Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hwlffordd yn sicrhau lle yng Nghyngres Ewropa
Roedd Hwlffordd yn drech na'r Drenewydd nos Sadwrn gan sicrhau eu lle yng Nghyngres Ewropa y tymor nesaf.
Bu'n gêm agos rhwng y ddau dîm gyda'r sgôr yn 1-1 wedi amser ychwanegol.
Corey Shephard oedd yr arwr i Hwlffordd - ef sgoriodd y gôl fuddugol yn y ciciau o'r smotyn wedi i Aaron Williams a Henry Cowans fethu'r targed i'r Drenewydd.
Gwnaeth dros 1,800 o gefnogwyr fynychu'r gêm, wedi i'r ddau dîm cytuno i roi mynediad am ddim i gefnogwyr i Barc Latham.
Hwlffordd aeth ar y blaen gyntaf gyda Jordan Davies yn rhwydo'r bêl yn yr hanner gyntaf, ond daeth Craig Williams â'r sgôr yn gyfartal cyn hanner amser.