Mwy o gyllid nag erioed i amddifyn Cymru rhag llifogydd

Ffynhonnell y llun, Cyngor Conwy

Disgrifiad o'r llun, Mae amddiffynfeydd fel yn Hen Golwyn wedi gorfod cael eu cryfhau oherwydd effaith stormydd cyson

Mae mwy o arian nag erioed wedi'i glustnodi ar gyfer rheoli risg llifogydd yng Nghymru.

Cadarnhaodd y llywodraeth y lefelau diweddaraf o gyllid o gronfa gwerth £214m.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd fod Llywodraeth Cymru'n "cadw cymunedau'n ddiogel rhag risg cynyddol newid hinsawdd".

Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd Julie James fuddsoddiad gwerth £75m wrth iddi gyhoeddi'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2023-24.

Cafodd ei gyflwyno fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei roi i awdurdodau reoli risg er mwyn lleihau'r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru.

Ffynhonnell y llun, Maddie Ottaway

Disgrifiad o'r llun, Mae llifogydd wedi taro ardaloedd ledled Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, fel yma yn Y Drenewydd, Powys

Mae gwarchod rhag llifogydd yn rhan allweddol o raglen lywodraethu'r llywodraeth a'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru.

Mae'r rhaglen lywodraethu'n cynnwys targed uchelgeisiol i ddarparu mwy o ddiogelwch rhag llifogydd i dros 45,000 o gartrefi yng Nghymru, ac ymrwymiad i ehangu dulliau naturiol o reoli llifogydd a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur.

Mae'r cytundeb cydweithio yn cynnwys ymrwymiad ar y cyd i fuddsoddi mwy mewn gwaith rheoli a lliniaru llifogydd, a chynllunio i ymateb i'r risg gynyddol o lifogydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae Ioan Williams yn cydnabod na fydd modd "gwneud cynlluniau ym mhobman"

Dywedodd Ioan Williams, rheolwr gweithrediadau i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fod y cyllid i'w groesawu ond na fydd modd byth i atal llifogydd yn llwyr ym mhob ardal.

"Mae hwn yn gynllun pwysig iawn a ni'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, a bydd yn helpu i amddiffyn lot o gymunedau," meddai.

"Ond mae ystadegau'n dweud fod rhyw un o bob wyth o dai yng Nghymru â risg o lifogydd, a ma' hynny'n enfawr.

"Felly ni ddim yn gallu gwneud cynlluniau ym mhobman.

"Dwi'n credu fod angen cael y sgwrs rhwng y llywodraeth, awdurdodau lleol a chymunedau ynglŷn â ble ni'n mynd i amddiffyn, ac yn bwysig iawn, ble falle ni ddim yn mynd i amddiffyn yn y dyfodol.

"Mae hwnna'n rhywbeth anodd iawn trafod, ond dyna realiti'r byd ni'n byw ynddo nawr gyda newid hinsawdd."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Julie James fod angen "cadw ein cymunedau'n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd"

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ms James fod "dim amheuaeth bod angen y buddsoddiad yma".

"Mae adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd, a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen am fuddsoddiad parhaus mewn camau lliniaru, addasu a gwydnwch i ymateb i heriau cynhesu byd-eang.

"Ry'n ni'n gwybod y byddai effaith llifogydd wedi bod yn waeth oni bai am ein rhwydwaith ni o amddiffynfeydd a gwaith diflino ein Hawdurdodau Rheoli Risg," meddai.

"Dyna pam rydym yn parhau i ddarparu'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad, er mwyn galluogi ein Hawdurdodau Rheoli Risg i adeiladu a chynnal yr isadeiledd rydym yn dibynnu arno i gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag yr heriau a achosir gan newid hinsawdd."

Disgrifiad o'r llun, Mae cynlluniau atal llifogydd eisoes wedi dechrau mewn sawl ardal, fel yma yng Nghasnewydd

Ychwanegodd aelod dynodedig Plaid Cymru ar y cytundeb cydweithio, Sian Gwenllian AS: "Mae'r buddsoddiad mwyaf erioed hwn yn agwedd bwysig ar waith sy'n mynd rhagddo fel rhan o'r cytundeb cydweithio er mwyn ddiogelu cymunedau, cartrefi a busnesau ledled Cymru.

"Wrth i'n hinsawdd newid, mae risg llifogydd wedi cynyddu a thros y blynyddoedd diwethaf rydym oll wedi gweld yr effaith ofnadwy y gall hyn ei chael ar fywydau pobl.

"Yn ogystal â chymryd camau heddiw i atgyfnerthu amddiffynfeydd llifogydd, rydym hefyd yn cydweithio tuag at y tymor canol i'r hirdymor.

"Yn ogystal â'r cadarnhad o gyllid ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd yn 2023-24, rydym wedi comisiynu'r Athro Elwen Evans i gynnal adolygiad annibynnol o Adran 19 ac mae CNC a'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn ystyried sut y gellir lleihau tebygrwydd llifogydd ar draws y wlad erbyn 2050."

Mae dadansoddiad llawn a map o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol eleni .