Â鶹ԼÅÄ

Dulliau newydd i arwain at amddiffynfeydd môr gwell?

  • Cyhoeddwyd
mur morolFfynhonnell y llun, Huw Gosling

Gallai pobl sy'n byw ar yr arfordir gael gwell amddiffynfeydd môr i helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd diolch i ddulliau newydd ar gyfer casglu a dadansoddi data.

Fe gafodd Canolfan Monitro Arfordirol Cymru ei sefydlu yn 2019 i safoni'r data a gasglwyd ar draws arfordir Cymru er mwyn rhagfynegi tueddiadau tymor hir yn well.

Mae'r tîm yn defnyddio offer fel dronau, camerâu a synwyryddion i fonitro erydiad clogwyni a strwythur creigiau.

Dywedodd Gwyn Nelson, rheolwr y ganolfan, y bydd yn caniatáu i'r rheiny sy'n monitro'r arfordir wneud "penderfyniadau gwybodus am ei amddiffyn".

Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Nelson yw rheolwr Canolfan Monitro Arfordirol Cymru

"Nid yw prosesau arfordirol yn cael eu cyfyngu gan ffiniau awdurdodau lleol felly mae angen i ni ddysgu beth sy'n digwydd yn y darlun ehangach, a 'dyn ni'n gwneud hynny nawr am y tro cyntaf.

"Yr hiraf y gallwn gasglu'r data hwn yn y dull safonol hwn, y mwyaf y gallwn ddeall a dehongli beth sy'n mynd i ddigwydd o ran tueddiadau tymor hir," meddai.

Dywedodd Clive Moon, rheolwr peirianneg ar gyfer risg arfordirol a llifogydd Cyngor Sir Bro Morgannwg, fod gan y rhai sy'n byw ar lan y môr ddiddordeb gwirioneddol mewn sicrhau bod eu cartrefi'n cael eu hamddiffyn rhag risg.

Bydd y prosiect yn helpu i gadw pobl yn "wybodus am risgiau yn y dyfodol" i'w cartrefi, meddai, gan fod "gennym bellach fwy o reolaeth ar gywirdeb a dibynadwyedd ein harolygon".

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'n fuddiol gallu rhybuddio pa mor debygol y mae clogwyn o gwympo, medd Clive Moon

Ychwanegodd y gallai preswylwyr sy'n fwy tebyg o ddioddef cwympiadau clogwyni, fel y tirlithriad mawr ar arfordir Nefyn ym mis Ebrill, gael eu rhagrybuddio.

"Yn anffodus ni allwn ragweld pryd y bydd cwympiadau clogwyni'n mynd i ddigwydd, gan fod hwnnw'n fater eithaf cymhleth, ond rydym yn cronni llun o ba mor debygol yw hi o ddigwydd mewn rhai ardaloedd a pha mor bell yn ôl y mae'n debygol o fynd ar y clogwyn, fel y gallwn rybuddio pobl."

Yn gynharach eleni, rhybuddiodd ymgynghorwyr fod 2,126 eiddo yng Nghymru mewn perygl o erydiad môr a bod 36,000 mewn perygl o lifogydd arfordirol erbyn diwedd y ganrif os nad yw amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal.

Cadw golwg ar forglawdd

Mae Huw Gosling, yn byw ger y môr ym Mhorthcawl. Mae'n dweud ei fod yn teimlo ei fod wedi'i warchod gan wybod bod morglawdd yn amddiffyn ei gartref ef a chartrefi eraill rhag llifogydd.

"Mae'r dŵr yn dod i'r wal, just i waelod y wal. Ond os ydi'r storm yn un fawr a bod y gwynt yn chwythu yn y ffordd gywir, weithiau ma'r mor yn bwrw'r wal ac mae'r gwynt yn chwythu fe drosodd," meddai.

"S'dim problem gydag e, just rhywbeth newydd i edrych arno."

Disgrifiad o’r llun,

Huw Gosling

Yn ôl Mr Gosling, mae'r effaith y gall newid hinsawdd gael ar lefel y môr, ac felly'r erydu sy'n digwydd yn rhywbeth mae'n meddwl amdano.

"Ni'n meddwl y byddan nhw'n edrych ar ôl y wal yma. So os fydda nhw nawr yn cael mwy o ddata, fi'n sicr y bydd hynny'n dangos y bydd isie cadw'r wal a bod rhaid cadw'r wal a dyna beth fydd yn digwydd - gobeithio."

Dywedodd Canolfan Monitro Arfordirol Cymru y bydd ei gwaith yn ystyried newid hinsawdd a'r effaith fydd hynny'n gael a lefelau'r môr yn codi.

Yn ôl Gwyn Nelson, rheolwr rhaglen y ganolfan, "rhaid i ni ddeall sut y gall newid hinsawdd a chodiadau yn lefel y môr effeithio ar [erydiad arfordirol a llifogydd] yn y dyfodol.

"Mae angen i ni gasglu'r data a fydd yn adeiladu dros amser ac yn rhoi syniadau mwy cywir inni o sut y gallwn ymateb i hynny."

Ffynhonnell y llun, Canolfan Fonitro Arfordir Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan wedi datblygu gwersi ar newid hinsawdd a'r arfordir gan ymweld ag ysgolion

Dywedodd Mr Nelson fod mynd i ysgolion i siarad â phlant am risg arfordirol a newid hinsawdd yn gam arall i'r cyfeiriad cywir.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Ynys Y Barri ac wedi datblygu rhaglen 14 gwers ar newid hinsawdd a'r arfordir.

"Maen nhw wedi bod yn edrych ar erydiadau arfordirol, yn edrych ac yn darllen y tywydd, y risg bosibl o lifogydd, a phethau y gallant eu gwneud i helpu i liniaru effaith newid hinsawdd.

"Rydyn ni wedi gwneud ychydig o bodlediadau ac wedi cael rhai arbenigwyr i alw i mewn i'r dosbarth sydd wedi bod yn wych, ac maen nhw wedi cysylltu ag ysgolion ledled y byd i rannu straeon am newid hinsawdd."

Pynciau cysylltiedig