Â鶹ԼÅÄ

Teulu yn dioddef 'bwlio cymunedol' oherwydd anabledd

  • Cyhoeddwyd
Troseddau Casineb
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y teulu symud i ardal arall ar ôl tair blynedd o gasineb

Mae dyn o Wynedd yn dweud iddo ddod yn agos at chwalfa feddyliol wedi i'w deulu ddioddef "bwlio cymunedol" oherwydd anabledd ei wraig.

Bu'n rhaid i'r cwpl, sydd yn eu 40au ac sydd am aros yn ddienw, a'u plant symud i ardal arall ar ôl tair blynedd o gasineb.

Fe ddaeth y cyfan i benllanw gydag ymgais i fwrw'r dyn gyda char.

Dywedodd Neil a Mandy - nid eu henwau go iawn - bod y casineb wedi dechrau yn fuan wedi iddyn nhw symud i mewn i'r tÅ·.

"Pan 'naethon ni symud yna, oedd y cymydog drws nesaf yn gofyn cwestiynau am yr anabledd, a gofyn i fi be' oedd y sefyllfa," meddai Neil.

"Yn y dechrau o'n ni'n meddwl o'dd hynna'n ok, ond o'dd o'n mynd ymlaen ac ymlaen, a'r mwy oeddan ni'n d'eud, y mwy oedd y casineb yn dechrau, y mwy oedd y gweiddi yn dechrau, y mwy o'dd y petha' dychrynllyd yn dechrau."

Troi pawb yn erbyn y teulu

Fe ddechreuodd y bwlio gyda galw enwau a chwynion am barcio ger y tÅ·. Pan gafodd lle parcio ei osod ar gyfer y tÅ·, fe waethygodd y casineb.

"'Naeth o droi i mewn i ryw fath o community bullying lle oedd un person yn achosi casineb, a wedyn cael pawb arall i fod yn erbyn ni fel teulu," meddai.

"'Nes i bron iawn gael breakdown... Oeddan ni'n gorfod cael support i'r plant hefyd.

"'Dan ni'n dal i feddwl amdan y peth. 'Dan ni dal ddim yn gallu mynd nôl i'r ardal - bob tro 'dan ni'n mynd heibio yn y car, mae'r bychan yn crio - mae hi'n d'eud, dwi'm isio mynd ffordd yna, dwi'm isio mynd ffordd 'na.

"'Dan ni'n hapus rŵan, 'dan ni'n ok. Ond 'naeth o gymryd lot allan ohonon ni."

3,000 o droseddau casineb

Cafodd dros 3,000 o droseddau casineb eu cyfeirio at elusen Victim Support yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2022.

Mae eu ffigyrau'n dangos 16% o gynnydd mewn troseddau casineb ar sail anabledd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae ystadegau'r Swyddfa Gartref ar gyfer yr un cyfnod yn dangos mai hil oedd y cymhelliant mwyaf ar gyfer troseddau casineb yn gyffredinol.

Ond yng Nghymru a Lloegr, roedd 43% o gynnydd mewn achosion yn ymwneud ag anabledd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ynghyd â 26% o gynnydd yng nghyfanswm y troseddau casineb a gafodd eu cofnodi.

Angen gofyn am gymorth

Yng Ngwynedd, dywedodd Neil fod yna gymorth ar gael i bobl sydd wedi dioddef fel ei deulu o.

"Rhaid i chi ffonio'r heddlu straight away - mae hynna'n bwysig. Os 'dach chi ddim isio ffonio'r heddlu fasach chi'n gallu ffonio Victim Support hefyd.

"Mae o'n anodd. Dydi o ddim yn hawdd.

"Ond ar ddiwedd y dydd, allwch chi ddim byw bywyd lle 'dach chi'n cael eich targedu a'ch bwlio, ddim just gan un person ond gan gymuned chwaith."

Pynciau cysylltiedig