Â鶹ԼÅÄ

Heddweision 'wedi'u brawychu' am honiadau Heddlu Gwent

  • Cyhoeddwyd
Hedlu GwentFfynhonnell y llun, Comisiynydd Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedwar swyddog Heddlu Gwent bellach wedi cael eu gwahardd fel rhan o'r ymchwiliad

Mae heddweision "wedi'u brawychu" gan honiadau o hiliaeth a chasineb at fenywod yn Heddlu Gwent, yn ôl y comisiynydd heddlu a throsedd.

Dywedodd Jeff Cuthbert ei fod yn disgwyl i holl staff y llu gydymffurfio â'r "safonau ymddygiad cywir".

Mae pedwar swyddog Heddlu Gwent bellach wedi cael eu gwahardd fel rhan o ymchwiliad i honiadau o hiliaeth, homoffobia a chasineb at fenywod o fewn y llu.

Mae'r Sunday Times wedi cyhoeddi rhagor o honiadau gan ddwy fenyw, gydag un yn cyhuddo'r llu o "ddiwylliant pydredig o gasineb at fenywod".

Mae'r fenyw arall yn dweud fod uwch-swyddog wedi ymosod arni, a'i bod yna wedi wynebu honiadau ffug o gamymddwyn.

Fe wnaeth cyn-hyfforddwr arfau, Alyson Cox, hefyd rybuddio fod menywod yn gadael uned arfau sy'n cael ei rhannu rhwng heddluoedd Gwent, Dyfed-Powys a De Cymru oherwydd awyrgylch "clwb bechgyn".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i negeseuon sarhaus ar ffôn symudol Ricky Jones wedi iddo ladd ei hun yn 2020

Mae Heddlu Gwent bellach wedi cadarnhau fod pedwerydd swyddog wedi'i wahardd ac un arall yn cael llai o ddyletswyddau, wedi iddyn nhw ddweud yn gynharach yn yr wythnos fod tri wedi'u gwahardd.

Fe wnaeth y papur newydd gyhoeddi honiadau yn erbyn y llu gyntaf pythefnos yn ôl.

Yn ôl y Sunday Times cafwyd hyd i negeseuon sarhaus ar ffôn symudol Ricky Jones - cyn-heddwas gyda'r llu - wedi iddo ladd ei hun yn 2020.

Ei deulu wnaeth ddarganfod y negeseuon, a dywedodd ei ferch ei bod yn anhapus mai trwy'r wasg y cafodd wybod bod y swyddogion wedi'u gwahardd.

Yn ogystal â'r cynnwys sarhaus, dywedwyd fod y negeseuon hefyd yn dangos tystiolaeth o lygredd o fewn y llu.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) fod nifer o swyddogion yn destun ymchwiliad ac y byddai'n parhau i adolygu swyddogion eraill.

Mae Heddlu Gwent wedi dweud y bydd yn gweithio gyda'r IOPC "i sicrhau proses lawn a thryloyw i fynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad annerbyniol gan swyddogion".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r mwyafrif llethol o swyddogion Gwent wedi'u brawychu fel pawb arall am yr honiadau yma," medd Jeff Cuthbert

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement Â鶹ԼÅÄ Radio Wales fe wnaeth Mr Cuthbert wadu fod Heddlu Gwent yn sefydliad hiliol drwyddi draw.

"Ry'n ni nawr wedi cael tair stori yn olynol gan y Sunday Times, yn gwneud yr un pwynt i bob pwrpas," meddai.

"Rwy'n gobeithio y cawn barhau gyda'r ymchwiliad fel y gallwn ddod â'r mater yma i ben cyn gynted â phosib.

"Rydw i wedi clywed rhai yn dweud nad ychydig o swyddogion unigol sydd ar fai, ond y sefydliad yn ei gyfanrwydd. Ond pan 'dych chi'n dweud hynny mae'n rhoi enw drwg i bob heddwas.

"Fe alla i eich sicrhau, mae'r mwyafrif llethol o swyddogion Gwent wedi'u brawychu fel pawb arall am yr honiadau yma, ac maen nhw eisiau ei gwneud yn eglur nad ydyn nhw'n rhan o hynny o gwbl."

Galw am ymchwiliad sydyn

Mae AS Gorllewin Casnewydd, Ruth Jones, yn galw am gwblhau yr ymchwiliad yn sydyn a gyda thryloywder.

Dywedodd wrth raglen Â鶹ԼÅÄ Politics Wales fod ymchwiliad diweddar i'r llu "wedi cymryd tair blynedd ac mae hynny'n llawer rhy hir".

Ychwanegodd fod gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly ei "chefnogaeth lawn", ond bod angen ymchwiliad o luoedd ledled Cymru a Lloegr am ei bod yn amau nad yng Ngwent yn unig y mae honiadau o'r fath.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi cwestiynu ai Mr Cuthbert yw'r person cywir i fynd at wraidd y problemau

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman yn gofyn am roi'r llu mewn mesurau arbennig.

Ychwanegodd nad oes ganddo hyder yn y Prif Gwnstabl Pam Kelly na Mr Cuthbert, sydd wedi bod yn gomisiynydd ar y llu ers 2016.

Dywedodd Mr RT Davies ar Politics Wales fod problemau am y llu "yn dod i'r amlwg yn wythnosol, os nad yn ddyddiol, ar hyn o bryd".

"Efallai bod angen i Jeff Cuthbert ystyried ai ef yw'r person iawn i fynd at wraidd y problemau yma, o ystyried eu bod wedi digwydd dan ei arweiniad ef," meddai.

Honiadau'n cael eu 'cymryd o ddifrif'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly fod y llu yn "benderfynol o herio a chael gwared ar y rheiny sydd ddim yn cyd-fynd â'n gwerthoedd".

Dywedodd pennaeth yr uned arfau, y Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis "tra bod nifer fechan o swyddogion - dynion a menywod - wedi gadael yr uned o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, mae amryw o resymau wedi bod am hyn gan gynnwys dyrchafiad ac anafiadau".

Ychwanegodd ei fod yn cymryd yr honiadau o ddifrif a bod gan staff yr hawl i adrodd pryderon yn ddienw, ac y bydd unrhyw bryderon yn cael eu "cymryd o ddifrif a'u hymchwilio'n llawn".

Pynciau cysylltiedig