Â鶹ԼÅÄ

Cwpan Cymru: Seintiau Newydd a'r Bala yn y ffeinal

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, CBDC

Bydd y Seintiau Newydd yn herio'r Bala yn rownd derfynol Cwpan Cymru.

Yn dilyn eu buddugoliaeth dros Penybont brynhawn Sadwrn bydd y clwb o Groesoswallt yn gobeithio sicrhau'r tlws am y nawfed tro yn eu hanes.

Roedd yn brynhawn siomedig i dîm Rhys Griffiths wrth i'r Seintiau fynd i'r egwyl 2-0 ar y blaen gyda Josh Daniels sgorio ddwywaith.

Doedd dim mwy o goliau yn yr ail wrth i'r Seintiau sicrhau eu lle yn gyfforddus.

Nos Wener roedd hi'n gêm tipyn mwy cystadleuol wrth i gôl hwyr Chris Venables brofi i fod yn dyngedfennol.

Bydd y Bala, oedd hefyd wedi curo Cei Connah ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG fis Ionawr, yn ymddangos yn eu hail rownd derfynol Cwpan Cymru ar ôl ennill ar eu hymddangosiad blaenorol yn 2017.

Roedd hyn er i'r rheolwr, Colin Caton, orfod gwylio'r gêm o'r eisteddle oherwydd gwaharddiad.

Nos Wener, 3 Mawrth

Y Bala 3-2 Cei Connah

Dydd Sadwrn, 4 Mawrth

Penybont 0-2 Y Seintiau Newydd