鶹Լ

Crynodeb

  • Pryder bod hawliau dynol preswylwyr wedi'u torri mewn cartrefi gofal

  • Dirwyon am dorri'r cyfyngiadau wedi'u codi i hyd at £1,920 yng Nghymru

  • Galw ar Lywodraeth y DU i helpu sector awyrennau Cymru yn sgil diswyddiadau BA

  1. Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020

    Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.

    Read More
  2. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Diolch am ddilyn ein tudalen heddiw. Byddwn ni'n dychwelyd eto yfory i roi'r diweddaraf i chi am y pandemig yng Nghymru.

    Byddwch yn saff a hwyl am y tro.

  3. 'Falch i fod yn rhan o rywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth'wedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae'r gweithwyr yn ffatri Ortho Clincial Diagnostics ym Mhencoed yn falch iawn i fod yn rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws.

    Fe fydd y ffatri ar gyrion Pen-y-bont yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu prawf newydd ar gyfer gwrthgyrff Covid-19 ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal.

    Mae OCD yn un o nifer o gwmnïau fydd yn cynhyrchu'r prawf gwaed ac mae'r cwmni eisoes yn darparu miliynau o brofion gwrthgyrff ledled y byd.

  4. Clybiau pêl-droed i ymarfer o 25 Maiwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd clybiau o Gymru sy'n rhan o'r gynghrair bêl-droed yn Lloegr yn dychwelyd i ymarfer ar 25 Mai.

    Mae canllaw gan y corff sy'n reoli'r cynghreiriau, yr EFL, yn datgan y dylai clybiau pêl-droed ddychwelyd yn raddol i hyfforddiant tîm cyntaf pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, yn seiliedig ar gyngor meddygol a gwyddonol.

    "Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r clybiau i sicrhau mai iechyd y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r staff sy'n dod gyntaf," meddai Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristaieth.

    "Mae ailddechrau hyfforddi ar gyfer ein chwaraeon proffesiynol yn gam cyntaf pwysig, a allai arwain at ailddechrau chwaraeon cystadleuol.

    "Bydd chwaraeon yn ailddechrau yn y dyfodol, y tu ôl i ddrysau caeedig i ddechrau, gan ddarparu ffynhonnell adloniant darlledu yn ystod cyfnod pan na fydd cynulliadau torfol yn ymarferol o bosibl.

    "Hyd yn hyn nid oes unrhyw amserlenni pendant i hyn ddigwydd."

  5. Safle Pencoed 'yn ganolog' ar gyfer profion Covidwedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Ffatri cwmni Americanaidd ger Pen-y-bont i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu prawf gwrthgyrff.

    Read More
  6. Creu prawf gwrthgorff newydd yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Bydd prawf gwrthgorff newydd sy'n cael ei ddatblygu yng Nghymru yn cael ei gyflwyno ledled y DU i ddweud a yw pobl erioed wedi cael Covid-19.

    Mae Ortho Clinical Diagnostics (OCD) yn un o nifer o gwmnïau a fydd yn cynhyrchu prawf gwaed newydd ac mae eisoes yn cyflenwi miliynau o brofion gwrthgorff ledled y byd.

    Dywed y gweinidog iechyd, Vaughan Gething y bydd Cymru’n penderfynu sut y caiff y prawf ei gyflwyno ond mae disgwyl y bydd ar gael mewn cartrefi gofal.

    Daw yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd miloedd o weithwyr iechyd a gofal yn cael cynnig mynediad i'r profion.

  7. Heddlu'n diolch ond yn rhoi rhybuddwedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Gydag ail benwythnos Gŵyl y Banc mis Mai bron yma, mae swyddogion Heddlu'r Gogledd yn annog pobl i "barhau gyda'u gwaith da drwy barhau i aros adref".

    Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Nigel Harrison: “Er ein negeseuon mynych sy'n cynnwys ar y cyfryngau cenedlaethol rydym wedi parhau i weld pobl yn teithio pellterau cwbl afresymol i ogledd Cymru sy'n hynod siomedig."

    Mae'r strwythur dirwyon presennol, a oedd yn rhoi dirwy o £60 am y trosedd cyntaf a oedd yn codi i £120 am yr ail drosedd neu fwy, yn cael ei disodli gan strwythur newydd lle mae'r dirwyon yn dyblu am bob trosedd.

    Bydd yn codi o £60 i £120 i £1,920 am y chweched trosedd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Arolwg: 'Cymry'n cytuno gyda'r cyfyngiadau'wedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 73% o bobl yn dal i deimlo bod y cyfyngiadau sydd ar waith yng Nghymru i reoli'r coronafeirws yn iawn fwy neu lai, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Dywed yr arolwg bod 90% o'r rhai a holwyd yn ystod wythnos 11-17 Mai yn meddwl y dylai fod yn fwy na thair wythnos cyn i'r ysgolion ailagor.

    O ran defnyddio masgiau wyneb, mae 11% o bobl yn nodi eu bod eisoes yn eu defnyddio y rhan fwyaf o'r amser pan fyddan nhw'n mynd allan a 17% yn eu defnyddio weithiau.

    Fe gafodd 554 o bobl eu holi.

  9. Ap newydd i weithwyr y GIGwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ap newydd gwerth £650,000 fydd yn galluogi i feddygon teulu, parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gael cyngor arbenigol pan fyddan nhw'n adolygu a thrin cleifion.

    Bydd Consultant Connect yn cael ei ddefnyddio gan GIG Cymru i helpu i ymdrin â’r achosion o Covid-19 a chefnogi’r gwasanaeth gofal sylfaenol yn yr hirdymor i gynnig gwell cyngor ac arweiniad i gleifion.

    Y gobaith yw y bydd yr ap yn atal ymweliadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau bod y bobl hynny sydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn ei chael.

    Dywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething y bydd yr ap yn "helpu i gefnogi gweithwyr gofal sylfaenol i benderfynu ar y driniaeth gywir ar gyfer eu cleifion".

    “Bydd yn arbed amser gwerthfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn lleihau nifer yr ymweliadau y mae’n rhaid i gleifion eu gwneud i’r ysbyty, ar adeg pan fo ein gwasanaeth iechyd o dan bwysau ychwanegol."

  10. Peidiwch â marw o anwybodaethwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Aids a Covid-19 - gwersi o'r gorffennol

    Read More
  11. Staff mewn ysbyty yn hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Cambrian News

    Mae'r bod hyd at 20 o aelodau staff mewn ysbyty ym Mhowys wedi cael eu gorfodi i hunan-ynysu oherwydd achos o Covid-19.

    Mae'n debyg fod y bobl sy’n gweithio yn Ysbyty Sir Drefaldwyn yn Y Drenewydd mewn gwahanol swyddi, o lanhawyr i nyrsys.

    Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae sawl aelod o staff yn Ysbyty Sir Drefaldwyn wedi profi’n bositif am Covid-19 neu mae ganddyn nhw symptomau Covid-19.

    “Mae’r rhain yn cynnwys peswch parhaus newydd, twymyn, a cholli synnwyr blas neu arogl."

  12. Apêl i fusnesau Gwynedd roi stoc i fanciau bwydwedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Galw ar fusnesau sydd ar gau yn sgil argyfwng Covid-19 i gyfrannu bwyd dros ben i fanciau bwyd y sir.

    Read More
  13. Carwyn Jones: 'Angen cyd-weithio'wedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn galw ar wledydd y DU i weithio gyda'i gilydd.

    Dywedodd Mr Jones y byddai gweithio ar y cyd yn buddio'r economi yn rhyngwladol hefyd.

    Mae gwledydd datganoledig y DU wedi cymryd agweddau gwahanol tuag at y cyfyngiadau yn sgil y pandemig.

  14. 'Cadwch draw dros benwythnos Gŵyl y Banc'wedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Cyngor Sir Penfro

    Ar drothwy penwythnos Gŵyl y Banc arall, mae ymwelwyr a pherchnogion ail gartref yn Sir Benfro wedi cael eu hannog gan yr awdurdod lleol i beidio â theithio yno.

    “Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r mwyafrif helaeth o bobl o’r tu allan i’n sir sy’n ufuddhau i’r cyfyngiadau cloi,” meddai arweinydd Cyngor Sir Penfro, David Simpson.

    "Mae angen i'r cydymffurfiad a'r cydweithrediad yna i barhau dros y penwythnos.

    “Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd o ystyried y newid yn rheolau yn Lloegr.”

    Pwysleisiodd y Cynghorydd Simpson: “Mae'r neges yn aros yr un peth. Byddwn yn croesawu ein hymwelwyr yn ôl pan fydd yn ddiogel dychwelyd."

  15. Graffiti gwrth-Gymreig yn ymddangos yn Yr Wyddgrugwedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio wedi i graffiti gwrth-Gymreig gael ei ddarganfod yn Yr Wyddgrug.

    Cafodd y geiriau "All Welsh die of Covid - scum" eu paentio ar y pafin ar ystâd Hafod Alyn yn y dref nos Fawrth.

    Mae'r graffiti bellach wedi cael ei glirio, ac mae'r heddlu'n dweud eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â mwy o wybodaeth.

  16. Iechyd meddwl: Ymddiheuro am 'gamgymeriad'wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Bwrdd iechyd yn ymddiheuro am atal triniaeth cleifion iechyd meddwl yn y gogledd mewn camgymeriad.

    Read More
  17. Ysgolion Yr Alban i ailagor ym mis Awstwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi y bydd holl ysgolion y wlad yn ailagor o 11 Awst.

    Bydd staff yn dychwelyd ym mis Mehefin i baratoi dosbarthiadau ar gyfer cynllun ble bydd cymysgedd o ddysgu mewn ysgolion a gartref.

    Dywedodd gweinidog addysg Cymru ddoe nad oedd hi am osod dyddiad eto ynglŷn â phryd y bydd ysgolion yn ailagor yma.

    Y bwriad yn Lloegr ydy i ysgolion ddechrau ailagor o 1 Mehefin - penderfyniad sydd wedi denu beirniadaeth gan undebau addysg.

    YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Ble yng Nghymru mae'r marwolaethau?wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Map
    Graff
  19. 9 o farwolaethau pellachwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod naw pherson arall gyda Covid-19 wedi marw dros y 24 awr ddiwethaf.

    Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 1,247 wedi marw ar ôl cael prawf positif yng Nghymru hyd yma.

    Mae 12,846 o bobl wedi cael prawf positif yma bellach - 166 yn fwy ers ddoe.

  20. Eid: Dathlu diwedd Ramadan yn wahanol, ond yr un mor flasuswedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mai 2020

    Fydd gŵyl Eid ddim yr un peth oherwydd coronafeirws ond mae'r un traddodiadau yn parhau

    Read More