M么n: Gwrthod cais am 33 o dai fforddiadwy

Disgrifiad o'r llun, Mae bwriad i adeiladu 33 o dai fforddiadwy ar y safle, dros bron i ddwy acer ym mhentref Gwalchmai
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, 麻豆约拍 Cymru Fyw

Mae cynghorwyr wedi gwrthod caniat谩u cais cynllunio dadleuol i adeiladu 33 o dai fforddiadwy mewn pentref ym M么n.

Bwriad cwmni AMP Construction ydy adeiladu'r tai er mwyn "ateb anghenion lleol" ym mhentref Gwalchmai.

Ond er mai'r argymhelliad oedd i gynghorwyr ei ganiat谩u, mae'r datblygiad hefyd wedi cythruddo rhai.

Mae'r cyngor cymuned lleol wedi datgan gwrthwynebiad unfrydol i'r cynllun, ac fe gafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn ddiweddar i'w drafod.

Brynhawn Mercher, yn ystod cyfarfod o bwyllgor cynllunio'r sir, aeth aelodau yn groes i'r argymhelliad yn sgil pryderon y gymuned leol.

Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor o'r farn fod y cynlluniau - sy'n cynnwys 33 o gartrefi yn amrywio o un i bedair llofft yr un - yn dderbyniol.

Er bod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref, mae'r polis茂au cynllunio yn caniat谩u datblygiadau o'r fath os ydynt yn cynnig tai sydd wedi'u dynodi fel rhai sy'n gyfan gwbl fforddiadwy.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio

Disgrifiad o'r llun, Y bwriad ydy adeiladu'r tai ar Stryd y Goron, Gwalchmai

Nodir yn yr adroddiad tra "roedd gan yr adran bryder ar y dechrau yngl欧n 芒 lleoli datblygiad o'r maint hwn mewn pentref bach gwledig," fod yr adran dai wedi cadarnhau "angen sylweddol" am ddatblygiad o'r fath.

Mae swyddogion adran dai'r cyngor o'r farn bod angen 50 eiddo fforddiadwy yn ardal Trewalchmai, i gwrdd 芒'r gofyn.

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Mae'r adran yn fodlon bod angen gwirioneddol am yr 33 eiddo fforddiadwy ac mae adran dai'r awdurdod hefyd wedi cadarnhau bod galw am y nifer a'r cymysgedd hyn o dai."

Mae swyddogion yn argymell yr angen am gyfraniad ariannol o 拢67,497 tuag at ysgolion yr ardal gan y datblygwyr.

'Angen bod yn fwy sensitif'

Ond cwestiynu'r angen am ddatblygiad mor fawr mae llawer o bobl leol, gyda Chyngor Cymuned Trewalchmai wedi datgan gwrthwynebiad unfrydol i'r cynllun.

Gyda dros 100 llythyr o wrthwynebiad hefyd wedi'u hanfon i'r awdurdod, barn 'Gr诺p Gwarchod Gwalchmai' ydy nad ydy'r cynllun yn addas yn ei ffurf bresennol.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Maldwyn Owen mai "ychydig iawn o sylw" sydd wedi ei roi yn yr adroddiad i farn pentrefwyr

O flaen y cyfarfod dywedodd Maldwyn Owen, sy'n aelod o'r gr诺p: "Mae'r tir yma y tu allan i'r ffin datblygu ac wedi'i wrthwynebu'n chwyrn gan lawer o bobl leol.

"Gyda Gwalchmai yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig M么n yn 么l ystadegau Llywodraeth Cymru, buasai ychwanegiad o 10% i boblogaeth y pentref yn achosi mwy o bwysau ar yr is-adeiledd, sy'n gwegian yn barod.

"'Da ni ddim yn gwrthwynebu i neb gael y cyfle i gael cartref, ond mae hyn yn cynrychioli barn mwyafrif o bobl y pentref dros ystod oedran eang."

Ychwanegodd mai "ychydig iawn o sylw" sydd wedi ei roi yn yr adroddiad i farn pentrefwyr, a'i fod yn gobeithio bydd cynghorwyr yn cymryd eu barn i ystyriaeth.

"Mae 'na 12 fflat yn rhan o'r cynllun ond mae gynnon ni fflatiau tebyg yn y pentref sydd wedi atynnu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol.

"Dyla'r datblygwyr ailystyried a bod yn fwy sensitif i ofynion y pentref, rhaid gwrando ar beth sydd gan bobl y pentref i'w ddweud."

Dywedodd un o gynghorwyr sir y ward, Douglas Fowlie, fod angen cymryd y farn leol i ystyriaeth ac nad oedd y ffigyrau rhestrau aros yn gydnaws a'i brofiadau o fel cynghorydd.

"'Da ni fel cynghorwyr sir yr ardal ddim yn gwybod am gymaint 芒 hynny o bobl ar y rhestr aros am dai o fewn y ward, ai pobl o'r ardal yma fyddan nhw?" meddai wrth Cymru Fyw.

Disgrifiad o'r llun, Wedi ei leoli ar Stryd y Goron, mae'r safle y tu allan i'r ffin datblygu

"Mae maint y datblygiad yn bryder ond dwi ddim yn credu fod y galw yna am gymaint 芒 hyn o dai.

"Yn anaml iawn gewch chi bleidlais unfrydol ar unrhyw gyngor, ond dyna pa mor gryf oedd y cyngor cymuned yn teimlo am y cynllun yma."

'Effaith fuddiol ar y Gymraeg'

Ond mae'r datblygwyr, sydd wedi'u lleoli gerllaw'r pentref ym Mona, yn dweud fod angen clir am y datblygiad.

Maen nhw wedi derbyn cais i ymateb, ond nodir yn y dogfennau cynllunio: "Byddai'r anheddau yn darparu cymysgedd o dai cymdeithasol a rhent canolradd, yr union gymysgedd i'w drafod a'i gytuno gyda'r Gwasanaethau Tai wrth benderfynu y cais cynllunio.

"Roedd adborth yn nodi bod 39 ar Gofrestr Tai Cymdeithasol y Cyngor yn aros am lety rhent cymdeithasol yn ardal Cyngor Cymuned Trewalchmai.

"Canfu arolwg a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Galluogi Tai Gwledig yn 2017 fod yna angen am dai fforddiadwy yn ardal Gwalchmai, gyda galw arbennig am eiddo dau a thair ystafell wely.

"Mae Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg yn cyd-fynd 芒'r cais ac wedi dod i'r casgliad y byddai'r datblygiad yn cael effaith fuddiol ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn rhoi cyfle i bobl leol, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg, i barhau i fyw yn eu cymuned leol, lle gallent gael eu gorfodi i adael fel arall oherwydd y diffyg o dai fforddiadwy."

Yn ystod y cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio fe siaradodd y ddau gynghorydd sir dros ward Crigyll, Neville Evans a Douglas Fowlie, yn erbyn y cynlluniau.

Dywedodd y cynghorydd Evans fod "rhaid cymryd sylw" pan bo cymaint 芒 119 o lythyrau o wrthwynebiad, gan ddisgrifio Gwalchmai fel "cymuned glos, Gymraeg".

Ychwanegodd fod pryderon am y cynllun hefyd wedi'u crybwyll gyda Chomisiynydd y Gymraeg ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ond er perswadio'r pwyllgor brynhawn Mercher, oherwydd iddynt fynd yn groes i'r argymhelliad fydd y cynlluniau'n n么l o flaen cynghorwyr am benderfyniad terfynol fis Mehefin yn dilyn mis o gyfnod o gnoi cil.