Â鶹ԼÅÄ

Cymeradwyo cynlluniau gorsaf fysiau newydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o'r orsafFfynhonnell y llun, Meshroom

Mae cynlluniau ar gyfer gorsaf fysiau newydd gwerth £100m a bloc o fflatiau 22 llawr yng nghanol Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo.

Bydd yr orsaf, sy'n cynnwys 14 safle unigol i fysiau, yn cael ei hadeiladu gyferbyn â safle'r hen orsaf ar faes parcio Marland House.

Mae'r datblygiad hefyd yn cynnwys 305 o fflatiau, swyddfeydd, unedau manwerthu a maes parcio preifat fydd yn rhan o gartref newydd y Â鶹ԼÅÄ yn y Sgwâr Canolog.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd benderfynu cymeradwyo'r datblygiad mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Er bod cynlluniau amlinellol ar gyfer yr orsaf fysiau eisoes wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr, dyma oedd y tro cyntaf i'r holl ddatblygiadau gael eu cynnwys gan y datblygwyr, Rightacres.

Mae'r datblygiad yn rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Rightacres a Network Rail.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr orsaf newydd yn cael ei adeiladu gyferbyn a safle'r hen orsaf

Mae rhai wedi beirniadu'r cynlluniau, gydag amheuon fod y safle yn rhy fach ac y byddai'n ychwanegu at lygredd a thagfeydd yn y brifddinas.

Dywedodd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd eu bod yn rhagweld "traed moch" yn yr orsaf ar amseroedd prysur oherwydd targedau cyrraedd a gadael afrealistig.

Yn ôl swyddogion y cyngor, bydd yr orsaf yn derbyn saith bws pob awr yn ystod yr amseroedd prysuraf, gyda gwasanaethau eraill yn defnyddio safleoedd ar y strydoedd.

Byddai modd lleihau lefel y llygredd o'r gyfnewidfa drwy ddefnyddio mwy o gerbydau hybrid neu drydan, meddai'r swyddogion.

Ffynhonnell y llun, Rightacres
Disgrifiad o’r llun,

Mae bloc o fflatiau 22 llawr hefyd yn ran o'r datblygiad

Bydd yr orsaf newydd yn cael ei rheoli gan gorff trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru.

Ychwanegodd yr adroddiad cynllunio fod gan Network Rail "obeithion hir dymor" o uwchraddio gorsaf drenau Caerdydd Canolog hefyd.