Â鶹ԼÅÄ

Cwmni'n cynnig rhedeg adeilad Neuadd Dewi Sant Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Dewi SantFfynhonnell y llun, Neuadd Dewi Sant

Mae cwmni wedi gwneud cynnig i redeg Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gan na fyddai'r cyngor yn gallu fforddio gwneud gwaith atgyweirio.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn adroddiad sy'n dangos bod angen gwaith cynnal a chadw hanfodol allai gostio "symiau sylweddol o arian" ar yr adeilad.

Mae'r adroddiad yn argymell bod cynnig Academy Music Group Limited (AMG) i gymryd yr awennau trwy brydles hirdymor yn cael ei dderbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydden nhw'n "ei chael hi'n anodd" dod o hyd i'r arian i gynnal y gwaith oherwydd y "twll du o £53m" yn eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

'Diogelu swyddi ac enw da'

Yn ôl y cyngor, byddai cynnig AMG yn golygu y byddai'n derbyn cyfrifoldeb llawn am yr adeilad.

AMG fyddai'n gyfrifol am fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw a gwaith moderneiddio'r adeilad ac nid y cyngor.

Mi fydden nhw'n ymrwymo i gyflogi holl staff presennol y cyngor a'r neuadd ar y telerau presennol.

Fe wnaeth y cyngor sicrhau mewn datganiad y byddai "enw da Neuadd Dewi Sant fel y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol ac un o'r lleoliadau cerddoriaeth glasurol mwyaf blaenllaw" yn cael ei ddiogelu ac y byddai AMG yn adeiladu ar hynny".

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Does dim dwywaith bod angen sicrhau buddsoddiad i Neuadd Dewi Sant.

"O ystyried y pwysau presennol ar gyllidebau - mae bwlch o £53m yn y gyllideb y flwyddyn nesaf - mae'r cyngor yn awyddus i archwilio modelau amgen all adfywio ac uwchraddio'r adeilad, gan ddiogelu statws y lleoliad fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru ar yr un pryd."

Bydd cyfarfod o Gyngor Caerdydd ddydd Gwener i drafod y cynnig ar Neuadd Dewi Sant.

Bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn edrych ar yr adroddiad cabinet mewn cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig