Â鶹ԼÅÄ

Gorsaf fysiau Caerdydd i agor yn 2024 wedi oedi o saith mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Argraff artistFfynhonnell y llun, HolderMatthias/Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Mae llun artist o orsaf fysiau newydd Caerdydd yn cynnwys rhai o'r fflatiau, siopau a swyddfeydd sydd wedi'u cynllunio

Bydd gorsaf fysiau newydd yng nghanol Caerdydd yn agor yn 2024 ar ôl saith mlynedd o oedi, yn ôl Trafnidiaeth Cymru.

Roedd y cynlluniau gwreiddiol wedi targedu agor yn 2017, ond ar ôl wynebu heriau, cafodd cynllun meistr ei gytuno yn 2018 - cyn i fwy o oedi a'r pandemig darfu ar hwnnw.

Ers i'r hen orsaf gael ei ddymchwel yn 2015, fel rhan o gynlluniau'r Sgwâr Canolog, mae'r ddinas wedi bod heb orsaf fysiau swyddogol.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd yr orsaf fysiau "yn agor yng ngwanwyn 2024".

Bydd y gyfnewidfa yn cynnwys mannau parcio ar gyfer 14 o fysiau ar ochr gogleddol o orsaf reilffordd Ganolog Caerdydd, gyda mwy i ddod ar yr ochr deheuol.

Hefyd, bydd y gyfnewidfa yn cynnwys fflatiau, siopau, a swyddfeydd, ar dir wrth ochr pencadlys Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Sgwâr Canolog, ar safle'r hen orsaf fysiau.