Ateb y Galw: Catrin Mara
- Cyhoeddwyd
Catrin Mara sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan .
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Cropian ar garped royal blue.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Jason Connery (Robin of Sherwood, 1986) cyn symud 'mlaen i Morten Harket 'A-ha'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae 'na restr hirfaith o'r rhain felly mi rannaf yr un mwyaf diweddar... Llithro yn fflat ar fy ngwyneb ar decking gwlyb mewn pâr o wedges uchel iawn tra'n siarad efo James Dean Bradfield (Manics) gan chwalu gwydr o win coch. Roedd pawb yn meddwl fy mod i wedi brifo' n ddifrifol am bod hylif coch ym mhobman - Rioja. Roedd gen i gymaint o gywilydd - fy ego yn unig gafodd niwed.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Yn darllen geiriau Becky Williams am ei gŵr Irfon Williams. Dyn arbennig. Ysbrydoliaeth a cholled enfawr. Mae Becky hefyd yn anhygoel o ddynes.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes. Yn achlysurol.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Saundersfoot. Er na fyddech yn gwbod eich bod yn Nghymru yn anffodus (llinell Lansker) mae'r lle'n dod ag atgofion melys iawn i mi am fy mhenwythnos plu a phriodas arbennig.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae gen i ffobia o ysbytai ond... Ysbyty Gwynedd ar ôl geni fy mhlentyn cyntaf. Ward dawel a dim i'w wneud ond gwirioni efo'r peth bach heb syniad beth oedd o 'mlaen i. Syrthio mewn cariad.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Llawen. Emosiynol. Byrbwyll.
Beth yw dy hoff lyfr?
Un?!! O ran creu argraff mi feichiais i grio ar drên yn darllen Wuthering Heights nes ofynnodd rhywun i mi os o'n i'n iawn. Heb ddarllen fel yr oeddwn (lot) ers cyn cael plant.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Huw Lloyd Edwards (Taid i fi, ond dramodydd i lawer mwy o bobol). Ches i erioed y fraint o gwrdd â fo ond yn ôl y gwybodusion (Nain/Mam ac Ann) mi fydden ni 'di bod yn uffar o fêts. Alla i'n gweld ni'n creu cymeriadau a'u sgetsio nhw.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
The Big Short. Cymeriadau cwbwl ddi-egwyddor, ond actio ardderchog. Dim trais - fedra i ddim gwylio ffilmiau treisgar. 'Nes i bara 10 munud ar 12 Years a Slave ac roedd rhaid i mi adael, mae anghyfiawnder yn fy ngwneud i'n bryderus i'r pwynt na fedra i gysgu.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Macabre! Byw am y foment efo fy nheulu a ffrindiau efo soundrack da... dawnsio!
Dy hoff albwm?
Aaaa! Pet Sounds gan The Beach Boys... ond... am gwestiwn anodd.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf ond lot ohonyn nhw. Tom yam - bwyd môr o Wlad Thai efo salad papaya wedyn Wakame o Japan efo sashimi.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
'Swn i'n licio bod yn esgidiau fy ngŵr Eur i weld os ydw i'n ei nagio gymaint â dwi'n meddwl fy mod i.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Alys Williams