Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Cadarnhau 110 o farwolaethau pellach - 84 ohonynt yn dyddio yn ôl dros gyfnod o fis

  • 751 bellach wedi marw yng Nghymru o Covid-19, ac 8,601 o achosion wedi'u cadarnhau'n swyddogol

  • Rhai o'r cyfyngiadau coronafeirws i gael eu cryfhau yng Nghymru erbyn y penwythnos

  • Mark Drakeford yn cyhoeddi 'saith cwestiwn' cyn bod modd llacio mesurau

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Dyna ni am heddiw, ond fe fydd y llif byw yn ôl 'fory gyda'r diweddara' yn ystod y dydd.

    Diolch am ddilyn a hwyl am y tro.

  2. Chwarae tiwns i drigolion Llanrugwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Cyn i ni orffen heno, rhywbeth bach i godi calon.

    Mewn cyfnod lle nad oes chwaraeon, does dim bwrlwm sy’n dod law yn llaw â’r gemau mawr chwaith.

    Felly mae’r dyfarnwr pêl-droed Aled Rhys Williams wedi bod yn cynnal cyngerdd i rai o drigolion Llanrug yng Ngwynedd bob nos Iau, gan chwarae rhai o anthemau sy’n aml i’w clywed mewn caeau pêl-droed a rygbi ar ei utgorn.

    Disgrifiad,

    Mae Aled Rhys Williams wedi bod yn cynnal cyngerdd i drigolion Llanrug am 20:00 bob nos Iau

  3. Cytundeb cyflogau i chwaraewyr Yr Elyrchwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Clwb Pêl-droed Abertawe

    Pwt o newyddion o'r byd chwaraeon, lle mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod chwaraewyr ac uwch-swyddogion wedi cytuno i leihau eu cyflogau o 20% am dri mis, ar yr amod bod y clwb yn ad-dalu'r swm pan fydd y byd chwaraeon yn ôl fel yr arfer.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Dau glaf yn cael gadael Ysbyty Treforyswedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae'r ddau glaf Covid-19 cyntaf fuodd yn derbyn cymorth anadlu yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cael gadael yr ysbyty.

    Dywedodd Danny Egan, 73, (isod) mai'r peth cyntaf y byddai'n ei wneud oedd rhoi cusan i'w wraig ar ôl derbyn cymeradwyaeth staff Ysbyty Treforys.

    Dywedodd y nyrs Kirsty Hopkins bod Mr Egan a chlaf arall, David Courtney-Williams, 48, wedi bod yn wael iawn ac felly ei fod yn wych gweld y ddau'n gwella.

    Danny Egan
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Danny Egan gymeradwyaeth wrth adael yr ysbyty

  5. Debenhams yn bygwth cau siopau heb gymorthwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae cwmni Debenhams wedi rhybuddio y bydd rhaid iddo gau ei brif siopau yng Nghymru oni bai fod y llywodraeth yn gwneud tro pedol ar ei benderfyniad i beidio lleihau cyfraddau busnes i'r busnesau mwyaf.

    Mae Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak wedi lleihau cyfraddau i bob busnes ym meysydd masnach, hamdden a lletygarwch yn Lloegr am flwyddyn.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru'n wreiddiol y bydden nhw'n defnyddio'r un cynllun, cyn penderfynu na fyddai busnesau gwerth dros £500,000 yn cael cymorth.

    Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi gofyn am sylw gan Lywodraeth Cymru am bryderon Debenhams.

    Debenhams
  6. Ail gartrefi yn fater 'cymhleth'wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod defnydd o ail gartrefi yn fater "cymhleth" cyn cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru i drafod y mater.

    Dywedodd Carl Foulkes bod y llu yn derbyn llawer o alwadau: "Mae ein pwerau fel yr heddlu yn glir os ydy pobl yn gyrru i ail gartrefi - gallwn ni eu troi yn ôl gan nad yw'n daith hanfodol."

    "Ond os ydyn nhw yna'n barod, mae'n fwy cymhleth." Ychwanegodd bod y ffaith bod rhai ail gartrefi'n cael eu defnyddio i roi llety i weithwyr allweddol yn cymhlethu'r mater ymhellach.

    "Mae angen ymdriniaeth ofalus, yn cynnwys nifer o asiantaethau."

  7. 'Problem casglu data' wrth wraidd ffigyrau uchelwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud mai "problemau sydd wedi eu canfod yn ein system adrodd" ydy'r rheswm dros gynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau yn yr ardal yn gysylltiedig â Covid-19.

    Roedd nifer y marwolaethau gafodd eu cyhoeddi heddiw yn cynnwys 84 oedd yn dyddio 'nôl rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, gan ddod â'r cyfanswm yno i 88.

    Dywedodd llefarydd bod diweddariad heddiw "yn cynnwys croniad o achosion ble mae claf wedi marw ac wedi cael prawf positif am Covid-19".

    Ychwanegodd: "Mae'r holl ddata ar achosion Covid-19 a marwolaethau wedi ei gasglu'n gywir ac mae'r broblem yn ymwneud â'r modd mae'r data yn cael ei rannu."

    Mae'r broblem wedi ei datrys yn ôl y bwrdd iechyd.

  8. Diffyg manylion 'ar adegau' gan Lywodraeth y DUwedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Ni chafodd system ceisio am brawf coronafeirws ar y we, sydd wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth y DU, ei drafod "yn fanwl" dros bedair gwlad y DU.

    Wrth ateb cwestiwn ar pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r system, dywedodd prif swyddog meddygol Cymru bod "adegau pan hoffwn ni, yng Nghymru, fod wedi cael mwy o wybodaeth am rai manylion ymarferol".

    Dywedodd Dr Frank Atherton bod y syniad wedi ei gytuno'n fras, ond bod "sawl esiampl pan mae cytundeb bras wedi golygu cymryd camau gwahanol" dros wledydd y DU.

    Dywedodd Dr Atherton bod profi, rhannu offer diogelwch a gadael y cyfnod o ynysu yn esiamplau.

  9. Marchnad ffermwyr dros y wewedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae tair o farchnadoedd ffermwyr y gorllewin wedi dod at ei gilydd i gynnig gwasanaeth 'rhith' yn ystod y cyfyngiadau coronafeirws gan nad ydy pobl yn gallu ymgynnull bellach.

    Eisoes mae 25 o gynhyrchwyr lleol wedi ymuno yn yr hwb, sy'n bartneriaeth rhwng marchnadoedd Aberystwyth, Aberaeron a Hwlffordd.

    Maen nhw'n cynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu ar-lein, gyda chwsmeriaid wedyn yn cael amser penodol i ddod i 'nôl eu cynnyrch.

    bocs llysiauFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae rhai cwsmeriaid wedi dechrau cael eu ffrwythau a llysiau drwy ddulliau gwahanol ers argyfwng Covid-19

  10. Dros 50,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiauwedi ei gyhoeddi 16:19 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae Prifysgol John Hopkins, sy'n casglu data ar Covid-19 yn yr Unol Daleithiau, yn dweud bod dros 50,000 o bobl wedi marw yno bellach.

    Yr Unol Daleithiau yw'r wlad sydd â'r nifer uchaf o farwolaethau o bellffordd, ac yno mae'r nifer uchaf o achosion hefyd - dros 869,000.

    UDAFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Cyfansoddwr yn canu clodydd côr o Gymruwedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    YouTube

    Mae cyfansoddwr adnabyddus wedi canmol côr o Gaerdydd am eu perfformiad rhithwir nhw o un o'i ddarnau mwyaf poblogaidd.

    Mae perfformiad Côr CF1 o 'Baba Yetu' gan Christopher Tin bellach wedi cael ei wylio degau o filoedd o weithiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Fe wnaeth y cyfansoddwr rannu'r fideo ar-lein, gan ddisgrifio'r perfformiad fel un “anhygoel".

    Dywedodd arweinydd CF1, Eilir Owen Griffiths fod y darn yn "ffefryn y côr ers talwm" a bod gan y geiriau "ystyr newydd o obaith yn ystod yr amseroedd caled hyn".

    Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    I osgoi fideo youtube

    Caniatáu cynnwys YouTube?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Dyw'r Â鶹ԼÅÄ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
    Diwedd fideo youtube
  12. Clod i gwmnïau sy'n helpu yn y frwydrwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Dim esboniad eto am yr oediwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dydy Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim wedi cynnig esboniad eto ynglŷn â pham y bu oedi sylweddol cyn cadarnhau'r 84 o farwolaethau ychwanegol yn y gogledd.

    Roedd y ffigyrau Covid-19 diweddaraf gafodd eu cyhoeddi'r prynhawn 'ma yn cynnwys nifer o farwolaethau ychwanegol yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd heb eu cynnwys yn y ffigyrau gynt.

    Wrth feio "oedi yn y broses adrodd", dywedodd llefarydd: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni'n darparu'r data fwyaf cywir a diweddar â phosib i'r cyhoedd am Covid-19."

  14. 'Peidiwch llacio rheolau cyn Gŵyl y Banc'wedi ei gyhoeddi 15:27 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru y dylai'r cyfyngiadau coronafeirws aros yn eu lle nes o leiaf ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai.

    Dywedodd Dafydd Llywelyn y byddai hynny'n atal pobl rhag llifo mewn i ogledd a gorllewin Cymru fel ffordd o "ddathlu" llacio'r rheolau.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi awgrymu y gallai'r mesurau gael eu llacio'n raddol yng Nghymru ymhen ychydig wythnosau.

    Dafydd Llywelyn
  15. Canllawiau llymach ar ymarfer corffwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Yn ôl canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru dylai pobl ymarfer corff "mor agos â phosib" at eu cartrefi.

    Y canllaw i seiclwyr ydy na ddylen nhw deithio'n bellach na "phellter cerdded rhesymol o'u cartrefi".

    Mae'r rheolau newydd hefyd yn ei gwneud yn glir na ddylai unrhyw un yrru i unrhyw leoliad i wneud ymarfer corff oni bai fod hynny'n hanfodol - fel pobl mewn cadair olwyn.

    Mae 'na rybudd hefyd na ddylai pobl ddefnyddio ymarfer corff fel "esgus" i wneud pethau eraill fel cael picnic neu ymlacio mewn parc.

    Ymarfer corffFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Dros £3,000 i uned gofal dwyswedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Mae clybiau a sefydliadau ar draws y wlad wedi bod yn codi arian tuag at y frwydr yn erbyn coronafeirws dros yr wythnosau diwethaf - gan gynnwys y rhodd hael yma o £3,100 gan Glwb Cymric i Uned Gofal Dwys Ysbyty Athrofaol Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Y da a'r drwg o symud Euros y merchedwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

    Mae ymosodwr Cymru, Natasha Harding wedi bod yn rhoi ei hymateb hi i'r newyddion fod Pencampwriaeth Euros y Menywod wedi ei symud o 2021 i 2022.

    Er bod y penderfyniad yn gwneud synnwyr o ystyried y byddai fel arall yn digwydd yr un haf ag Euros y dynion a'r Gemau Olympaidd, meddai, dydy o ddim yn newyddion cystal i chwaraewyr fel hi fydd flwyddyn yn hÅ·n erbyn dyddiad newydd y gystadleuaeth!

    Ar hyn o bryd mae Cymru'n ail yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i Norwy, gyda'r enillwyr yn cyrraedd y gystadleuaeth a'r tîm sy'n ail yn cael lle yn y gemau ail gyfle o leiaf.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Colli dros £2m o dwyll coronafeirwswedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent wedi rhybuddio unwaith eto am dwyll yn ymwneud â coronafeirws, gyda dros £2m wedi ei golli i sgamiau o'r fath hyd yn hyn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Esboniad o'r ffigwr uchelwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod 84 o'r marwolaethau sydd wedi'u cynnwys am y tro cyntaf yn y ffigyrau heddiw yn dyddio yn ôl dros fis.

    Fe ddywedon nhw eu bod nhw wedi digwydd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill, a hynny ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond bod oedi wedi bod cyn adrodd hynny.

  20. 110 o farwolaethau pellach yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 24 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau 110 o farwolaethau pellach o ganlyniad i Covid-19, a 243 o achosion newydd.

    Dyma'r nifer uchaf o farwolaethau i gael eu cyhoeddi mewn un diwrnod yng Nghymru o bell ffordd.

    Ond mae Iechyd cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau mai 26 marwolaeth newydd sydd wedi'u hadrodd iddyn nhw heddiw, a bod yr 84 arall yn dod o oedi yn y broses o adrodd.

    Mae'n golygu bod y nifer sydd wedi marw o'r haint yng Nghymru wedi cyrraedd 751, gyda chyfanswm o 8,601 achos wedi ei gadarnhau.

    Ond mae'r gwir nifer yn debygol o fod llawer yn uwch, gyda nifer y marwolaethau ddim yn cynnwys pobl sydd marw mewn cartrefi gofal.