawn, a cheisio pwerau dros ein hadnoddau naturiol i helpu Cymru i ddatgloi ei photensial gwyrdd.鈥

Dywedodd fod Bargen Newydd Werdd Gymreig y blaid yn gosod gweledigaeth economaidd sy'n cynnig "gwaith gwerth chweil, ystyrlon a theg sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg yn y sector gwyrdd a sero-net".

Disgrifiad o'r llun, Mae'r diwydiant dur wedi cael ei "adael i farw", yn 么l Luke Fletcher o Blaid Cymru

Dywedodd y聽Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig na allai gweithwyr Cymru gael eu 鈥渢rin fel difrod cyfochrog鈥.

"Os na fydd y llywodraeth yn camu mewn, bydd y gymuned leol ac economi ehangach y rhanbarth yn cael eu difrodi," meddai llefarydd.

Mae'r blaid yn galw am weledigaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant dur yng Nghymru a ledled y DU, a'n dweud fod y Ceidwadwyr wedi "methu'n llwyr 芒 chyflawni un".

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn pwyso am gynllun moderneiddio a fyddai'n arbed swyddi a phontio i ddur gwyrdd ers blynyddoedd.

"Mae Ffrainc, yr Almaen ac eraill yn gwneud hyn, ond eto mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn cysgu wrth y llyw."

Dywedodd plaid Reform fod pob posibilrwydd mai鈥檙 gwaith dur fyddai'r "difrod nesaf sy'n cael ei achosi gan y prosiect Sero Net a wthiwyd gan y llywodraethau Llafur a Cheidwadol fel ei gilydd".

Ychwanegodd llefarydd: 鈥淢ae tair ffwrnais newydd gael eu cwblhau yn India sy鈥檔 gwneud sbort o鈥檙 sefyllfa y mae Port Talbot ynddi nawr.

"Yn bwysig iawn, mewn cyfnod mor ansicr mae angen ein dur ar gyfer ein diwydiant amddiffyn. Yna byddwn yn dibynnu ar wledydd eraill am y cyflenwad. Bydd yn sicr yn israddol o ran ansawdd o'i gymharu 芒 Phort Talbot."

Dywedodd y blaid fod Sero Net yn "obsesiwn" i'r ddwy brif blaid, gan ychwanegu na ellid cael aer gl芒n trwy ymateb yn fyrbwyll.