Â鶹ԼÅÄ

Crynodeb

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (HASCAS) i’r gofal a’r driniaeth a ddarparwyd ar ward Tawel Fan

  • Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru

  • Dyfodol rheoli tir

  • Cyfrifoldeb cynhyrchydd estynedig

  • Dadl Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

  1. Hwylwedi ei gyhoeddi 18:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cymeradwyo Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredigwedi ei gyhoeddi 18:42 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r ACau yn pasio Cyfnod 4 - cam olaf - y .

    Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
    Disgrifiad o’r llun,

    Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

  3. Proses pedwar cyfnodwedi ei gyhoeddi 18:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i'r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
  4. Dadl: Cyfnod 4 y Mesur Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredigwedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Gyfnod 4 y (Cymru).

    Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig drwy ddiwygio Deddfau presennol, gan gynnwys yn benodol Ddeddf Tai 1996.

    Ym mis Medi 2016, fe gyhoeddodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dylai cymdeithasau tai fod yn rhan o'r sector gyhoeddus yn hytrach na'r sector breifat.

    Ond fe addawodd Llywodraeth Cymru gymryd "unrhyw gamau angenrheidiol" i newid y penderfyniad wedi pryderon y byddai cyfyngiad ar y nifer o dai fforddiadwy yng Nghymru.

    Arweiniodd penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol at bryderon na fyddai cymdeithasau tai bellach yn medru cael benthyg yr arian sydd ei angen ar gyfer darparu tai newydd.

    Ar hyn o bryd ystyrir fod cymdeithasau tai yn perthyn i'r sector breifat a gallant fenthyg cymaint o arian ag y gallant fforddio o fewn rheoliadau arbennig.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi addo darparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor cynulliad presennol.

    TyFfynhonnell y llun, Thinkstock
  5. 'Llywodraeth Cymru yn gorfod dal i fyny gyda'r farn gyhoeddus'wedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gorfod dal i fyny gyda'r farn gyhoeddus ar leihau ac ailgylchu gwastraff.

    Mae'n dweud os yw Llywodraeth Cymru yn methu dod i gytundeb gyda'r Trysorlys, dylai treth plastig un-defnydd gael ei gyflwyno yng Nghymru.

  6. Gweithio gyda llywodraeth y DU a gwenyddiaethau datganoledig eraill ar dreth plastig un-defnydd i'r DUwedi ei gyhoeddi 18:27 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r Ceidwadwr David Melding yn croesawu ymrwymiad y gweinidog i weithio gyda llywodraeth y DU a gwenyddiaethau datganoledig eraill ar dreth plastig un-defnydd i'r DU, a'r posibilrwydd o gynllun dychwel blaen-dâl y DU ar gyfer cynhwyswyr diodydd.

  7. Effaith cyfres Blue Planet y Â鶹ԼÅÄwedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Gareth Bennett UKIP yn cyfeirio at effaith cyfres Blue Planet y Â鶹ԼÅÄ ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ailgylchu a lleihau gwastraff.

    Tra'n croesawu gwaith i wella mynediad at ddŵr yfed mewn mannau cyhoeddus ar draws Cymru, mae'n codi pwysigrwydd mynediad i dai bach cyhoeddus.

    Mae dros wyth miliwn o dunelli o blastig yn cyrraedd moroedd y byd bob blwyddynFfynhonnell y llun, PA
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae dros wyth miliwn o dunelli o blastig yn cyrraedd moroedd y byd bob blwyddyn

  8. £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegolwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Hannah Blythyn yn amlinellu ei huchelgais i sicrhau mai Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y byd.

    Er mwyn sicrhau mai Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y DU, bydd gwaith yn dechrau i drefnu bod dŵr yfed ar gael yn fwy hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru.

    Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrch i newid ymddygiad er mwyn helpu pobl i weld gwerth dŵr ac i sicrhau mai dŵr tap yw’r dewis cyntaf ar gyfer torri syched.

    Mae hi'n cyhoeddi hefyd y bydd £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gael i "wella hyd yn oed mwy ar systemau a seilwaith casglu ac ailgylchu'r awdurdodau lleol, gan gynnwys y systemau sydd ganddynt ar gyfer plastigau".

    Hannah Blythyn
  9. Dewisiadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchyddwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Comisiynwyd Eunomia Research & Consulting Ltd (Eunomia) gan Lywodraeth Cymru i nodi , yn unol ag egwyddorion Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR), i fynd i’r afael â nifer o faterion yn ymwneud â mathau allweddol o ddeunydd pacio bwyd a diod.

    Bydd y gwaith hwn yn ôl adroddiad Eunomia Research & Consulting Ltd, yn "cyfrannu at y broses o ddatblygu dull gweithredu EPR ehangach yng Nghymru, yn unol â’r diwygiadau i Erthygl 8(a) o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

    "Yn unol â hynny, dylai dulliau gweithredu o’r fath geisio adennill yr holl gostau net, ond yn gostwng i 80% mewn rhai amgylchiadau. Byddai symud costau oddi wrth ddinasyddion/trethdalwyr tuag at ddefnyddwyr/cynhyrchwyr yn cyd-fynd yn llwyr â rhaglen Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, sy’n pwysleisio economi gryfach a thecach.

    "Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ddealltwriaeth fanylach o gwmpas posibl math o EPR sy’n: lleihau gwastraff ac yn cynyddu lefelau ailddefnyddio, atgyweirio, ail-weithgynhyrchu ac ailgylchu, cymaint ag sy’n ymarferol bosibl Mae’r amcan hwn yn uchelgeisiol, ac mae’n cydnabod yr angen i ysgogi gwelliannau".

  10. Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedigwedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, sydd nawr yn gwneud datganiad ar Gyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig, yn dilyn ymchwil wnaeth ganolbwyntio ar leihau ac ailgylchu gwastraff ac ar leihau sbwriel a achosir gan chwe math penodol o ddeunyddiau pacio bwyd a diod.

  11. Neil Hamilton yn cytuno gyda 'phob un gair'wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Neil Hamilton UKIP yn dweud ei fod yn cytuno gyda "phob un gair" o ddatganiad Lesley Griffiths.

  12. Beirniadu Llywodraeth Cymru am 'ildio'wedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Simon Thomas Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Cymru am "ildio" dros Fesur Ymadael yr UE, y mae e'n dweud fydd yn caniatáu i San Steffan a llywodraeth y DU i redeg materion rheoli tir ôl-Brexit, ac amddifadu cyfleuoedd ar gyfer arloesedd mewn ffermio yng Nghymru.

    Simon Thomas
  13. Cyllid i ffermwyr ar gyfer y dyfodolwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd y Cynllun Taliad Sylfaenol yn parhau am y flwyddyn gynllun 2019, ond yn galw ar Lesley Griffiths i "ymuno gyda Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid i ffermwyr ar gyfer y dyfodol tan 2022".

    Paul Davies
  14. Ail-ddatgan pump o egwyddorion sylfaenolwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Lesley Griffiths yn dweud bod Brexit yn rhoi "siawns unwaith mewn cenhedlaeth i ail-gynllunio ein polisïau ni".

    Mae'n ail-ddatgan pump o egwyddorion sylfaenol ar gyfer dyfodol ein tir a'r bobl fydd yn ei reoli.

    Sef:

    • ·Rhaid inni gadw rheolwyr tir ar y tir;
    • ·Mae cynhyrchu bwyd yn hanfodol i'n cenedl;
    • ·Bydd y cymorth yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu nwyddau cyhoeddus fydd yn darparu ar gyfer holl bobl Cymru; a
    • ·Dylai pob rheolwr tir gael y cyfle i elwa o'r cynlluniau newydd hyn.
    • ·Rydym angen sector amaethyddol llewyrchus a chadarn yng Nghymru, ar ba ffurf bynnag fydd Brexit.

  15. Amserlen ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol wedi Brexitwedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Lesley Griffiths wedi pennu amserlen ar gyfer dyfodol Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru wedi Brexit.Dywedodd wrth ACau y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau fel a gynlluniwyd ar gyfer 2018 ac ar gyfer 2019.

    O 2020 meddai, pan fydd pwerau yn dychwelyd o Ewrop, "bydd pontio graddol dros sawl blwyddyn o'r cynlluniau presennol i rai newydd. Erbyn 2025 hoffai Ysgrifennydd y Cabinet i'r broses ddod i ben a bydd yn rhoi amlinelliad o'r manylion pellach ym mis Gorffennaf, fydd yn destun ymgynghoriad".

  16. Rheoli ein tir gwledig yn dilyn Brexitwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Dyfodol Rheoli Tirwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Yr eitem nesaf yn y Siambr yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Dyfodol Rheoli Tir.

    Tir
  18. 'Ymrwymiadau atyniadol llywodraeth y DU yn Lloegr'wedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae David Rowlands UKIP yn nodi "ymrwymiadau atyniadol" llywodraeth y DU yn Lloegr, fel y HS2, ac yn galw am ddadl lawn ar wariant llywodraeth y DU ar isadeileddau rheilffyrdd yng Nghymru.

    David Rowlands
  19. 'Trwm ar siarad, ysgafn ar weithredu'wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn dweud nad yw ymrwymiadau blaenorol wedi cael eu cyflawni, fel tocynnau integredig i wasanaethau bysys a threnau.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn "drwm ar siarad, ysgafn ar weithredu".

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn dweud y "diffyg amlwg" yn y datganiad oedd yr angen i "gysylltu Cymru".

    Mae'n tanlinellu'r angen am "gyswllt gorllewinol cenedlaethol", fel bo pobl yn gallu symud o'r gogledd i'r de "heb orfod mynd trwy wlad arall".

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  20. Yr Athro Mark Barry i arwain dadansoddiadwedi ei gyhoeddi 16:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Mai 2018

    Mae Ken Skates - sy'n gwisgo rhosyn gwyn heddiw i godi ymwybyddiaeth tuag at Ddiwrnod Canser yr Ofari y Byd - yn cyhoeddi ei fod wedi gofyn i'r Athro Mark Barry i arwain ar gynhyrchu "bras raglen strategaeth", un ar ogledd Cymru ac un ar dde Cymru, o fewn dau neu dri mis.

    Ken Skates