Â鶹ԼÅÄ

Penodi Elan Closs Stephens yn aelod Cymru ar Fwrdd y Â鶹ԼÅÄ

  • Cyhoeddwyd
Elan Closs Stephens

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod Elan Closs Stephens wedi ei phenodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd y Â鶹ԼÅÄ.

Roedd Ms Stephens yn ar fwrdd llywodraethu'r Â鶹ԼÅÄ, cyn i strwythur llywodraethu a rheoli'r gorfforaeth gael ei newid.

Mae 14 aelod ar y bwrdd, sy'n gyfrifol am oruchwylio annibyniaeth y Â鶹ԼÅÄ ac yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Ms Stephens yw Comisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, ac mae hi hefyd yn athro Emeritws mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

'Braint'

Dywedodd Ms Stephens: "Mae'n fraint i gael fy newis fel Cyfarwyddwr Anweithredol y Â鶹ԼÅÄ dros Gymru ar adeg mor gyffrous o ffurfio bwrdd newydd.

"Mae gen i ddau ddyhead sylfaenol. Rwyf am gyfrannu at lywodraethu cadarn o'r Â鶹ԼÅÄ fydd yn helpu ei wneud yn un o'r darlledwyr mwyaf parchus dros y byd.

"Rwyf hefyd wedi ymrwymo at weld Cymru'n cael ei phortreadu'n llawnach yma ac i weddill y DU."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi dweud ei fod yn "falch iawn" o'r penodiad

Wrth ymateb i benodiad Ms Stephens, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn falch iawn.

"Rwy'n falch iawn bod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi ar Fwrdd y Â鶹ԼÅÄ.

"Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y cyfryngau a'r diwydiannau creadigol, a bydd hi'n sicrhau bod llais y gynulleidfa yng Nghymru yn cael ei gynrychioli yn uchel ac yn glir o amgylch y bwrdd."