Y Seintiau Newydd yn ennill Cwpan Cymru am y nawfed tro

Ffynhonnell y llun, CBDC/Sam Eaden

Disgrifiad o'r llun, Danny Redmond yn dathlu sgorio ail gôl y Seintiau

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru am y nawfed tro yn eu hanes ar ôl trechu'r Bala o 6-0 yn Stadiwm Nantporth ym Mangor ddydd Sul.

Aeth y Seintiau ar y blaen ar ôl 19 munud, gyda Declan McManus yn rhwydo wedi gwaith da gan Daniel Redmond yn y cwrt cosbi.

Dyblwyd y fantais ar ddechrau'r ail hanner wrth i Redmond gerdded y bêl i'r rhwyd ar ôl mynd o amgylch y golwr Alex Ramsay.

Yn fuan wedi hynny sgoriodd Ryan Brobbel drydedd gôl i'r Seintiau, a 3-0 fuodd hi tan y pum munud olaf.

Yna fe sgoriodd Jordan Williams, Adrian Cieślewicz a Brobbel yn y munudau olaf i'w gwneud hi'n fuddugoliaeth enfawr.

Roedd y Seintiau eisoes wedi ennill cynghrair y Cymru Premier y tymor hwn, tra mai'r Bala oedd wedi ennill Cwpan y Gynghrair.

Gyda'r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr felly ar gyfer y tymor nesaf, mae'r canlyniad ddydd Sul yn golygu y bydd Penybont - orffennodd yn drydydd yn y Cymru Premier - yn chwarae yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa.

Mae gan y Seintiau record anhygoel yng Nghwpan Cymru yn ddiweddar, gan ennill y gystadleuaeth wyth gwaith o'r 11 tro diwethaf iddi gael ei chynnal (ni chafodd ei chynnal am ddwy flynedd oherwydd y pandemig).