鶹Լ

Crynodeb

  • 22 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 sy'n mynd â'r cyfanswm yng Nghymru i 1,154

  • Gwrthbleidiau Cymru yn galw am system brofi credadwy cyn codi cyfyngiadau

  • Busnesau yn galw am grantiau i'w helpu i fedru gweithredu ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle

  • Economi'r DU wedi crebachu o 2% yn y tri mis hyd at Mawrth 2020 oherwydd coronafeirws

  1. A dyna ni am heddiw....wedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    鶹Լ Cymru Fyw

    Mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd, ond fe fydd yn dychwelyd yfory am 08:00.

    Diolch am ddilyn ein diweddariadau yn ystod y dydd - hwyl am y tro gan bawb ar y llif byw am heddiw.

  2. System olrhain cyswllt Ceredigion yn 'gadarnhaol'wedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Cyngor Ceredigion

    Yn ôl Cyngor Ceredigion mae ei system olrhain cyswllt, lle mae pobl sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 yn cael eu ffonio gan swyddogion, yn cael effaith gadarnhaol ar helpu i gadw nifer yr achosion yn y sir yn isel.

    Am y pythefnos diwethaf mae swyddogion wedi bod yn ffonio pawb sydd wedi rhoi gwybod i'r Cyngor eu bod wedi profi'n bositif am y feirws.

    Mae'r swyddogion yn cynghori'r unigolion am y mesurau hunan-ynysu y mae angen iddyn nhw eu dilyn a hefyd yn cael manylion cysylltiadau agos y gallent fod wedi trosglwyddo'r feirws iddyn nhw.

    Wedyn, mae'r cysylltiadau agos hynny hefyd yn cael galwad gan swyddogion y Cyngor, sy'n gofyn iddyn nhw a ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau.

    Mae'r cyngor yn cydnabod bod gan y system ei chyfyngiadau. Mewn pythefnos dim ond deg o bobl y mae'r Cyngor wedi'u ffonio ar ôl iddyn nhw roi gwybod i swyddogion eu bod wedi profi'n bositif. Ond, er bod y niferoedd yn isel dywed swyddogion y bydd yr olrhain cyswllt a wnaed gyda'r unigolion hynny wedi helpu.

  3. Gormod o gleifion yn cadw drawwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae pennaeth Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud bod rhai sydd wedi cael trawiad ar y galon ddim yn ffonio am ambiwlans neu’n ymweld â’r adran frys am nad ydyn nhw eisiau rhoi pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn sgil y feirws.

    Mae Llywodraeth Cymru yn “bryderus iawn” ynglŷn â phobl sydd ddim yn defnyddio gwasanaethau’r GIG yn ystod y pandemig, medd Geoff Ryall-Harvey.

    Dywedodd y bydd y llywodraeth yn sôn am eu pryderon yn ystod y dyddiau nesaf, ond ei neges oedd y dylai pobl sydd yn pryderu am eu hiechyd ac yn credu bod yna argyfwng gysylltu gyda'r gwasanaeth iechyd.

    Meddygfa
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cleifion yn dal i gael eu hannog i gysylltu gyda'u meddyg teulu os ydynt yn bryderus am eu hiechyd

  4. Ffatri beiriannau Ford i ailagor wythnos nesafwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Ffatri beiriannau Ford i ailagor yr wythnos nesaf, ond dim ond tan fis Medi pan fydd yn cau am byth.

    Read More
  5. Cronfa argyfwng i gyhoeddwyrwedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae'r Cyngor Llyfrau yn cyfeirio at gronfa argyfwng i gyhoeddwyr, sydd bellach ar agor.

    Bwriad y gronfa yw i gefnogi'r cyhoeddwyr hynny sydd wedi dioddef o achos y pandemig.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Qatar Airways: Cwtogi staff ag awyrennauwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae Prif Weithredwr cwmni Qatar Airways wedi dweud wrth y 鶹Լ fod y cwmni yn cael gwared ag 20% o’u hawyrennau a staff. Dywedodd Akbar Al-Baker hefyd bod ymbellhau cymdeithasol yn “amhosib mewn awyren”. Ychwanegodd fod gofyn i bobl sydd yn hedfan i Brydain o awyrennau rhyngwladol hunan-ynysu am 14 diwrnod yn rhywbeth fyddai yn “dinistrio'r diwydiant”. Mae'r cwmni'n hedfan i nifer o leoliadau ar draws y byd o Faes Awyr Caerdydd.

  7. Cyngor ar gadw'n ddiogelwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Clod gan y canwr Paul Simon i fideo teyrnged i staff GIGwedi ei gyhoeddi 16:52 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae fideo o gôr rhithiol yn canu Bridge Over Troubled Water wedi ennyn sylw'r cyfansoddwr ei hun

    Read More
  9. Aros mae'r mynyddoedd mawrwedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Trafod opsiynau ar gyfer gemau rygbi'r hydrefwedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    鶹Լ Sport

    Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru yn dweud bod yna gynlluniau wrth gefn yn cael eu trafod ar gyfer gemau’r hydref.

    Mae Cymru fod i groesawu Seland Newydd, Yr Ariannin, De Affrica a Fiji i Gaerdydd fis Tachwedd ond mae amheuaeth ynglŷn â’r gemau yma yn sgil y coronafeirws.

    Dywedodd Gareth Davies bod twrnamaint tebyg i un y chwe gwlad neu gemau yn erbyn y gwledydd eraill sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried.

    Ychwanegodd nad oedd yn disgwyl i Gymru fynd i Seland Newydd i chwarae yn nhaith yr haf ond dyw Seland Newydd ddim wedi cadarnhau hyn yn swyddogol eto.

    Gareth Davies
  11. Staff ychwanegol er mwyn profi'r cyhoeddwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd 1,000 o staff yn cael eu penodi fel rhan o strategaeth newydd i brofi’r cyhoedd ac i olrhain lledaeniad coronafeirws.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd y gallu ar gael i gynnal 20,000 o brofion y dydd yn y dyfodol. 5,000 o brofion sydd yn bosib eu cynnal bob dydd ar hyn o bryd.

    Bydd y 1,000 o weithwyr yn cael eu dewis o gynghorau a byrddau iechyd ar draws Cymru.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Ffatri Ford yn ail agorwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    鶹Լ Wales News

    Bydd y ffatri Ford yn ail ddechrau cynhyrchu ceir wythnos nesaf.

    Mae’r 1,200 o weithwyr ym Mhen-y-bont wedi bod ar y cynllun ysbaid o’r gwaith gan Lywodraeth y DU ers Mawrth 25 yn sgil y pandemig.

    Roedd pryderon na fyddai’r ffatri yn ail agor o gwbl ar ôl i’r cyfyngiadau lacio ac mae’r ffatri fod cau yn llwyr fis Medi.

    Ffatri FordFfynhonnell y llun, PA Media
  13. Datgelu cynllun y camau nesaf wedi'r haint, ddydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Wrth ateb cwestiwn gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio cyhoeddi cynllun sy'n manylu ar y camau nesaf wedi coronafeirws, ddydd Gwener.

    "Dwi am i'r cynllun fod yn un clir ac un y medr y cyhoedd ei ddeall yn hawdd," meddai.

    Mae cais wedi bod ar i weinidogion Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion cynllun ar symud allan o'r cyfnod clo wedi i Boris Johnson gyhoeddi cynlluniau ar gyfer Lloegr.

  14. Cymru i gyhoeddi camau ar gyfer llacio cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Y llywodraeth i gyhoeddi cynlluniau ddydd Gwener ar sut i lacio'r cyfyngiadau Covid-19.

    Read More
  15. Awdures boblogaidd yn creu llyfrgell answyddogolwedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Tra bod llyfrgelloedd cyhoeddus ar gau oherwydd Covid-19, awdures o'r Bala'n creu un answyddogol.

    Read More
  16. Cynllun profi 'yn hanfodol' cyn llacio cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Cymru i allu profi hyd at 20,000 o bobl y dydd maes o law, yn ôl y Gweinidog Iechyd.

    Read More
  17. ...a dyma ddechrau!wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Heddlu'r Gogledd sydd wedi atal cerbyd oedd wedi dod o Middlesex i Dywyn gan rybuddio'r gyrrwr a'i droi am adref.

    Siawns mai nid dyna'r traeth agosaf?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cynllun gadael erbyn dydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyhoeddi cynllun i adael cyfyngiadau coronafeirws ddydd Gwener.

    Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford y cyhoeddiad wrth annerch y Senedd rhithwir y prynhawn yma.

    Dywedodd fod gwaith yn dal i gael ei wneud ar y cynllun a dywedodd: "Rwyf am iddo fod yn glir, ac rwyf am iddo gael ei ddeall yn hawdd gan y cyhoedd yng Nghymru."

  19. Adeiladwyr am weithio eto am 'rhesymau ariannol'wedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Mae yna beryg bod adeiladwyr yn mynd yn ôl i’w gwaith am “rhesymau ariannol” yn hytrach na “iechyd a diogelwch” medd Ffederasiwn y Meistri Adeiladu Cymru.

    Dywedodd Ifan Glyn, y Cyfarwyddwr yng Nghymru, bod diffyg cefnogaeth ariannol i gyfarwyddwyr cwmnïau adeiladu yn golygu bod rhai yn mynd yn ôl i’w gwaith er mwyn “sicrhau parhad y cwmni”.

    Dywedodd hefyd wrth y Pwyllgor Materion Cymreig bod diffyg canllawiau i’r diwydiant yng Nghymru yn destun pryder.

    AdeiladwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Camau i osgoi ymweld ag ail gartrefi?wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020

    Senedd Cymru

    Yn nghyfarfod llawn rhithwir o'r Senedd, mae Sian Gwenllian AS, yn gofyn pa gamau y mae'r llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau nad yw pobl yn ymweld ag ail gartrefi wrth i ŵyl y banc arall nesáu ac yn sgil llacio'r cyfyngiadau yn Lloegr

    Dywed y Prif Weinidog fod arwyddion wedi'u gosod ar bontydd Hafren ac yn y Gogledd a bod y llywodraeth mewn cysylltiad cyson ag awdurdodau lleol a heddluoedd Cymru.

    Pwysleisiodd hefyd na ellir gweithredu heb dystiolaeth bendant fod pobl yn dod i aros mewn ail gartrefi.

    Plismyn yn cadw golwg ar deithwyr yn ystod cyfyngiadau haint coronafeirwsFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Plismyn yn cadw golwg ar deithwyr yn ystod cyfyngiadau haint coronafeirws