Â鶹ԼÅÄ

Dim Joe Hawkins yng ngharfan hyfforddi Cwpan y Byd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe HawkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Hawkins chwarae mewn pedair o bum gêm Cymru yn y Chwe Gwlad eleni

Dydy'r canolwr Joe Hawkins ddim yn rhan o garfan hyfforddi rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd wedi iddo symud o'r Gweilch i Gaerwysg.

Mae 10 o chwaraewyr sydd eto i ennill cap dros Gymru yn y garfan hyfforddi o 54 chwaraewr, sy'n cynnwys prop Montpellier, Henry Thomas - enillodd saith cap i Loegr rhwng 2013 a 2014.

Y naw chwaraewr arall ydy Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Keiron Assiratti, Will Davies-King, Teddy Williams, Max Llewellyn, Joe Roberts, Keiran Williams a Cai Evans.

Mae'r clo Cory Hill, sydd bellach yn chwarae yn Japan, hefyd wedi ei gynnwys yn y garfan.

Mae Henry Thomas yn gymwys i gynrychioli Cymru trwy ei dad, ac am nad yw wedi cynrychioli Lloegr ers dros dair blynedd.

Does dim lle i Wyn Jones, Bradley Roberts na Rhys Patchell - tri a oedd yn rhan o'r garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ond mae Gareth Davies a Sam Costelow o'r Scarlets wedi eu galw yn ôl i'r garfan, yn ogystal â Taine Basham a Johnny Williams, yn dilyn anafiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Henry Thomas yn gymwys i gynrychioli Cymru am nad yw wedi ennill cap i Loegr ers dros dair blynedd

Fis Mawrth fe ddywedodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol fod Undeb Rygbi Cymru (URC) yn adolygu a fyddai Hawkins a Will Rowlands yn gymwys i chwarae dros Gymru ar ôl cytuno i adael rhanbarthau Cymru ar ddiwedd y tymor.

Cafodd y prif hyfforddwr Warren Gatland wybod nad oedd Hawkins yn gymwys bellach, ond bod modd galw Rowlands i'r garfan.

Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n chwarae i glybiau tu allan i Gymru fod wedi ennill o leiaf 25 cap er mwyn bod yn gymwys i gynrychioli Cymru bellach - ffigwr a gafodd ei ostwng o 60 yn ddiweddar.

Mae Hawkins wedi ennill pum cap, a Rowlands wedi ennill 23 cap, sy'n golygu nad yw'r un ohonynt wedi pasio'r trothwy hynny.

Ond penderfynwyd bod Rowlands yn gymwys i gael ei ddewis am ei fod wedi'i anafu yn ystod y Chwe Gwlad eleni, gan olygu nad oedd modd iddo basio'r trothwy o 25 cap cyn iddo symud i Racing 92 yn Ffrainc.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Will Rowlands yn symud o'r Dreigiau i Racing 92 ar gyfer y tymor nesaf

Bydd Cymru'n chwarae tair gêm fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc yn yr hydref, felly gallai Rowlands basio'r trothwy cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Ffiji ar 10 Medi.

Fe wnaeth Cory Hill adael Caerdydd i ymuno â Yokohama Eagles yn 2021, oedd yn golygu nad oedd modd iddo barhau i gynrychioli Cymru am mai 32 cap oedd ganddo.

Ond nawr fod y trothwy capiau wedi gostwng i 25, mae'n dychwelyd i'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cory Hill wedi bod yn chwarae yn Japan ers 2021

Bydd y garfan hyfforddi yn cwrdd tua diwedd Mehefin, cyn teithio i'r Swistir a Thwrci fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd.

Fe fyddan nhw'n herio Lloegr gartref ac yna oddi cartref ar 5 a 12 Awst, cyn croesawu De Affrica i Gaerdydd ar 19 Awst.

Mae disgwyl i Gatland enwi ei garfan derfynol o 33 chwaraewr yn fuan wedi hynny.

Bydd gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn Ffiji ar 10 Medi, cyn iddyn nhw herio Portiwgal, Awstralia a Georgia yng Ngrŵp C.

Y garfan hyfforddi yn llawn

Blaenwyr

Rhys Carre, Corey Domachowski, Kemsley Mathias, Nicky Smith, Gareth Thomas, Eliott Dee, Ryan Elias, Dewi Lake, Ken Owens, Keiron Assiratti, Tomas Francis, Will Davies-King, Dillon Lewis, Henry Thomas, Adam Beard, Ben Carter, Rhys Davies, Cory Hill, Dafydd Jenkins, Alun Wyn Jones, Will Rowlands, Christ Tshiunza, Teddy Williams, Taine Basham, Taulupe Faletau, Dan Lydiate, Josh Macleod, Jac Morgan, Tommy Reffell, Justin Tipuric, Aaron Wainwright.

Olwyr

Gareth Davies, Kieran Hardy, Rhys Webb, Tomos Williams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Costelow, Owen Williams, Mason Grady, Max Llewellyn, George North, Joe Roberts, Nick Tompkins, Johnny Williams, Keiran Williams, Josh Adams, Alex Cuthbert, Rio Dyer, Cai Evans, Leigh Halfpenny, Louis Rees-Zammit, Tom Rogers, Liam Williams.