Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid gofyn i'r Undeb Ewropeaidd am ganiatâd i oedi proses Brexit

  • 412 wedi pleidleisio o blaid y cynnig, gyda 202 yn erbyn

  • Yr holl welliannau gafodd eu cynnig wedi'u gwrthod gan ASau

  • Dydd Mawrth fe wnaeth ASau bleidleisio yn erbyn cytundeb Brexit Theresa May am yr eildro

  • Dydd Mercher fe wnaeth yr aelodau bleidleisio o blaid gwrthod gadael yr UE heb gytundeb

  1. Dynodi amser trafodwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Os fydd yn llwyddo, bydd Gwelliant I gan Hilary Benn yn dynodi amser i drafod Brexit gydol ddydd Mercher nesaf, 20 Mawrth.

  2. Galw ar yr ERG i 'ddod i'w synhwyrau'wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru

    Mae cyn-ymgynghorydd i Lywodraeth y DU, Tomos Dafydd wedi bod yn sgwrsio ag Alun Thomas ar Radio Cymru.

    Dywedodd bod angen i grŵp yr ERG "ddod i'w synhwyrau" a chefnogi cytundeb y prif weinidog pan fydd trydedd bleidlais arno'r wythnos nesaf.

    Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r bygythiad o beidio gadael yr Undeb Ewropeaidd o gwbl yn newid meddyliau "aelodau Ewro-sgeptig" y Ceidwadwyr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Gwelliant i'r gwelliant yn methuwedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae'r Is-welliant i Welliant I - gan yr AS Llafur Lucy Powell - wedi cael ei drechu gyda 311 o blaid ond 314 yn erbyn.

    Agos yn wir!.

    Bydd ASau nawr yn gadael y siambr unwaith eto i bleidleisio ar Welliant I.

  4. Mae'n fywiog tu allanwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Ond cyn hynny...wedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae Gwelliant i'r Gwelliant wedi ei gynnig.

    Pwrpas hwn yw cyfyngu ar y cyfnod lle bydd Gwelliant I yn weithredol (os fydd yn cael ei basio). Byddai'r cyfnod ond yn rhedeg tan 30 Mehefin os fydd yn llwyddo.

    Mae'n dechrau mynd yn gymhleth, ond arhoswch gyda ni...!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. 'Cwestiwn ar gyfer rhywbryd arall'wedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Tweli Griffiths
    Sylwebydd gwleidyddol

    Mae'r sylwebydd gwleidyddol Tweli Griffiths wedi bod yn egluro ar Radio Cymru pam fod y Blaid Lafur wedi ymatal eu pleidlais yn y gwelliant oedd yn galw am refferendwm arall.

    "Mae hi'n werth dweud mai'r cyfiawnhad mae Llafur wedi'i roi dros beidio cefnogi'r alwad am refferendwm arall yw mai Erthygl 50 a'r gobaith o'i ohirio sydd dan sylw," meddai.

    "Felly yn eu barn nhw, mae'n rhaid i'r cwestiwn o refferendwm ddigwydd rhywbryd arall."

  7. Gwelliant Iwedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Bydd y bleidlais nesaf ar Welliant I gan Hilary Benn, yr AS Llafur.

    Dywed y cynnig y dylai ASau rheoli busnes TÅ·'r Cyffredin yr wythnos nesaf yn hytrach na'r llywodraeth er mwyn rhoi cyfle i aelodau wneud amser i gynnal pleidleisiau arwyddocaol ar y broses.

    Byddai hynny hefyd yn golygu oedi Erthygl 50.

    Mae hwn yn cael ei weld fel gwelliant pwysig gan lawer o sylwebwyr gwleidyddol, ac fe allai fod yn bleidlais agos iawn.

    hilary bennFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
  8. Gwrthod refferendwm arallwedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae Gwelliant H, oedd yn gofyn am ymestyn Erthygl 50 er mwyn cynnal refferendwm arall, wedi cael ei wrthod gan ASau.

    Roedd 334 yn erbyn y gwelliant, gyda 85 yn pleidleisio o blaid.

    Daw hyn wedi i'r Blaid Lafur gyhoeddi na fyddan nhw'n pleidleisio ar y cynnig.

  9. 'Dim disgwyl i'r gwelliant lwyddo'wedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Gohebydd Brexit Â鶹ԼÅÄ Cymru ar Twitter

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Llafur yn ymatalwedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Wrth i lawer o ASau adael y siambr i bleidleisio, mae'n ddifyr nodi bod meinciau Llafur yn dal yn gymharol lawn, sy'n cadarnhau eu bwriad i ymatal eu pleidlais ar y gwelliant cyntaf.

    Llafur
  11. Nid pawb sy'n hapus am y gwelliannauwedi ei gyhoeddi 17:04 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae nifer o ASau wedi mynegi syndod a dicter ynglŷn â pha welliannau sydd wedi cael eu dewis gan John Bercow, neu yn fwy penodol, un o'r gwelliannau sydd ddim wedi'u dewis.

    Ni gafodd gwelliant sy'n gwrthod y syniad o refferendwm arall ei ddewis gan y llefarydd, er y bydd pleidlais ar welliant sy'n galw am y gwrthwyneb, sef cynnal refferendwm arall.

    Roedd dros 100 o ASau wedi cefnogi'r gwelliant yn galw am beidio cynnal refferendwm arall.

    Mae Mr Bercow wedi amddiffyn ei benderfyniad gan ddweud ei fod yn "gwneud dyfarniad ar amryw o ffactorau".

    Ond mae'r AS Ceidwadol Jacob Rees-Mogg wedi galw am fwy o eglurder ynglŷn â sut mae'r llefarydd yn dewis pa welliannau fydd yn cael eu trafod.

    John BercowFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
  12. Gwelliant Hwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae'r noson yn dechrau gyda phleidlais ar Welliant H, sydd wedi ei gynnig gan Sarah Wollaston - un o'r ASau a ymddiwsyddodd y chwip er mwyn ymuno â'r grŵp annibynnol yn gynharach eleni.

    Mae ei gwelliant yn galw am ymestyn Erthygl 50 am gyfnod sylweddol er mwyn cynnal ail refferendwm.

    Mae'r gwelliant hefyd wedi arwyddo gan bedwar AS Plaid Cymru.

    Mae ASau newydd adael i siambr er mwyn dechrau pleidleisio...

    wollaston
  13. Y cyfan ar Radio Cymru am 17:00wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Pa welliannau fydd yn cael pleidlais?wedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae llefarydd TÅ·'r Cyffredin, John Bercow wedi dewis pedwar gwelliant i'r brif bleidlais heno. Bydd pleidlais ar y rhain yn gyntaf :-

    • Gwelliant H - Mae'r gwelliant hwn yn gofyn am ymestyn Erthygl 50 er mwyn cynnal refferendwm arall;
    • Gwelliant I - Byddai'r gwelliant hwn yn galluogi i ASau reoli busnes y senedd ddydd Mercher nesaf. Fe fyddan nhw'n defnyddio'r amser i drafod, a gallai arwain at bleidleisio ar nifer o opsiynau gwahanol am Brexit;
    • Gwelliant E - Mae'r gwelliant hwn gan fainc flaen Llafur yn gwrthod cytundeb y prif weinidog a'r syniad o adael heb gytundeb. Mae hefyd yn galw am drefnu amser yn y senedd i DÅ·'r Cyffredin weithio tuag at gael mwyafrif o blaid strategaeth wahanol;
    • Gwelliant J - Byddai'r gwelliant hwn yn gorchymyn y llywodraeth i beidio cael pleidlais arall ar gytundeb Brexit Theresa May.
    John BercowFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
  15. Beth yn union yw'r bleidlais heno?wedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Bydd ASau yn pleidleisio heno ynglŷn â gofyn am ganiatâd gan yr Undeb Ewropeaidd i oedi ar y broses o adael.

    Pe bai'n pasio, byddai'r llywodraeth yn ceisio ymestyn trafodaethau Brexit nes 30 Mehefin eleni os yw ASau'n cymeradwyo cytundeb Theresa May erbyn 20 Mawrth.

    Mae'r prif weinidog wedi dweud y gallai'r broses o adael gael ei oedi am lawer yn hirach os nad yw ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo erbyn hynny.

    Ond mae ASau meinciau cefn a'r gwrthbleidiau wedi cyflwyno newidiadau i'r brif bleidlais, a bydd pleidlais ar y rheiny yn gyntaf.

    BrexitFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2019

    Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

    Mae'n brynhawn Iau, ac mae yna bleidlais allweddol arall ar Brexit yn NhÅ·'r Cyffredin.

    Fe gewch chi'r diweddaraf am y pleidleisio wrtho iddo ddigwydd yma ar Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

    Croeso cynnes i chi... unwaith eto!