Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod 2023: Creu Cadair o goed ddisgynnodd mewn storm

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd ar gyrion Boduan o 5-12 Awst 2023
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd yn cael ei chynnal ar gyrion Boduan o 5-12 Awst 2023

Bydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd 2023 yn cael ei chreu o goed derw lleol a ddisgynnodd mewn storm.

Daw y coed derw o'r Lôn Goed, a blannwyd tua 200 mlynedd yn ôl, ac a anfarwolwyd gan gerdd R Williams Parry, 'Eifionydd'.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi briff ar gyfer cynllunio a chreu'r Gadair, a gyflwynir gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig.

Cafodd ei fagu am ran helaeth o'i blentyndod cynnar yn Iwerddon, ond fe ymgartrefodd yng Ngwynedd.

Mae ei deulu'n awyddus i ddathlu'r cysylltiad yma rhwng Cymru ac Iwerddon wrth gyhoeddi manylion y briff ar 17 Mawrth, sef Dydd San Padrig.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd buddugol greu'r Gadair o goedyn a ddisgynnodd mewn storm tua saith mlynedd yn ôl.

'Dodrefn i'r cartref, a thrawiadol ar lwyfan'

Dywedodd Huw Orwig ar ran y teulu, fod "cael y cyfle i wneud defnydd newydd ac amgen" o'r coedyn yn "apelio'n arw atom ni fel teulu".

"Gyda chymaint o sôn am stormydd yn creu difrod cynyddol i'n cynefinoedd dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n braf meddwl ein bod ni'n gallu defnyddio coedyn a fu'n rhan o lenyddiaeth ein gwlad yng ngherdd R Williams Parry er mwyn anrhydeddu'r bardd buddugol ar lwyfan y Pafiliwn ym mis Awst 2023," meddai.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

'A llonydd gorffenedig yw llonydd y Lôn Goed...'

Mae'r teulu hefyd yn awyddus i weld llechen neu lechi fel rhan o gynllun y Gadair, gan mai un o blant Bro'r Llechi oedd Dafydd Orwig.

Gobaith y teulu hefyd ydy gweld Cadair a fydd fel rhan o ddodrefn arferol y cartref, ond a fydd hefyd yn edrych yn "drawiadol ar lwyfan eang y Brifwyl, gan adlewyrchu urddas y seremonïau drwy gydol yr wythnos".

Mae'r briff llawn ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd ar gael , gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar 1 Mehefin 2022.

Bydd Tregaron yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni o'r diwedd, ar ôl gorfod gohirio'r ŵyl yno ddwywaith oherwydd y pandemig.

Mae Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd wedi'i symud i Awst 2023 a'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.