Gwahodd Eisteddfod yr Urdd i Ynys Môn yn 2026

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd 2022, yn Sir Ddinbych, ddenu 118,000 o ymwelwyr
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw

Bydd Ynys Môn yn gwahodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'r ynys yn 2026.

Yn ystod cyfarfod llawn o'r cyngor sir ddydd Mawrth, cafodd cynnig gan yr arweinydd i wahodd yr ŵyl ei basio'n unfrydol.

Y tro diwethaf i'r ŵyl ymweld â'r ynys oedd 2004 pan fynychodd 106,000 o bobl faes Sioe Môn ger Gwalchmai.

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae'r Eisteddfod yn un o brif ddigwyddiadau ieuenctid drwy Ewrop a does unman gwell na Môn er mwyn llwyfannu digwyddiad Cymreig i bobl ifanc Cymru."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llinos Medi fod hi'n "rhy gynnar" i drafod safleoedd posib ar yr ynys

Dywedodd Llinos Medi, arweinydd y cyngor sir, fod croesawu'r ŵyl ieuenctid am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd yn gyfle gwych i'r ynys.

"Mae hwn yn fater 'da ni wedi ei drafod yn fewnol ers dipyn ond mae Covid wedi drysu," meddai wrth Cymru Fyw.

"Tydi hi heb fod yma ers rhai blynyddoedd bellach a 'da ni isho ffurfioli'r gwahoddiad.

"Dwi wir yn gobeithio fydd y cynghorwyr i gyd yn gefnogol achos mae denu un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop yn bwysig iawn i ni a hefo'r Urdd yn llwyddiannus yma.

"Mae Cymreictod hefyd yn bwysig iawn i ni a dwi'n gobeithio'n fawr fydd y bleidlais yn gadarnhaol."

Disgrifiad o'r llun, Maes Sioe Môn oedd cartref Eisteddfod yr Urdd pan ymwelodd â'r ynys yn 2004

Gyda maes 'y Primin' yn safle pwrpasol i'r sioe amaethyddol flynyddol ym Mona, mae dyddiad y sioe ar ddechrau Awst wedi bod yn rhwystr rhag cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn y gorffennol.

Ond dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi nad oes unrhyw drafodaethau wedi bod am y lleoliad eto.

"Mae'n rhy gynnar ar y funud, gan obeithio rŵan fydd ein cais ffurfiol yn mynd i mewn, wedyn fydd angen cyfarfod cyhoeddus i weld faint o bobl yr ynys sydd yn barod i gefnogi a chasglu arian.

"Ar ôl hynny fydd y trafodaethau am unrhyw leoliad yn digwydd."