Â鶹ԼÅÄ

Neuadd Dewi Sant: Pryder am hawliau gweithwyr

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neuadd Dewi Sant yn cael ei chyfri'n neuadd gyngerdd genedlaethol i Gymru

Mae gweithiwr yn Neuadd Dewi Sant yn dweud ei fod yn "methu credu" bod cyngor dan reolaeth y Blaid Lafur yn trosglwyddo swyddi i gwmni preifat sydd ddim yn cydnabod undebau llafur.

Cyngor Caerdydd sydd yn rhedeg a rheoli'r neuadd gyngerdd ar hyn o bryd.

Ond mae cwmni preifat AMG, Academy Music Group, yn y broses o gymryd les ar y neuadd, fyddai'n golygu eu bod nhw'n gyfrifol am gynnal a chadw'r adeilad - a chyflogi'r gweithwyr yno.

Er i Newyddion S4C gysylltu gydag AMG i ofyn am ymateb ffurfiol, dyw'r cwmni heb ymateb i ebyst na galwadau ffôn.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddant yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddatrys unrhyw bryderon.

'Poeni am golli hawliau'

Yn ôl undeb Unsain, mae cwmni AMG wedi dweud na fyddan nhw'n cydnabod undebau llafur ymysg y gweithwyr.

Dywedodd Paul Jones, sy'n ddirprwy reolwr llwyfan technegol yn Neuadd Dewi Sant ers dros 15 mlynedd, fod hynny yn "rhywbeth difrifol".

"Mae'n hawliau ni gyd - dy'n ni wedi cael help gan yr undeb i gadw'r hawliau yna dros y blynyddoedd," meddai.

"Dy'n ni'n poeni am golli hawliau fel gweithio 37 awr yr wythnos, paid overtime, polisi gwyliau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Jones nad ydy'r gweithwyr wedi cael gwybod llawer am AMG

"Yr unig beth ni'n gwybod am AMG fel cyflogwr yw bod nhw ddim yn cydnabod undebau.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw eu polisi nhw am ddim byd arall."

Mae drysau'r neuadd gyngerdd wedi bod ar gau ers i ganllawiau ar goncrit RAAC, sydd yn bresennol yn nho'r adeilad, newid yn ddiweddar.

Yn ôl undeb Unsain, roedd AMG yn ymwybodol o hynny ac yn barod i gwrdd â'r gost o wneud yr adeilad yn ddiogel. Ond mae'r undeb nawr yn poeni am ddyfodol eu haelodau sydd yn gweithio yno.

Ffynhonnell y llun, Neuadd Dewi Sant

Dywedodd Emma Garson, ysgrifennydd cangen Cyngor Caerdydd yr undeb: "Rydyn ni wedi ein dychryn nad yw AMG yn cydnabod undebau llafur.

"Mae un o'n haelodau wedi gweithio yn Neuadd Dewi Sant ers dros 30 mlynedd. Rydyn ni am ddiogelu hawliau'r undeb.

"Ry'n ni'n gobeithio eu bod nhw'n ailystyried ac yn gweld nad creu trafferth yw ein bwriad ond gwella pethau i'n haelodau ni, i'r cyflogwr a hefyd i gwsmeriaid sydd yn defnyddio'r neuadd."

'Telerau ac amodau presennol wedi'u diogelu'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r cyngor wedi bod yn bwrw ymlaen â phroses i drosglwyddo Neuadd Dewi Sant i Academy Music Group i sicrhau buddsoddiad yn yr adeilad ac i gael gwared ar gost refeniw flynyddol o tua £1m am weithredu'r lleoliad.

"Dan y broses hon, byddai staff a gyflogir ar hyn o bryd yn y neuadd yn trosglwyddo i AMG gyda'u telerau ac amodau presennol wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth TUPE.

"Wrth baratoi ar gyfer y trosglwyddiad, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gydag undebau. Nid yw natur benodol unrhyw gytundeb wedi'i chwblhau eto a byddai angen cytuno rhwng yr undebau ac AMG cyn i'r staff drosglwyddo.

"Fodd bynnag, mae cau Neuadd Dewi Sant, oherwydd y newid yng nghyngor y llywodraeth mewn perthynas â'r defnydd o RAAC mewn adeiladau, wedi gohirio'r broses hon am y tro. Bydd y ffordd ymlaen yn dibynnu ar y lefel o ymyrraeth sydd ei hangen, a hynny os bydd ei hangen.

"Yn y cyfamser bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda'r holl randdeiliaid i ddatrys unrhyw bryderon, a bydd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda staff i'w hysbysu o'r sefyllfa wrth iddi ddatblygu."

Pynciau cysylltiedig