Â鶹ԼÅÄ

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn colli ei dymer gyda'r Torïaid

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: 'Rydych chi'n meddwl y gallwch chi droi i fyny y prynhawn yma a hawlio rhyw fath o dir uchel moesol?'

Fe gollodd Prif Weinidog Cymru ei dymer yn y Senedd ddydd Mawrth ar ôl cael ei holi gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Fe ffrwydrodd Mark Drakeford mewn dicter wrth iddo gyhuddo plaid Andrew RT Davies o wneud smonach o gyllideb ac enw da'r DU.

Roedd Mr Davies wedi galw am atebion i amseroedd ateb ambiwlansys gwael.

Bu'n rhaid i'r Llywydd Elin Jones alw am dawelwch.

Roedd y ddau ddyn wedi codi eu lleisiau yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, gan ystumio ar ei gilydd.

Cyhuddodd y Ceidwadwyr Cymreig y prif weinidog o geisio beio Llywodraeth y DU am fethiannau ei weinidogion ei hun mewn "ffit o gynddaredd".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Elliw Gwawr

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r Â鶹ԼÅÄ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Elliw Gwawr

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru fod Mr Drakeford yn adlewyrchu dicter pobl Cymru.

Rhybuddiodd y Canghellor Jeremy Hunt ddydd Llun fod yna doriadau gwariant i ddod, ar ôl iddo ddileu'r rhan fwyaf o fesurau cyllideb fach ei ragflaenydd a gafodd ei ddiswyddo'n ddiweddar.

Byddai toriadau i wasanaethau yn Lloegr yn cael sgil-effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru ei hun, a ddefnyddir i ariannu'r GIG, ysgolion a gwasanaethau eraill sy'n cael eu rhedeg o Gaerdydd.

Byddai cam o'r fath yn rhoi gweinidogion Llywodraeth Cymru dan bwysau ac yn debygol o'u gweld yn gorfod gwneud toriadau eu hunain.

Beth ddigwyddodd?

Gan godi ei lais gydag arweinydd y Torïaid Cymreig yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Drakeford ei bod yn "syfrdanol eich bod yn meddwl y gallwch ddod yma'r prynhawn yma gyda'r llanast y mae eich plaid wedi'i wneud, i gyllidebau'r wlad hon, i enw da'r wlad hon ledled y byd".

Gan droi tudalennau ei nodiadau briffio yn ddig, dywedodd wrth Mr Davies: "Rydych chi'n meddwl y gallwch chi droi i fyny yma'r prynhawn yma a hawlio rhyw fath o dir uchel moesol? Pa fath o fyd ydych chi'n perthyn iddo?"

Ar ôl i Mr Drakeford orffen fe wnaeth y Llywydd Elin Jones, sy'n cadeirio'r trafodion, ymyrryd.

"Rwy'n deall bod y dadleuon a'r teimladau yn rhedeg yn uchel ar y materion hyn o amrywiaeth o safbwyntiau," meddai.

"Rwy'n deall rhywfaint o'r gweiddi sy'n digwydd ond ni fyddaf yn caniatáu i bobl bwyntio mewn dicter ac ystumio mewn dicter at bobl eraill. A allwn ni gymryd eiliad i dawelu?"

Disgrifiad o’r llun,

Ailadroddodd Andrew RT Davies gyhuddiadau bod gan Gymru GIG "trydydd byd"

Yn ei gwestiynau roedd Mr Davies wedi codi dwy enghraifft o arosiadau hir, gan gynnwys stori ar Walesonline am ddyn oedd yn aros ar lawr yn aros 15 awr.

Darllenodd ddyfyniadau gan ferch y dyn yn cyhuddo Cymru o gael gwasanaeth iechyd fel "gwlad trydydd byd" ac y byddai Aneurin Bevan, y gweinidog Llafur a oruchwyliodd y gwaith o greu'r GIG, yn troi yn ei fedd.

Mewn ymateb, cyhuddwyd Mr Davies gan Mr Drakeford o fod yn "rhannol gyfrifol am y llanast rydyn ni ynddo" oherwydd ei fod wedi cefnogi Liz Truss ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Mewn ymateb fe wnaeth Mr Davies gyhuddo Mr Drakeford o fethu â chynnig ateb.

"Dydych chi ddim wedi dweud unwaith mewn ymateb i'm dau gwestiwn beth yw'r ateb y mae'r llywodraeth yn ei gynnig i dynnu'r pwysau yma allan o'r gwasanaeth ambiwlans a chaniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'r gwaith maen nhw'n ei wneud," meddai.

Dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru eisiau buddsoddi mwy o arian yn y gwasanaeth ambiwlans a chael mwy o staff, ac i yrwyr ambiwlansys wybod y gall ysbytai dderbyn cleifion.

Ond yn ei ateb beirniadodd y prif weinidog y Ceidwadwyr: "Maen nhw wedi cael toriadau i'w cyflogau oherwydd polisi eich llywodraeth a nawr maen nhw'n wynebu toriadau i'r cyllidebau fydd gan y gwasanaeth iechyd ei hun."