Seibiant iechyd meddwl o'r byd rygbi i Harri Morgan

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Disgrifiad o'r llun, Mae Harri Morgan wedi gwneud 10 o ymddangosiadau i'r Gweilch ers ei gêm gyntaf i'r tîm yn 2018

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n trafod materion a allai beri gofid i rai.

Mae mewnwr y Gweilch, Harri Morgan, wedi datgelu ei fod wedi ceisio lladd ei hun yn gynharach eleni wrth iddo gael trafferth dygymod gyda marwolaethau teuluol ac anafiadau.

Dywedodd y chwaraewr 23 oed ei fod wedi "dioddef yn dawel" am flynyddoedd cyn cyrraedd "pwynt isaf" ei fywyd pan gymrodd gor-ddos ym mis Chwefror.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fod ar feddyginiaeth at straen a gorbryder a'i fod yn cymryd seibiant o'r byd rygbi.

"Rhaid i mi flaenoriaethu fy lles corfforol a meddygol," meddai, gan ddiolch i'w deulu, ei ffrindiau a'i glwb am eu cymorth yn ystod "y cyfnod tywyll yma".

Ond dywedodd y mewnwr, a chwaraeodd i dîm dan-20 Cymru, ei fod yn gobeithio bod trafod ei benderfyniad yn gyhoeddus, a'r rhesymau drosto, yn helpu eraill.

"Am nifer o flynyddoedd, rwy' wedi dioddef yn dawel," fe ysgrifennodd, gan ddweud mai galar am farwolaethau aelodau hÅ·n o'r teulu a chyfres o anafiadau rygbi oedd y prif ffactorau o ran dirywiad ei iechyd meddwl.

"Mae lefelau straen uchel hefyd wedi achosi i mi golli talpiau o 'ngwallt.

Pwnc 'tabŵ'

"Ar 5 Chwefror, fe wnes i gyrraedd pwynt isaf fy mywyd a gwaetha'r modd, fe wnes i benderfynu ceisio dod â'r cyfan i ben gyda gor-ddos.

"Byddai wastad ag angerdd am rygbi ond am y tro, mae angen i mi flaenoriaethu fy lles corfforol a meddyliol. Nid ffarwél i rygbi am byth mo hwn, ond ffarwél am y tro."

Ychwanegodd: "Mae iechyd meddwl yn bwnc tabŵ i ddynion, ac yn arbennig i ddynion yn y byd rygbi.

"Trwy gydnabod fy nhrafferthion a dangos fy mod yn fregus, rwy'n gobeithio y bydd dynion eraill yn teimlo'r nerth i drafod yn agored."

Mae'r Gweilch wedi rhannu datganiad Morgan gan ychwanegu: "Mae'n iawn i beidio bod yn iawn. Mae'n iawn i siarad."

Disgrifiad o'r llun, Ar ôl dioddef iechyd meddwl gwael, daeth Dafydd James i wybod bod dementia arno

Mae datganiad Morgan wedi ennyn llu o ymatebion o gefnogaeth, gyda llawer yn canmol ei ddewrder am drafod ei sefyllfa yn gyhoeddus.

Wrth siarad ar raglen , dywedodd gohebydd rygbi Â鶹ԼÅÄ Cymru, Cennydd Davies ei fod "yn chwaraewr talentog â gymaint dal i'w gynnig i'r gêm".

Dywedodd bod yna "gamau mawr" wedi eu cymryd o fewn y gamp i gefnogi chwaraewyr wedi i unigolion fel Tom James a Dafydd James drafod eu problemau iechyd meddwl hwythau.

"Y peth pwysig o ran Harri Morgan nawr yw ei fod yn cael y cymorth. Mae 'na brosesau mewn lle yn y rhanbarthau ac o fewn Undeb Rygbi Cymru i ymdrin â hyn."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y Â鶹ԼÅÄ.