Meddyg o Gymru a'i deulu yn sownd yn Gaza

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae meddyg o Gymru sy'n sownd yn Gaza yn dweud ei fod yn ofni y bydd yn cael ei ladd cyn bod modd iddo ddianc o'r ardal.

Mae'r doctor - sydd eisiau bod yn ddienw rhag iddo gael ei dargedu - yn dweud eu bod yn "clywed am deuluoedd sydd wedi marw bob awr".

Mae teulu'r doctor wedi gorfod symud "pum gwaith" hyd yn hyn, wrth i fomiau ddinistrio lle maen nhw'n aros.

Mae'r Swyddfa Dramor yn dweud mai "diogelwch pobl Prydain yw ein prif flaenoriaeth o hyd".

Mae Israel wedi bod yn bomio Gaza ers ymosodiadau Hamas ar 7 Hydref, lle cafodd 1,400 o bobl eu lladd a 239 eu cymryd yn wystlon.

'Does gennym ni ddim byd'

Mae'r meddyg wedi byw yn Abertawe gyda'i deulu ers blynyddoedd, ac fe gyrhaeddodd y teulu o bump Gaza dridiau cyn i'r ymosodiadau gychwyn, ac wrth i'r ffin gau doedd dim modd iddynt ffoi.

Wrth iddo siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru ar y ffôn, esboniodd mai'r sŵn a oedd i'w glywed yn y cefndir oedd "sŵn yr awyrennau rhyfel, gallwch glywed y bomio".

"Mae'n dwysáu dros nos, sy'n fwy brawychus," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd bod ei gyfneither cyntaf a'i theulu wedi cael eu lladd, ond nad oedd sôn amdanynt yn y newyddion gan fod cynifer o deluoedd yn cael eu lladd - gormod i allu darlledu.

"Do'n i ddim yn gwybod am ddau ddiwrnod oherwydd bod y cyfathrebu mor wael.

"Maen nhw'n targedu popeth, adeiladau, ysgolion. Mae ardaloedd cyfan wedi eu dinistrio."

Mae'r weinidogaeth iechyd sy'n cael ei redeg gan Hamas yn Gaza yn dweud bod dros 8,000 o bobl wedi'u lladd ers i'r bomio gychwyn.

Dywedodd y meddyg eu bod wedi "gorfod symud pum gwaith" gan esbonio bod y fflat roedden nhw wedi bod yn ei rentu wedi'i fomio.

"Fe wnaethom ni lwyddo i adael gyda'n pasbortau ac ychydig o arian," meddai.

Mae ei wraig a'i dri o blant yno hefyd, yn ymweld â theulu y maen nhw'n helpu yn ariannol, a hynny mewn ardal lle mae 80% o'r boblogaeth eisoes yn ddibynnol ar gymorth rhyngwladol.

"Does gennym ni ddim byd. Ry'n ni wedi colli ein heiddo i gyd. Ry'n ni'n symud o un lle i'r llall yn chwilio am rywle saff," eglura.

"Ro'n ni a'm plant yn gwisgo'r un dillad am bythefnos."

Dywedodd mai dim ond ychydig o ddyddiau yn ôl y llwyddon nhw i fynd i'r farchnad i gael mwy o ddillad, ond nad oedd hynny yn beth diogel i'w wneud.

"Cafodd 33 aelod o'r un teulu eu lladd y diwrnod o'r blaen mewn ardal oedd i fod yn saff," sy'n rhywbeth cyffredin erbyn hyn, dywedodd.

"Mae adeilad ar bob stryd wedi ei daro erbyn hyn. Pob awr ry'n ni'n clywed am deulu sydd wedi cael eu lladd.

"Dw i'n meddwl bod pawb yn galaru. Mae pawb yn aros i gael eu lladd."

Swyddfa Gartref 'wir ddim yn dda'

Mae'r trydan a rhan fwyaf o'r dŵr bellach wedi cael ei droi i ffwrdd yn Gaza. Mae Israel hefyd wedi atal mewnforio bwyd, tanwydd a nwyddau eraill er mwyn dial ar ymosodiad Hamas.

Mae'r teulu wedi symud i dde Gaza erbyn hyn gan iddyn nhw gael gwybod bod yr ardal yn fwy diogel ac mae dyma'r lle gorau i groesi'r ffin.

Dywedodd y teulu eu bod wedi cysylltu â'r Swyddfa Dramor "ar yr ail ddiwrnod i gael rhywfaint o help" ond bod y tîm wedi gwrthod cymryd unrhyw fanylion dros y ffôn gan ddweud wrth y teulu i "fynd ar-lein a llenwi ffurflen".

"Doedd o wir ddim yn dda," meddai.

"'Dw i ddim yn credu bod ein llywodraeth wedi gwneud dim i'n hachub ni."

Dywedodd eu bod wedi cael eu "gadael ar ein pennau ein hunain" a pherygl "gwirioneddol o gael ein lladd gan fomio Israel o'r awyr".

Ychwanegodd fod angen "cadoediad ar unwaith" er mwyn caniatáu i gymorth ddod i Gaza.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er hynny, mae'r teulu yn dal i fod yn obeithiol ac mae eu AS lleol Geraint Davies wedi bod yn cysylltu â'r swyddfa yn ddyddiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Diogelwch pobl Prydain yw ein prif flaenoriaeth o hyd.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Aifft ac Israel i sicrhau bod pob dinesydd Prydeinig sydd eisiau gadael Gaza yn gallu gadael drwy groesfan Rafah neu lwybr arall cyn gynted ag y bo modd."