Â鶹ԼÅÄ

Osian Roberts i reoli Como 1907 yn yr Eidal dros dro

  • Cyhoeddwyd
Osian RobertsFfynhonnell y llun, Como 1907
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Osian Roberts yn dechrau ar ei waith fel rheolwr dros dro ar Como 1907 ym mis Ionawr

Mae cyn-is reolwr Cymru, Osian Roberts, wedi cael ei benodi yn rheolwr dros dro ar dîm Como 1907 yn yr Eidal.

Mae'r clwb yn chwarae ar hyn o bryd yn yr ail haen, Serie B, wedi iddyn nhw gael dyrchafiad yn 2020-21.

Mewn neges ar wefan X, Twitter gynt, dywedodd y clwb fod Roberts wedi ei benodi tan ddiwedd tymor 2023-24 ac y bydd yn dechrau ar ei waith yn Ionawr.

Bydd Mr Roberts hefyd yn Bennaeth Datblygiad ond bydd yn canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu chwaraewyr ar ôl diwedd y tymor.

Wrth ei gyflwyno dywedodd y clwb fod Roberts yn enwog am ei ddylanwad ar bêl-droed Cymru a Morocco gan sicrhau fod y ddau dîm wedi cyrraedd lefel uchel ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd y datganiad hefyd ei fod wedi helpu i ddatblygu hyfforddwyr o bwys gan gynnwys Roberto Martinez, Mikel Arteta a Chris Coleman.

Wrth ei longyfarch dywedodd yr hyfforddwr dros dro presennol, a chyn-chwaraewr Sbaen ac Arsenal, Cesc Fàbregas: "Ry'n ni wrth ein bodd yn croesawu Osian Roberts i'n teulu pêl-droed.

"Gyda'i record eithriadol yn datblygu chwaraewyr a hyfforddwyr ry'n ni'n rhagweld y bydd Roberts yn bensaer llwyddiant ar gyfer pob oedran a phob lefel ac y byddwn yn cychwyn ar gyfnod newydd llwyddiannus."

Yn y cyfamser bydd y clwb yn chwilio am reolwr newydd llawn amser.