Â鶹ԼÅÄ

'Euogrwydd' mam dros ddiffyg parc chwarae hygyrch i'w merch

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae Clara ond yn gallu gwylio'i chwiorydd yn chwarae'

Mae diffyg adnoddau mewn parciau chwarae yn creu rhwystrau i blant anabl a'u teuluoedd, yn ôl elusen.

Un o alwadau elusen Scope, sy'n ymgyrchu i newid agweddau negyddol tuag at anabledd, yw bod y llywodraeth yn clustnodi £7m i greu parciau hygyrch i bawb.

Yn ôl Anabledd Cymru, mae'r sefyllfa'n waeth yng Nghymru oherwydd bod llai o feysydd chwarae newydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn "ymrwymo i wella'r cyfleoedd" i bob plentyn gael chwarae.

'Euogrwydd' fel mam

Yn byw yn Aberaeron, mae Sera-Jane Thomas yn osgoi mynd a'r plant i'r parc am ei bod yn teimlo "lot o euogrwydd".

Mae gan ei merch Clara, 4, barlys yr ymennydd. Rhai o'i hoff weithgareddau yw gwrando ar gerddoriaeth, gwylio'r teledu a mynd allan i fwynhau'r awyr iach.

Dydy Clara methu gweld llawer, na chodi o'i chadair olwyn chwaith, ond mae'n gwybod yn iawn beth sy'n gyrru ymlaen o'i chwmpas.

Dywedodd Sera-Jane: "Bydde fe yn 'neud lot o wahaniaeth achos ma' fe'n rhywbeth mae'r teulu i gyd yn gallu gwneud gyda'n gilydd.

"Dim just fi'n mynd a chwiorydd Clara a bod hi'n gorfod gwylio.

"Fi yn teimlo lot o guilt bod Clara ddim yn gallu mynd ar ddim o'r offer. Mae pawb arall yna'n joio a bydde'n well 'da fi ddim mynd o gwbl na gwneud hynna iddi."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy parc Aberaeon ddim yn addas ar gyfer Clara, ac mae'r un agosaf sydd yn hygyrch yn Aberystwyth

Yn ôl Sera-Jane mae gan barc yn Aberystwyth - hanner awr o daith o'i chartref - un siglen ar gyfer cadair olwyn, ond does dim modd ei ddefnyddio heb brynu strapiau arbennig.

Mae hefyd yn bell i fynd i ddefnyddio un darn o offer.

Ychwanegodd: "Mae pob gweithgaredd sy'n accessible iddi yn costio pres a ni'n gorfod trafeilio'n ofnadwy o bell o ardal ni i wneud 'e."

Ategu hynny mae Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, gan ddweud bod yr argyfwng costau byw yn ei gwneud hi "hyd yn oed yn bwysicach i gael cyfleoedd i chwarae am ddim i blant anabl".

"Ac wrth ystyried effaith y pandemig ar fywydau cymdeithasol ac iechyd meddwl plant, mae cyfleoedd hygyrch i blant i gymdeithasu gyda'u cyfoedion yn hanfodol."

Gobaith elusen Scope yw bod Llywodraeth Cymru'n clustnodi arian i wella ac adnewyddu meysydd chwarae, gan alw am sefydlu cronfa newydd £7m i adfer y sefyllfa.

Fe ddywedodd Elin Williams o Anabledd Cymru bod y sefyllfa "ddim yn ddigon da a does dim digon o opsiynau yna".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sera-Jane yn teimlo'n euog nad yw'n gallu rhoi cyfle i'w merch, Clara, chwarae yn y parc fel ei chwiorydd

"Mae nifer y parciau sydd ddim yn hygyrch yn llawer mwy cyffredin na'r rhai sydd yn ac mae hynna'n creu lot o rwystrau i blant anabl a'u teuluoedd," meddai.

"Rydym ni'n gwybod bod 50% o rieni yn wynebu rhwystrau pan yn trio cael mynediad at barciau ac rydyn ni'n tybio bod y rhif yna'n llawer uwch yng Nghymru.

"Mae hynny oherwydd oedran nifer o'r lleoliadau a'r ffaith bod hygyrchedd ddim wedi cael ei gysidro wrth ddylunio'r meysydd yna.

"Mae hynny'n creu gwahaniaethu mawr. Mae chwarae yn hawl dylai pob plentyn ei gael ond mae'r hawl yna'n cael ei dynnu oddi ar nifer o blant anabl."

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud: "Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar chwarae plant ac rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae.

"Dyna pam bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd o dan y canllawiau statudol, Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae, i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i bob plentyn, gan ystyried eu hanghenion."