Â鶹ԼÅÄ

Hwlffordd a'r Drenewydd i gystadlu am le yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Zac JonesFfynhonnell y llun, Cymru Premier
Disgrifiad o’r llun,

Y golwr Zac Jones oedd yr arwr i Hwlffordd

Y Drenewydd a Hwlffordd fydd yn cystadlu am le olaf clybiau Cymru yng nghystadlaethau Ewrop y tymor nesaf.

Llwyddodd Hwlffordd i drechu Met Caerdydd ar giciau o'r smotyn nos Sadwrn yn yr ail o gemau ail gyfle'r penwythnos i hawlio'u lle yn rownd derfynol.

Daeth hyn wedi i'r Drenewydd drechu'r Bala o 4-2 ar Faes Tegid nos Wener.

Bydd enillwyr y gêm derfynol penwythnos nesaf yn ennill lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf, a gwobr ariannol gwerth o leiaf €150,000 (£133,000).

Eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr un gystadleuaeth mae Cei Connah a Phenybont, gyda'r Seintiau Newydd i gystadlu yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Y golwr yn serennu

Mewn hanner cyntaf di-sgôr ar Gampws Cyncoed, Hwlffordd oedd y tîm mwyaf bygythiol ond doedd yr ymwelwyr methu canfod y gôl hollbwysig.

Fe wnaeth hynny adael cyfle i Met Caerdydd ddod yn ôl i'r gêm yn yr ail hanner, ac fe gawson nhw eucyfle gorau gydag 20 munud i fynd.

Ond wedi iddyn nhw gael cic o'r smotyn ar ôl i Henry Jones wthio Tom Price yn y cwrt cosbi, llwyddodd y golwr Zac Jones i arbed yn wych o ergyd Eliot Evans.

Y myfyrwyr gafodd gyfle gorau'r amser ychwanegol hefyd, ond unwaith eto fe wnaeth Zac Jones arbed yn rhagorol pan oedd Sam Jones drwyddo ar y gôl.

A'r golwr oedd yr arwr unwaith eto yn y ciciau o'r smotyn, gan arbed dwy ergyd gyntaf Met Caerdydd cyn gwylio Elliott Dugan yn sgorio'r ergyd fuddugol wrth i Hwlffordd ennill o 4-3.

Noson dda i'r Drenewydd

Bydd Hwlffordd nawr yn teithio i'r Drenewydd ar gyfer y rownd derfynol y penwythnos nesaf, wedi i'r Robiniaid guro'r Bala nos Wener.

Roedd hynny wedi coroni diweddglo siomedig i dymor Y Bala, yn dilyn eu colled o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru ddydd Sul diwethaf.

Ffynhonnell y llun, CBDC/Nik Mesney
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Aaron Williams ddwywaith i'r Drenewydd ar Faes Tegid nos Wener

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen diolch i gôl Aaron Williams ar ôl 17 munud, ond roedd tîm Colin Caton yn gyfartal wedi 37 munud diolch i George Newell.

Pum munud yn ddiweddarach roedd Y Drenewydd yn ôl ar y blaen diolch i Zeli Ismail.

Fe aeth tîm Chris Hughes ymhellach ar y blaen saith munud i mewn i'r ail hanner wrth i Williams rwydo'i ail.

Rhoddodd gôl arall gan Newell obaith i'r Bala, ond seliwyd y fuddugoliaeth gydag ail gôl Ismail ag wyth munud i fynd, yn dilyn amddiffyn siomedig.