鶹Լ

Crynodeb

  • Datganiad y Gweinidog Addysg wedi'r cyhoeddiad bod arholiadau 2021 wedi'u canslo yng Nghymru

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020

  • Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 21:02 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    A dyna ni o'r Senedd am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl fory - tan hynny hwyl i chi a diolch am eich cwmni.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Pasio Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)wedi ei gyhoeddi 21:02 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Dyna gwblhau Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), y cyfnod olaf ond un.

  3. Pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoedduswedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Bil Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r Senedd yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Senedd yn ystyried y Bil ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Bil hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Senedd i basio testun terfynol y Bil.
  4. Gwelliant ar ofyniad o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau yn cael ei wrthodwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae gwelliant Delyth Jewell o Blaid Cymru sy'n nodi gofyniad o ran y Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau yn cael ei wrthod.

    Roedd naw o blaid, fe wnaeth 11 ymatal ac roedd 31 yn erbyn.

    Dywed y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James ei bod yn cefnogi'r mater mewn egwyddor a bydd y mater yn cael ei drafod eto yn ehangach.

  5. 'Cyfaddawd' ar bleidlais dinasyddion tramor yn cael ei wrthodwedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae'r Ceidwadwyr a Neil Hamilton o UKIP yn gwrthwynebu ymestyn hawl dinasyddion o dramor ond sy'n byw yn gyfreithiol yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau lleol.

    Mae gwelliant y Ceidwadwr Mark Isherwood, yr hyn mae e'n ei alw yn gyfaddawd, sef bod yn rhaid i ddinesydd tramor fod wedi byw yn y DU am gyfnod parhaol o ddim llai na thair blynedd cyn cael yr hawl i bleidleisio, yn cael ei wrthod.

    Roedd 12 o blaid, fe wnaeth tri ymatal ac roedd 36 yn erbyn.

  6. Gwrthod system pleidlais sengl drosglwyddadwy i ethol cynghorwyr i brif gyngorwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae gwelliant Delyth Jewell o Blaid Cymru a oedd yn cynnig mai'r "system bleidleisio ar gyfer ethol cynghorwyr i brif gyngor pan gynhelir pleidleisiau mewn etholiadau a ymleddir yw’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy," yn cael ei wrthod.

    Roedd 11 o blaid, fe wnaeth dau ymatal ac roedd 37 yn erbyn.

    pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. 'Diwygio a chryfhau atebolrwydd, perfformiad a thryloywder'wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Yn ogystal, nod y Bil yw diwygio a chryfhau atebolrwydd, perfformiad a thryloywder llywodraeth leol er mwyn “darparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o ansawdd uchel”.

    Mae yna nifer o ddarpariaethau yn y Bil sy’n ceisio hwyluso mwy o gydweithredu rhwng prif gynghorau i sicrhau “mecanweithiau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol”.

    Mae hyn yn cynnwys fframwaith i hwyluso uno gwirfoddol, neu ailstrwythuro prif gynghorau.

  8. Pleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oedwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Ymhlith y darpariaethau mwyaf arwyddocaol yn y Bil mae’r rhai sy’n ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithiol yng Nghymru.

    Hefyd ceir darpariaethau sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y rhain yn annog mwy o amrywiaeth ym maes llywodraeth leol i adlewyrchu’n well y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu.

  9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)wedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Nesaf dadl: Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

    Ymhlith y materion a fydd yn cael eu trafod mae etholiadau llywodraeth leol, system bleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, safonau’r Gymraeg a chyfarfodydd awdurdod lleol.

  10. Cymeradwyo yr adroddiad drafft ar Seibiant Dyledionwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae Aelodau'r Senedd yn cymeradwyo yr adroddiad drafft - Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020.

  11. Y cynllun seibiant dyledion ddim yn cael ei weithredu tan Mai 2021wedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    arianFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cael cymorth i bobl sy'n cael trafferth gyda dyled yn bwysig ac mae'n siomedig bod y cynnydd o ran datblygu'r cynllun seibiant dyledion wedi'i ohirio ar ddau achlysur. Yn gyntaf oherwydd Etholiad Cyffredinol 2019, ac yn ail oherwydd dechrau pandemig Covid-19 ym mis Mawrth.

    Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi bod llawer o waith i'w wneud eto ar y prosesau gweithredol sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu'r cynllun ac y bydd hyn yn waith heriol, yn enwedig i'r rhanddeiliaid allweddol sydd hefyd yn delio â llawer o effeithiau yn sgil pandemig Covid-19.

    Er y byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ffaith bod y cynllun seibiant dyledion yn cael ei weithredu cyn 4 Mai 2021, mae'n bwysicach, pan gaiff y cynllun ei weithredu, ei fod yn gweithio'n iawn gyda'r holl fesurau amddiffyn yn eu lle.

    Felly, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn mai'r dyddiad gweithredu, sef 4 Mai 2021, yw'r dyddiad cynharaf ar gyfer gweithredu cynllun seibiant dyledion yn gyflawn.

  12. Rhaid i'r rheoliadau gael eu gosod gerbron Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DUwedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Gwneir y Rheoliadau hyn gan y Trysorlys, ond rhaid eu gosod gerbron Senedd Cymru a dau Dŷ Senedd y DU, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad ym mhob un o’r Senedd-dai hynny.

  13. Sefydlu cynllun seibiant dyledion ar gyfer pobl sydd â phroblemau dyledwedi ei gyhoeddi 15:51 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae Jane Hutt yn cynnig bod y Senedd yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020.

    Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun seibiant dyledion ar gyfer pobl sydd â phroblemau dyled.

    O dan y cynllun, caiff pobl gymwys sydd â phroblemau dyled ac sy'n cael cyngor proffesiynol ar ddyled gyfnod o 60 diwrnod pan fydd llog, ffioedd a thaliadau yn cael eu rhewi a bydd camau gorfodi yn destun saib.

    Yn aml, cyfeirir at y cyfnod moratoriwm hwn yn foratoriwm ‘Lle i Anadlu'.

    Mewn perthynas â phobl sy'n cael triniaeth ar gyfer argyfwng iechyd meddwl, mae'r cynllun yn sefydlu llwybr arall lle gellir cael mynediad at fesurau diogelu moratoriwm, ac yn sicrhau bod y mesurau diogelu ar waith drwy gydol eu triniaeth argyfwng.

    Jane Hutt
  14. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng asesiad allanol ac arholiad?wedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Plaid Cymru

    Mae Siân Gwenllian yn dweud bod Plaid Cymru wedi bod yn galw am gael gwared ar arholiadau ers "ffiasco" arholiadau haf 2020.

    Mae'n dweud mai canslo arholiadau diwedd blwyddyn yw'r penderfyniad cywir i bobl ifanc Cymru a bydd hynny yn "lleddfu rywfaint o bryderon".

    Mae'n dweud y byddai Plaid Cymru wedi derbyn argymhelliad yr adolygiad annibynnol sy'n cael ei gadeirio gan Louise Casella - roedd hwnnw yn galw am waredu arholiadau ac yn nodi y dylid defnyddio graddau a oedd yn cael eu rhoi gan athrawon fel asesiad.

    Mae'n gofyn beth yw'r gwahaniaeth rhwng asesiad allanol ac arholiad.

    Siân Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Siân Gwenllian

  15. 'Mae'r elfen allanol yn bwysig,' medd Suzy Davieswedi ei gyhoeddi 15:34 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae Suzy Davies o'r Ceidwadwyr yn beirniadu'r gweinidog am "roi blas o'i chyhoeddiad ym mhapur newydd y Sunday Times a hynny cyn dweud wrth gynrychiolwyr etholedig pobl Cymru" yn y Senedd.

    Mae hi'n dweud mai'r hyn sy'n allweddol yw bod asesiadau yn cael eu gosod a'u marcio yn allanol fel eu bod yn gallu cael eu cymharu ag arholiadau y gorffennol ac mae'n dweud bod hynny yn gwarchod athrawon rhag cyhuddiadau o duedd anfwriadol.

    Mae Kirsty Williams yn cadarnhau ei bod wedi cael ei chyfweld gan y Sunday Times bythefnos yn ôl a hynny i drafod argymnhellion adroddiad annibynnol ac adroddiad Cymwysterau Cymru.

    "Dyfalu" oedd yr erthygl, meddai, ond mae'r ffaith iddi gael ei chyhoeddi ychydig cyn y cyhoeddiad "yn wers i mi", ychwanega.

    Suzy Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Suzy Davies

  16. Y darlun ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Mae penderfyniadau am yr arholiadau eisoes wedi cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

    Yn Yr Alban fe fydd gwaith cwrs ac asesiadau athrawon yn lle arholiadau National 5, sy'n cyfateb a TGAU, ond fe fydd 'na arholiadau o hyd ar gyfer yr Highers.

    Ar hyn o bryd bwriad Lloegr a Gogledd Iwerddon yw cynnal arholiadau ond yn hwyrach yn yr haf.

  17. Pryderon bod rhai disgyblion yn colli mwy o ysgol nag eraillwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    ArholiadauFfynhonnell y llun, PA

    Mae yna bryder am effaith anghyfartal y pandemig ar addysg oherwydd bod rhai disgyblion wedi colli mwy o amser o'r ysgol nag eraill.

    Mae cyrsiau eisoes wedi cael eu haddasu gan y bwrdd arholi, i gydnabod effaith cau ysgolion ym mis Mawrth.

    Ond ers i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol llawn amser ym mis Medi, mae nifer ohonynt wedi gorfod hunan-ynysu am bythefnos neu fwy oherwydd achosion positif o Covid-19 ymhlith disgyblion neu staff.

    Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 82% o ysgolion uwchradd Cymru wedi gweld o leiaf un achos ers mis Medi.

    Cafodd arholiadau eleni eu canslo ar ôl i ysgolion gau ym mis Mawrth, ond bu'n rhaid hepgor y drefn ar gyfer penderfynu graddau wedi ymateb ffyrnig i'r canlyniadau, a graddau ysgolion a cholegau gafodd eu rhoi yn y pendraw.

  18. Y gweinidog addysg am sicrhau tegwchwedi ei gyhoeddi 15:06 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Dywed y Gweinidog Addsyg, Kirsty Williams, mai sicrhau tegwch oedd wrth wraidd ei phenderfyniad.

    "Mae profiad disgyblion yn ystod y misoedd diwethaf wedi bod yn amrywiol," meddai.

    "Does neb yn gallu rhagweld sut bydd yr haint yn effeithio ar addysg yn ystod y misoedd nesaf ac rwyf am i ddisgyblion gael profiadau dysgu cadarnhaol yn yr ysgol."

    Kirsty Williams
  19. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ymdrin â chymwysterau yn 2021wedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    ArholiadauFfynhonnell y llun, Getty Images

    Nesaf mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn gwneud datganiad ar gymwysterau yng Nghymru yn 2021.

    Yn gynharach dywedodd Kirsty Williams bod holl arholiadau TGAU, AS a Safon Uwch yng Nghymru yn 2021 wedi cael eu canslo ac y bydd graddau'n seiliedig ar asesiadau a gwaith cwrs.

    Mae'n amhosib gwarantu chwarae teg i bawb mewn arholiadau, meddai, oherwydd effeithiau parhaus y pandemig.

    Ychwanegodd y byddai arweinwyr ysgolion a cholegau yn gweithio ar "ddull cenedlaethol" i sicrhau cysondeb.

    Bydd asesiadau yn cael eu gwneud o dan oruchwyliaeth athrawon, a byddan nhw'n dechrau yn ail hanner tymor y gwanwyn.

    Daw'r cyhoeddiad wrth i'r pandemig coronafeirws barhau i darfu ar addysg.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Datganiad a Chyhoeddiad Busneswedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich 10 Tachwedd 2020

    Senedd Cymru

    Nesaf y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes lle rhestrir busnes y Senedd yn y dyfodol hyd at dair wythnos o flaen llaw.