Â鶹ԼÅÄ

Cymeriad di-Gymraeg ar Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Lynn Hunter fel Dol Pobol y Cwm
Disgrifiad o’r llun,

Lynn Hunter yw 'Dol' ar Pobol y Cwm

Mae disgwyl i gymeriad di-Gymraeg fydd yn rhan o gyfres Pobol y Cwm greu cryn dipyn o ymateb, yn ôl cynhyrchydd y gyfres.

Fe ddywedodd cynhyrchydd y gyfres wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw mai bwriad cyflwyno'r cymeriad yw adlewyrchu'r gymuned yng Nghymru, lle mae "dwy-ieithrwydd yn gwbl naturiol".

Mae 'Dol' - neu Dolores Alvarez Collins - yn fam i gymeriad Debbie, ac yn glanio yng Nghwmderi yn annisgwyl. Er nad ydi hi'n siarad Cymraeg, mae hi'n deall bob gair ac felly bydd cymeriadau yn sgwrsio gyda hi yn Gymraeg, a hithau'n ymateb yn Saesneg.

Yr actores, Lynn Hunter sy'n chwarae rhan 'Dol'.

'Disgwyl cryn ymateb'

Mae Llyr Morus wedi bod yn cynhyrchu Pobol y Cwm ers mis Chwefror eleni, a bu'n sgwrsio gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw am y syniad, gan gyfaddef ei fod yn disgwyl "cryn ymateb".

Dywedodd: "Mae Debbie'n gymeriad pwysig, a does neb - hyd yn hyn - yn gwybod ei hanes. Mae'n gwneud synnwyr i mi y byddai hi'n dod o gefndir Di-Gymraeg.

"O ran y gymdeithas Gymraeg sydd ohoni, mae dwy-ieithrwydd yn gwbl naturiol, ac mae eisiau dod a hynny i Pobol y Cwm. Mae'n bwysig i Gwmderi adlewyrchu'r gymdeithas 'da ni'n byw ynddi."

Roedd y broses o ddod o hyd i 'Dol' yn ddifyr, yn ôl Llyr, gan fod gan rai actorion "ormod o Gymraeg, bron. Byddai'n annaturiol gweld actor sy'n siarad Cymraeg yn siarad Saesneg ar Pobol y Cwm."

Gan fod Lynn Hunter wedi arfer bod yn rhan o gynyrchiadau dwyieithog, "roedd hi'n ddewis perffaith".

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dol yn rhoi cip i'r gynulleidfa o gefndir cymeriad Debbie

Cyfresi'n arloesi

Er ei fod yn dechneg newydd i gyfres Pobol y Cwm, fe ddywedodd Llyr bod "y syniad 'na o ddwyieithrwydd yn cyd-redeg yn rhywbeth sy'n ail natur erbyn hyn."

Ychwanegodd bod "cyfresi fel Y Gwyll wedi arwain y ffordd yng Nghymru, a chyn hynny, The Bridge, sy'n cynnwys Swedeg a Danaidd ochr-yn-ochr."

Mae Llyr yn cyfaddef ei fod yn disgwyl "cryn ymateb", ond yn gobeithio y gwnaiff y gynulleidfa "gymryd 'Dol' i'w calonnau" gan ei bod hi'n gymeriad "hoffus a direidus, ac yn eitha' tebyg i Kath Jones a dweud y gwir".

Mae'n barod i dderbyn y bydd 'na "drafodaeth iach" ymysg y gynulleidfa, ond yn gobeithio y bydd y syniad yn bachu rhagor o ddilynwyr sy'n dysgu Cymraeg, a rhoi'r hyder iddyn nhw gyfathrebu yn Gymraeg.