Gormod o Saesneg yn cael ei siarad ar Pobol y Cwm?

Ffynhonnell y llun, Golwg

Wrth i gymeriadau mwy Seisnig gael eu cyflwyno i opera sebon Pobol y Cwm, mae un sylwebydd wedi gofyn "beth yw pwrpas hyn i gyd?".

Yn y rhifyn cyfredol o Golwg mae Gwilym Dwyfor, sy'n ysgrifennu y golofn 'Ar y Soffa', yn dweud ei fod wedi sylwi fod mwy a mwy o Saesneg yng Nghwmderi yn ddiweddar.

Mae'n cyfeirio'n benodol at ymddangosiad "giangstars o Newcastle, cwpl o Saeson posh eisiau prynu tÅ· haf", Alaz y ffoadur o Gwrdistan, ac yn fwy diweddar Maya Cooper, y fferyllydd di-Gymraeg o Lerpwl.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C fod yr opera sebon, am y tro cyntaf erioed, "yn cyflwyno cymeriad fydd yn mynd ar y siwrne o ddysgu Cymraeg".

'Shifft ieithyddol'

"Fe fydd Maya, ynghyd â Sophie Mensah, yr actores sy'n ei phortreadu hi, yn cyrraedd Cwmderi fel dysgwr Cymraeg," meddai'r sianel.

"Bwriad Pobol y Cwm yw dilyn siwrne y mae llawer o bobl wedi mynd arni."

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Mae Mr Dwyfor yn cydnabod bod hyn yn gyfle i wneud "rhywbeth reit ddiddorol pe bai'r gwylwyr yn gallu dilyn taith cymeriad yn dysgu'r iaith", ac mae'n ychwanegu "yn unigol, gellid cyfiawnhau pob un o'r cymeriadau uchod".

"Ond gyda'i gilydd maent yn cyfrannu tuag at ryw shifft ieithyddol ehangach yn y Cwm," meddai.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore Gwener dywedodd Mr Dwyfor mai annog trafodaeth oedd e wrth ysgrifennu'r golofn, a bod cael cymeriad sy'n dysgu Cymraeg yn "syniad diddorol".

"Dwi ddim yn gwrthwynebu y stori yma'n benodol, ond mae'n teimlo bod 'na newid gan S4C neu'r Â鶹ԼÅÄ," meddai.

"Mae yna ddadl gref dros fod mor naturolaidd â phosib am wn i, ond y pwynt ydi yw bod nifer o bethau eraill ddim yn naturolaidd - er enghraifft, y gyfradd o lofruddiaethau neu'r nifer sy'n mynd i dafarn ar bnawn Llun. Ond ffuglen yw hi."

Disgrifiad o'r llun, Yn 2015 fe ddaeth Dol, mam Debbie, i Pobol y Cwm fel cymeriad di-Gymraeg

Yn ei golofn mae Gwilym Dwyfor hefyd yn cyfeirio at ddyfodiad Cheryl, chwaer goll Gaynor, sydd wedi dod o Wrecsam "ac yn llawn Wenglish".

"Am ryw reswm - am ei bod yn dod o'r gogledd ddwyrain dwi'n cymryd - rydan ni fod i goelio ei bod hi'n pupuro'i brawddegau gyda geiriau Saesneg mewn modd hynod annaturiol," meddai.

"Rhaid gofyn y cwestiwn felly, beth yw pwrpas hyn i gyd?" mae'n gofyn ar ddiwedd yr erthygl.

"Mae yna rywun mewn siwt yn rhywle yn S4C neu'r Â鶹ԼÅÄ yn gwthio hyn, does bosib. Felly beth yw'r gôl yn y pendraw?"

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran S4C y bydd Cymraeg Maya, y cymeriad newydd, "yn gwella dros gyfnod, gan adlewyrchu taith siaradwyr newydd".

"Mae S4C yn croesawu siaradwyr o bob gallu, ac yn gweld y cymeriad newydd fel cyfle gwych i adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth," meddai.

Yn ôl Mr Dwyfor mae digon o wylwyr di-Gymraeg yn gwylio'r omnibws ar ddydd Sul gydag is-deitlau.

"Nid yw cynyddu'r Saesneg yn y ddeialog, dyweder o 5% i 10%, yn mynd i newid llawer ar eu profiad gwylio hwy, siawns?" mae'n gofyn.