Â鶹ԼÅÄ

Eisteddfod yr Urdd 2025 yn mynd i Barc Margam, Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Parc Margam ym Mhort Talbot fydd lleoliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2025.

Cafodd hynny ei gadarnhau mewn cyfarfod cyhoeddus yno nos Lun.

Fe gafodd Steddfod yr Urdd ei chynnal yn yr union le 'nôl yn 2003.

Eisteddfod Tawe, Nedd ac Afan oedd yr enw bryd hynny, ond does dim penderfyniad eto ynglŷn â'r enw ar gyfer 2025.

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau: "Braf iawn oedd gweld cefnogaeth unfrydol gan gynrychiolwyr o'r ardal heno i wahodd Eisteddfod yr Urdd nôl i Gastell-nedd Port Talbot.

"Fel mudiad rydym yn edrych ymlaen yn fawr i ddychwelyd unwaith eto yn 2025 ac yn diolch o galon i Gyngor Castell-nedd Port Talbot am eu cefnogaeth arbennig."

Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, dirprwy arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Mae hon yn anrhydedd arbennig i Barc Gwledig Margam ac i Gastell-nedd Port Talbot yn ei gyfanrwydd, ac yn bleidlais wych o ffydd yn yr ardal, y parc a'r ffordd broffesiynol y mae'n cael ei redeg.

"Edrychwn ymlaen at groesawu'r llu o ymwelwyr fydd yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2025 ac yn annog pawb sy'n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot i fanteisio ar gael yr ŵyl wych yma ar ein stepen drws."

Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chynrychiolwyr o'r sir i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam

Ychwanegodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a Llesiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop ac mi fydd yn ddathliad o'r iaith Gymraeg a'n diwylliant.

"Bydd hefyd yn hwb i economi leol Castell-nedd Port Talbot drwy groesawu miloedd o ymwelwyr i'n sir."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

(chwith i'r dde): Dyfrig Davies; Siân Eirian; Maddie Pritchard, Maer Ieuenctid Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Steve Hunt, arweinydd y cyngor sir; Alun Llywelyn

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin eleni, rhwng 29 Mai a 3 Mehefin, ac ym Maldwyn yn 2024.

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2025 yn cael ei chynnal ym Mharc Margam rhwng 26-31 Mai 2025.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y Â鶹ԼÅÄ