Â鶹ԼÅÄ

Chwaraeon 2024: Chwe Gwlad anodd? Dyrchafiad i Wrecsam?

  • Cyhoeddwyd
cymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd 2023 yn flwyddyn llawn cyffro ym myd y campau yng Nghymru, ond beth allwn ddisgwyl i'w weld yn 2024?

Cennydd Davies, prif sylwebydd rygbi Â鶹ԼÅÄ Cymru, a gohebydd pêl-droed Â鶹ԼÅÄ Cymru, Owain LlÅ·r, sy'n edrych ymlaen.

Arweiniad Gatland

A fydd effaith Gatland yn parhau wrth i Gymru baratoi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad? Dyna'r cwestiwn y mae Cennydd Davies yn ei ofyn:

"Roedd nifer o wybodusion ar drothwy'r Cwpan Y Byd yn Ffrainc yn amau oedd gan Gymru'r gallu i ddianc mas o grŵp oedd yn cynnwys Fiji ac Awstralia, ond dyna yn union a wnaed, gan guro'r Wallabies mewn buddugoliaeth ysgubol yn Lyon yn y broses."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams yn dathlu yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd

"Roedd yr ail hanner yn erbyn yr Archentwyr yn Marseillie yn siom ond yn ei gyfnod prin ers ail-gydio yn yr awenau mae Warren Gatland wedi ail-gyflwyno safonau uchel, mae 'na drefn a ffitrwydd, amddiffyn a chryfder corfforol yn gonglfeini i'w gynllun.

"Mae 'na rhai serch hynny, sy'n parhau i amau doethineb yr undeb i'w wobrwyo â chytundeb pum mlynedd, ac mi fydd y mis mel ar ben yn gyflym os y bydd y sefyllfa yn mynd o chwith yn y Chwe Gwlad."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Warren Gatland wrth y llyw gyda Chymru o 2007-19, cyn dychwelyd yn 2022 ac arwyddo chytundeb pum mlynedd

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

"Mae yna dair gêm gartre' y flwyddyn nesa sy'n fantais a bydd y gobaith blynyddol yn dychwelyd pan ddaw Sadwrn cyntaf fis Chwefror" meddai Cennydd.

"Anodd yw proffwydo'r gystadleuaeth i Gymru eleni a'r gwir yw a oes yna unrhyw gyfiawnhad i unrhyw ymdeimlad positif o ystyried y problemau parhaol sy'n amgylchynu'r ranbarthau a'r gêm ddomestig?"

Mae Cennydd yn rhagweld cyfnod anodd i ranbarthau Cymru, yn bennaf oherwydd yr amodau ariannol.

"Unwaith eto ma tranc y rhanbarthau yn ofid mawr ac anodd yw gweld sut fydd modd dianc o'r dyfnderoedd o ystyried y wasgfa ariannol ar gyllidebau a'r straen ar y carfannau. Mi fydd y swm (gan Undeb Rygbi Cymru) yn disgyn i £4.5 miliwn tymor nesa ac y gwir yw does dim modd cystadlu'n deg a gwledydd eraill pan ma'r arian mor bitw o isel mewn cymhariaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel, sy'n arwain y rhanbarth drwy gyfnod o drawsnewid

"Mae 'na naratif amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd, sef fod y genhedlaeth nesa'n cael cyfle oherwydd yr hinsawdd sydd ohoni, ac mi fydd hyn yn talu ar ei ganfed yn y blynyddoedd i ddod.

"Mae 'na rhywfaint o wirionedd i hyn wrth gwrs ond dwi'n credu mai annoeth iawn yw mentro dweud y bydd pob dim yn iawn yn y pen-draw. Dyw hyn ddim yn mynd i ddigwydd dros nos a dwi'n ofni y bydd rhai blynyddoedd yn pasio cyn i ni oresgyn y storm bresennol.

"Diddorol oedd clywed Cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, yn dweud yn ddi-ffuant eu bod nhw'n cefnogi Pedwar tîm Proffesiynol. Wel, haws dweud na gwneud oherwydd ar hyn o bryd dyw'r fathemateg yn syml ddim yn cefnogi hynny a dwi'n amau yn gryf a yw'r deisen yn ddigon mawr i rhannu rhwng Pedwar - ma hynny'n drafodaeth am ddiwrnod arall!"

Disgrifiad o’r llun,

Cameron Winnett, un o chwaraewyr ifanc Caerdydd sy'n chwarae'n rheolaidd yn sgil sefyllfa ariannol y rhanbarthau

"Ac felly wrth edrych ymlân at 2024 mae'n gyfle i ddechrau â lechen lan, a dweud ffarwel i 2023 - blwyddyn ble fuodd Rygbi Cymru cymaint yn y penawdau am y rhesymau anghywir."

Yr Euros, Wrecsam ac Osian

Mae digon o arlwy bêl-droed i'r gohebydd Owain Llŷr yn 2024, gyda gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2024 ar frig y rhestr o flaenoriaethau:

"Y peth sy'n sefyll allan fwyaf yn y calendr pêl-droed wrth edrych ymlaen at 2024 ydi gemau ail-gyfle Ewro 2024. Yn anffodus mi fethodd Cymru orffen yn y ddau safle uchaf yn y grŵp rhagbrofol er fod eu tynged nhw yn eu dwylo eu hunain gyda dwy gêm i fynd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwy gêm gyfartal oedd hi i Gymru ar ddiwedd yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2024; 1-1 yn Armenia ac 1-1 yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd

"Y newyddion da ydi eu bod nhw wedi cael gêm hynod o ffafriol yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle. Mi fysa rhywun yn disgwyl i Gymru fod yn rhy gryf i'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac wedyn os ennill honno bydd 'na gêm gartref arall yn y ffeinal yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia.

"Dymuniad Rob Page ym mis Ionawr fydd gweld y chwaraewyr sydd ddim yn chwarae'n rheolaidd yn symud clybiau. Mae Kieffer Moore yn chwaraewr cwbl allweddol i Gymru ac mi roedd hi'n eithaf amlwg yn y gemau'n erbyn Armenia a Thwrci ym mis Hydref ei fod o heb chwarae digon o bêl-droed y tymor yma. Mae Caerdydd yn gobeithio ail-arwyddo'r ymosodwr, a petai hynny'n digwydd mi fydde fo'n hwb enfawr i Gymru cyn mis Mawrth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

A fydd Moore yn symud i Gaerdydd ym mis Ionawr?

"O ran y pedwar clwb o Gymru sy'n chwarae yn y Gynghrair Bêl-droed Lloegr mae'n ymddangos mai Wrecsam sydd â'r cyfle gorau o ennill dyrchafiad. Maen nhw wedi addasu'n syth i fywyd yn Adran 2 ar ôl ennill dyrchafiad y tymor diwethaf.

"Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn parhau i fod yn hynod gefnogol pan mae'n dod at gryfhau'r garfan, a 'swn i'n synnu dim gweld mwy o chwaraewyr yn cael eu harwyddo ym mis Ionawr gan gofio pa mor agos ydi'r Dreigiau at frig y tabl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Tozer a Luke Young yn codi tlws y Gyngres yn 2023... a oes dyrchafiad arall ar y gorwel yn 2024?

Her newydd Osian

"Un sy'n edrych ymlaen yn fawr at 2024 ydy Osian Roberts, a hynny ar ôl iddo gael ei benodi yn rheolwr dros dro ar glwb Como 1907 sy'n chwarae yn Serie B yn Yr Eidal.

"Mae ganddyn nhw gyfle gwych o ennill dyrchafiad i Serie A, a chael y cyfle i chwarae'n erbyn clybiau fel Juventus, AC Milan, Inter Milan, Lazio a Roma y tymor nesaf."

Ffynhonnell y llun, Como 1907
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Osian Roberts yn dechrau ar ei waith fel rheolwr dros dro ar Como 1907 ym mis Ionawr

"Mae Osian wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am gyfle fel hyn, a gyda Cesc Fabregas yn is-reolwr iddo mae'n swnio fel her gyffrous."

Ond nid rygbi a phêl-droed yw'r unig gampau fydd yn ein cyffroi dros y flwyddyn nesaf, fel esboniai Owain Llŷr:

"O ran y campau eraill - fe gawn ni wybod o fewn y misoedd nesaf pa athletwyr o Gymru fydd yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Paris.

"Un sydd yn eithaf saff o'i lle yn y tîm beicio ydi Emma Finucane a hynny ar ôl iddi ennill Pencampwriaeth y Byd yn y ras wib yn 2023. Y gobaith ydi y bydd hi'n gallu ychwanegu medal aur Olympaidd i'w chasgliad yn 2024."

Hefyd o ddiddordeb: