Â鶹ԼÅÄ

Diffyg trenau ar Ddydd Calan yn 'sefyllfa od'

  • Cyhoeddwyd
Trên Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru maen nhw yn y broses o "drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd"

Mae galwadau wedi cael eu gwneud i ystyried trin Dydd San Steffan a Dydd Calan fel rhan o'r "flwyddyn waith arferol" ar y rhwydwaith drenau yng Nghymru.

Daw hynny wrth i'r rhan fwyaf o gymoedd y de weld dim trenau'n rhedeg ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn, yn wahanol i weddill y wlad.

Mae'n sefyllfa "od" yn ôl y newyddiadurwr trafnidiaeth Rhodri Clark, sy'n dweud nad yw cwmnïau trenau wedi "dal lan" gyda gofynion y cyhoedd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw'n buddsoddi yn yr isadeiledd, a bod ganddyn nhw "gynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau Dydd Calan i Linellau Craidd y Cymoedd".

'Cwmnïau ddim wedi dal lan'

Mae'r diffyg gwasanaethau ar Ddydd Calan yn golygu unwaith eto na fydd trenau'n rhedeg rhwng Caerdydd a threfi mawr fel Merthyr Tudful, Pontypridd a Chaerffili.

Ond fe fydd gwasanaethau'n dal i redeg mewn rhannau eraill o Gymru ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Clark: "Mae'n od i fod yn gwario cymaint â hynny o arian i beidio cael gwasanaeth ar y diwrnod hwnnw bob blwyddyn"

"Mae hi rywfaint yn od fod 'na ardaloedd gwledig - trefi bach fel Llandeilo, Pwllheli, Llanrwst - fydd i gyd efo trenau'n rhedeg ar y diwrnod yna," meddai Mr Clark.

"Ond bydd ardaloedd mwy lle mae 'na boblogaeth uchel, fel Cwm Rhondda, Cwm Cynon, Cwm Taf, Cwm Rhymni, lle bydd dim trenau o gwbl.

"Mae'n werth cofio ein bod ni ar hyn o bryd yn buddsoddi, fel trethdalwyr, biliynau o bunnoedd i foderneiddio llinellau craidd y cymoedd.

"Rhain yw'r rhai fydd heb wasanaeth ar Ddydd Calan. Mae'n od i fod yn gwario cymaint â hynny o arian i beidio cael gwasanaeth ar y diwrnod hwnnw bob blwyddyn."

Ychwanegodd Mr Clark fod modd dadlau'r un peth ar gyfer Dydd San Steffan, gan fod galw uwch bellach gan bobl sydd eisiau teithio i'r brifddinas i siopa neu wylio gemau chwaraeon dros yr ŵyl.

"O'r blaen doedd y sales ddim yn dechrau nes tipyn ar ôl y Nadolig, a doedd dim cymaint o gemau chwaraeon â 'dyn ni nawr yn gweld ar Ddydd San Steffan," meddai.

Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS

"Ond yn anffodus dyw cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus ddim wedi dal lan gyda hynny.

"Mae'n sefyllfa sy'n mynd yn ôl i ddyddiau British Rail yn y cymoedd, lle doedd dim yr un galw.

"Byddai'n dda gweld Trafnidiaeth Cymru'n siarad gyda'r undebau am wneud Dydd Calan a Dydd San Steffan yn rhan o'r flwyddyn waith arferol."

'Dylai'r traciau ddim fod yn wag'

Dywedodd un teithiwr o Bontypridd ar Nos Galan fod diffyg trenau'r diwrnod canlynol yn golygu ei fod wedi gorfod gwrthod shifft yn ei waith yng Nghaerffili.

"Yn bersonol dyw e ddim yn gyfleus," meddai Eniola Olusegun. "Alla i bendant ddim mynd i'r gwaith fory - hyd yn oed dod yn ôl heddiw, mae'n annhebygol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eniola Olusegun wedi gorfod gwrthod shifft yn ei waith yng Nghaerffili

"Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n rhedeg mor aml â diwrnod arferol... dylai'r traciau ddim fod yn wag, dylen nhw redeg am hanner diwrnod, neu bob awr."

Ychwanegodd Laura Morgan fod y sefyllfa hefyd yn "anghyfleus iawn".

"'Dych chi i fod i helpu pobl i gyrraedd adref yn saff," meddai. "Mae tacsis mor ddrud, does dim llawer o bobl yn gallu eu fforddio nhw, yn enwedig ar Ddydd Calan."

Roedd Katlyn Edwards yn teithio i Gaerdydd gyda'i ffrindiau ar gyfer Nos Galan, ond yn wynebu gorfod dal trên cynt yn ôl nag y bydden nhw wedi ei hoffi oherwydd yr amserlen.

"Fi yn meddwl dylen nhw fod yn rhedeg ar amseroedd normal, achos i rai pobl dyna'r unig ffordd o gyrraedd gartref - falle bod nhw methu cael lifft, neu bod tacsis rhy ddrud."

Disgrifiad o’r llun,

Courtney Jones a Katlyn Edwards o Bontypridd

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru eu bod nhw yn y broses o "drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd".

"Gyda disgwyl llai o bobl yn teithio dros y gwyliau, mae TC wedi cymryd y cyfle i wneud gwaith isadeiledd sylweddol dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd er mwyn parhau gyda'n cynlluniau am waith peirianneg sylweddol ar gyfer Metro De Cymru.

"Mae cynlluniau yn y dyfodol i gyflwyno gwasanaethau Dydd Calan i Linellau Craidd y Cymoedd, yn ogystal â sicrhau gwasanaethau mwy cyson ar hyd y llinellau hyn wrth i'r buddsoddiad yn yr isadeiledd yma gael ei gwblhau, ac mae hyn oll ochr yn ochr a chyflwyno ein trenau newydd."

Pynciau cysylltiedig