Â鶹ԼÅÄ

Asgellwr y Gleision, Tom James yn cael triniaeth iselder

  • Cyhoeddwyd
tom jamesFfynhonnell y llun, Asiantaeth Huw Evans

Mae'r Gleision wedi cadarnhau bod yr asgellwr rhyngwladol Tom James yn derbyn triniaeth am iselder.

Dywed y clwb ei fod yn derbyn cefnogaeth lawn gan dîm meddygol y Gleision, a'i fod yn gwella.

Mae'r chwaraewr 30 oed wedi ennill 12 cap rhyngwladol yn ystod ei yrfa.

Mewn datganiad, mae cyfarwyddwyr a rheolwyr y clwb yn dweud eu bod yn llwyr gefnogol i adferiad James i'r tîm cyntaf, ac yn "edrych ymlaen at ei weld 'nôl yn chwarae ymhen amser".

Roedd yn aelod o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2016.

Ni fydd y clwb yn gwneud sylw pellach ar y mater.