Â鶹ԼÅÄ

Sgandal gwaed: Taliadau cyfartal i ddioddefwyr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
bag gwaedFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dioddefwyr yng Nghymru wedi galw am daliadau uwch

Mae cleifion yng Nghymru, gafodd eu heintio gan waed nad oedd yn ddiogel, yn mynd i gael yr un cymorth ariannol â thrigolion gweddill y DU.

Roedd cleifion gyda haemoffilia ymhlith miloedd i dderbyn gwaed wedi ei heintio yn y 1970au a'r 80au.

Ar hyn o bryd mae'r dioddefwyr yn derbyn £14,000 yn llai na phobl yn Lloegr. Mae'r taliadau hefyd yn wahanol yn Yr Alban.

Fe fydd y taliadau newydd i ddioddefwyr yn cael eu had-dalu nôl hyd at Ebrill 2019 a bydd arian i bobl gafodd eu heintio gyda HIV a Hepatitis C yn cael ei ad-dalu nôl i 2017.

Fe fydd llywodraeth y DU yn gwneud datganiad yn NhÅ·'r Cyffredin ddydd Iau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn croesawu'r penderfyniad i "roi cymorth ariannol ychwanegol i'r rhai gafodd eu heintio gyda Hepatits C a, neu, HIV".

"Mae effaith sylweddol yr heintiau ar fywydau nifer o unigolion wedi eu trafod yn eang yn Siambr y Senedd," meddai.

Sut bydd y taliadau yn newid?

Yng Ngorffennaf 2019 fe gafwyd cytundeb mewn egwyddor rhwng pedair adran iechyd gwledydd Prydain i roi diwedd ar y gwahaniaethau oedd yn bodoli.

Trysorlys y DU fydd yn gyfrifol am ariannu nifer o'r newidiadau.

Fe fydd y taliadau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru yn cael eu cynyddu i'r hyn sy'n cael ei dalu yn Lloegr a'r Alban .

Fe fydd taliadau hefyd yn cael eu gwneud i bartneriaid sydd wedi colli eu hanwyliaid.

Fe fydd taliadau cleifion gafodd eu heintio gan Hepatitis C (Cam 1) yn cynyddu o £20,000 i £50,000, gyda £20,000 yn ychwanegol pe bai'r claf yn datblygu Hepatitis C (Cam 2).

Fe fydd taliadau o £80,500 yn cael eu rhoi i ddioddefwyr gafodd eu heintio gyda HIV.

Pynciau cysylltiedig