Â鶹ԼÅÄ

Ysgrifennydd Cymru: 'Negeseuon newydd Heddlu Gwent yn arswydus'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Heddlu Wiltshire yn ymchwilio i Heddlu Gwent wedi i alwadau ffôn gan gyn-swyddog awgrymu bod yna "ddiwylliant gwenwynig"

Dywed Ysgrifennydd Cymru ei fod wedi'i arswydo wedi i honiadau newydd o gamymddwyn o fewn Heddlu Gwent gael eu cyhoeddi.

Yn ôl David TC Davies, mae'r hyn sy'n cael ei adrodd ym mhapur newydd y Sunday Times, os yn wir, yn gwbl "annerbyniol".

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at honiadau newydd o gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a thwyll yn Heddlu Gwent - gan gynnwys ymhlith swyddogion presennol.

Daw'r honiadau newydd wedi i negeseuon "atgas" gael eu darganfod ar ffôn Ricky Jones yn dilyn ei farwolaeth.

Wrth siarad ar raglen Politics Wales, dywedodd Mr Davies, AS Mynwy, ac sy'n gyn-swyddog gyda'r heddlu: "Fel rhywun wnaeth dreulio naw mlynedd yn gweithio fel swyddog heddlu rwy' wedi fy arswydo gan y cyfan. Wnes i ddim gweld ymddygiad fel yna fy hun - pan yn gweithio i lu arall.

"Ond rwy'n adnabod Pam Kelly, y Prif Gwnstabl, yn dda ac rwy'n gwybod bydd yr ymddygiad honedig yn ei harswydo'n llwyr ac y bydd hi'n cynnal ymchwiliad llawn. I ddweud y gwir mae hi wedi cadarnhau y bydd hi'n gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed David TC Davies ei fod wedi'i arswydo gan yr honiadau newydd

Ychwanegodd Mr Davies bod "yna unigolion sy'n niweidio'r llu" a "bod y rhan fwyaf o blismyn yn gwneud gwaith da iawn mewn amgylchiadau anodd a mor flin â be' ydyn ni am yr honiadau."

Mae'r adroddiad yn y Sunday Times yn datgelu cynnwys negeseuon, gan gynnwys jôcs, rhwng cyn-swyddogion a swyddogion presennol am y troseddwr rhyw Jimmy Saville. Mae yna gyfeiriadau hefyd at fideo o ddynes yn tynnu ei dillad, lluniau o bobl noeth ac at swyddog yn dweud bod cydweithiwr iddo yn cario "offer rhyw" yng nghefn ei gar.

Mewn un neges honnir bod un cyn-swyddog wedi dweud ei fod wedi llwyddo i gael un dynes "i godi ei sgert yng Nghaerdydd unwaith".

'Ymateb yn gyflym a chadarn'

Ychwanegodd Ruth Jones, AS Llafur Gorllewin Casnewydd, fod y sefyllfa yn "parhau i godi arswyd".

Ychwanegodd: "Mae angen i ni allu gael sicrwydd bod swyddogion heddlu yn plismona yn deg heb wahaniaethu ond ar hyn o bryd mae yna beryg go iawn y bydd yr ymddiriedaeth sydd yna rhwng y cyhoedd a'r heddlu yn cael ei golli."

Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid i'r cyhoedd allu ymddiried yn yr heddlu," medd Ruth Jones AS

Ychwanegodd Ms Jones bod gan Heddlu Gwent "gwestiynau difrifol i'w hateb" a'i bod yn cefnogi'r alwad am ymchwiliad cenedlaethol.

"Rhaid troi pob carreg," meddai.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Dyw'r gŵyn a gyflwynwyd gan y teulu Jones ddim yn cynnwys yr honiadau presennol ac wrth i faterion newydd ddod i'r amlwg fe fyddwn yn parhau i ymateb yn gyflym a chadarn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Prif Gwnstabl, Pam Kelly, nad yw'r negeseuon yn adlewyrchu Heddlu Gwent

Dywedodd nad yw'r llu "yn goddef" y fath ymddygiad gan ychwanegu: "Ry'n yn parhau i arswydo at y sylwadau a'r deunydd sydd wedi cael ei rannu gan swyddogion sydd wedi ymddeol a nifer fechan o'r rhai presennol.

"Does yna ddim lle i'r fath agweddau ac ymddygiad yn Heddlu Gwent ac mae'n gwaith o nodi y safonau a ddisgwylir gan gydweithwyr yn parhau."

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud eu bod yn ystyried cynnal ymchwiliad cenedlaethol i'r honiadau. Maen nhw wedi cael cais am ymateb i'r honiadau diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r negeseuon a ddarganfuwyd ar ffôn Ricky Jones wedi ennyn ymchwiliad

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Rhaid i luoedd yr heddlu gael gwared ar swyddogion a staff na sy'n cwrdd â'r safonau ymddygiad gofynnol er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd - ymddiriedaeth sydd wedi'i chwalu gan y digwyddiadau honedig diweddar.

"Mae'r Swyddfa Gartref yn weithredol iawn yn galw am newid, gan gynnwys sefydlu Ymchwiliad Angiolini sy'n edrych ar faterion cysylltiedig â diwylliant yr heddlu a diogelwch merched. Yn ogystal ry'n wedi cyhoeddi adolygiad o blismyn sy'n cael eu gwahardd o'r gwaith fel bod modd gwaredu swyddogion na sy'n gymwys i weithio,"

Pynciau cysylltiedig