Â鶹ԼÅÄ

Gwrthod cynllun tai fforddiadwy yn sgil pryderon llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Y safle
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad oedd codi'r tai ar dir glas ger stad Y Garnedd yn Llanfairpwll

Mae cynghorwyr wedi gwrthod cais dadleuol i adeiladu 27 o dai mewn safle yn ffinio'r A55 ar Ynys Môn.

Bwriad DU Construction oedd codi 27 o dai fforddiadwy ar dir glas yn Llanfairpwll.

Yn ôl y datblygwyr mae dros 70 o deuluoedd neu bobl ifanc ar restr aros am dai fforddiadwy yn y pentref.

Er hynny, roedd llawer o drigolion stad Y Garnedd yn gwrthwynebu'r cynllun, ac yn poeni am fynediad i'r safle a'r problemau traffig o ganlyniad.

Brynhawn Mercher, yn dilyn blwyddyn a hanner o gnoi cil, penderfynodd aelodau o bwyllgor cynllunio'r cyngor yn unfrydol i wrthod y cais.

'Gwarchod y llefydd gwyrdd'

Byddai'r 27 tŷ wedi'u hadeiladu ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, gyda'r dogfennau cynllunio yn nodi fod "gwir angen" mwy o dai fforddiadwy ar yr ynys.

Ond mae'r safle, sydd ar hyn o bryd yn dir glas rhwng stad Y Garnedd a'r A55, wedi'i ddisgrifio gan rai yn lleol fel "hollol anaddas" ar gyfer stad o dai o'i fath.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Stephen Edwards: "Rhaid i ni warchod be 'sgynnon ni"

Roedd cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cynllun.

Derbyniodd adran gynllunio Cyngor Môn 38 llythyr o wrthwynebiad, gyda'r cynlluniau hefyd yn cael eu gwrthwynebu gan Gyngor Cymuned Llanfairpwll.

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Edwards, cadeirydd y cyngor cymuned, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw: "'Dan ni, fel aelodau, yn falch fod 'na gais am dai - mae angen tai ar yr ynys - ond ddim yn y lleoliad yma.

"Sgen ti ddim llawer o lefydd gwyrdd ar ôl yn y pentra', a dwi'n credu'n gryf yn bersonol ac yn broffesiynol fod ni'n gorfod gwarchod y llefydd gwyrdd neu jyst tai fydd yn cael eu hadeiladu.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn ffinio'r A55 ar un ochr a Stad y Garnedd ar y llall

"Ar ôl cael chydig o bwysau wnaethon ni stick to our guns a d'eud fod ni ddim yn cytuno hefo fo. Rhaid i ni warchod be 'sgynnon ni."

'Dim lle i fwy o dai'

Dywedodd Medwyn Roberts, cadeirydd pwyllgor o drigolion stad y Garnedd, fod y cae yn un "gwlyb ofnadwy" ac yn cadw'r pentref ar wahân o'r A55.

"Mae'r sŵn o'r ffordd fawr yn ddychrynllyd, a fedrai'm meddwl fysa neb yn eu synnwyr cyffredin eisiau adeiladu tŷ yno yn y lle cyntaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Medwyn Roberts am gadw'r ardaloedd o dir glas yn Llanfairpwll

"Am fod y dŵr yn sefyll yn y cae 'dan ni'n gwybod fod o'n gweithio fel rhyw fath o soakaway yn yr ardal, mae'r tir 'na i gyd yn gweithio yn yr un ffordd."

Ychwanegodd: "Mae 'na broblemau llifogydd wedi bod ers rhai blynyddoedd, a tai wedi cael dŵr ynddyn nhw droeon.

"Mae 'na 13 stad yn arwain i un ffordd, efo 27 o dai ychwanegol - a fydd hynny ddim ei diwedd hi.

"Hefo'r infrastructure... tydi'r pentra' ddim yn medru byw hefo'r holl draffig."

'Cwrdd â'r angen am unedau fforddiadwy'

Ond roedd datblygwyr o'r farn fod galw am dai o'r fath yn y pentref, gan gyfeirio at y niferoedd sydd ar restrau aros am dai yn yr ardal.

Mae dogfennau cynllunio DU Construction, sydd wedi'u lleoli yng Nghaergybi, yn nodi "mai dim ond dwy uned fforddiadwy sydd wedi'u darparu yn Llanfairpwll yn ystod cyfnod y cynllun", ac nad oedd "unrhyw ganiatâd cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer darparu tai fforddiadwy o fewn y dyfodol agos".

Ond roedd adran gynllunio'r cyngor wedi codi pryderon nad oedd gwybodaeth ddigonol wedi'i chyflwyno mewn perthynas â draenio dŵr wyneb ac na allen nhw "gefnogi'r cynllun yn ei ffurf bresennol".

Gobaith y datblygwr oedd sicrhau cyfle i gynnal trafodaethau pellach am y problemau draenio.

Ond yn unfrydol, penderfyniad pwyllgor cynllunio Môn oedd i wrthod y cais.

'Problem llifogydd'

Mewn datganiad dywedodd asiant y datblygwr, Cadnant Planning, y buasai'r tai yn cael eu trosglwyddo i'r cyngor os caiff y datblygiad ei gymeradwyo yn y pen draw.

Gan ychwanegu fod y diffyg cytundeb ar greu system ddraenio dŵr wyneb yn "rhwystredig", ychwanegon nhw fod y datblygwr "yn barod i gyfrannu at wella system atal llifogydd yn y pentref" a chynnal trafodaethau pellach gydag asiantaethau a thirfeddianwyr.

Ond dywedodd un o'r cynghorwyr sir lleol, Dyfed Wyn Jones: "Does ddim dadl nad oes angen tai fforddiadwy ond mae'n rhaid i'r safle fod yn iawn.

"Mae problemmau llifogydd sydd angen eu datrys yn Llanfair beth bynnag, mae angen mynd i'r afael gyda rheiny gyntaf cyn trafod y cais yma eto."

Pynciau cysylltiedig