Â鶹ԼÅÄ

Covid 'wedi cyflymu'r broses' wrth i nifer o gapeli gau

  • Cyhoeddwyd
Sardis
Disgrifiad o’r llun,

Mae costau cynyddol a chynulleidfaoedd llai wedi arwain at dranc nifer o addoldai

Mae 'na bryder bod capeli Cymru yn cau yn gyflymach nag erioed o'r blaen, yn ôl elusen sy'n gyfrifol am ofalu am addoldai gwag.

Costau cynyddol a gostyngiad yn nifer yr addolwyr sy'n bennaf gyfrifol, yn ôl elusen Addoldai Cymru.

Yn ôl y mudiad Cytûn, sy'n cynrychioli nifer o addoldai yng Nghymru, mae'r model presennol o gynnal cymaint o eglwysi a chapeli yn anghynaladwy.

Capel Sardis ym Mhontypridd yw'r diweddara' i weld arwydd 'Ar Werth' wedi ei gosod ar ei furiau.

Cafodd yr adeilad cofrestredig Gradd II ei adeiladu yn 1832, ac mae wedi ei leoli ynghanol y dref, drws nesaf i'r orsaf reilffordd.

Mae'n adeilad hardd, traddodiadol, ond dyw hynny ddim yn ddigon i'w gadw ar agor fel capel - ac felly mae'n rhaid gwerthu.

Mae'n stori gyfarwydd i elusen Addoldai Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith cynnal a chadw hen gapeli fel Sardis yn gallu bod yn gostus iawn

Cafodd yr elusen ei sefydlu i gymryd meddiant a gofalu am ddetholiad o gapeli gwag sydd ag arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol.

Does dim modd iddyn nhw achub pob capel yn ôl Huw Owen, un o ymddiriedolwyr yr elusen, ac felly capeli cofrestredig Gradd I neu II* sy'n cael y flaenoriaeth.

Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae capeli Cymru yn cau'n gynt nag erioed o'r blaen, meddai Mr Owen.

"Yn bendant, dyma'r cyflymaf i ni weld cynifer o gapeli'n cau.

"Dyma beth sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cyflymu'r broses yn arw iawn.

"Mae nifer wedi cau ond mae 'na lawer fwy yn ddiweddar oherwydd Covid," meddai.

"Ma' hwnnw wedi cyflymu'r broses bod capeli methu cynnal oedfaon a ma'n rhaid i ni dderbyn hefyd bod nifer o'r capeli wedi cael eu hadeiladu ers peth amser, rhai ohonyn nhw'n bwysig iawn o ran pensaernïaeth, ond maen nhw wedi gwaethygu fel adeiladau.

"Mae 'na waith cynnal a chadw i'w wneud arnyn nhw, ac mae'r gwaith yna yn aml yn gostus iawn i gynulleidfa sy'n lleihau."

Disgrifiad o’r llun,

Aled Edwards: 'Yn economaidd dyw hi ddim yn gynaliadwy'

Wrth i ragor a rhagor o gapeli gau eu drysau mae angen edrych eto ar y model o addoli Cristnogol, yn ôl mudiad Cytûn, sy'n cynrychioli nifer o eglwysi a chapeli yng Nghymru.

"Y gwirionedd yw ein bod ni wedi gweld ers degawdau bellach, yn enwedig ers yr Ail Ryfel Byd, ma' 'na eglwysi yn cau mewn niferoedd sylweddol," medd prif weithredwr Cytûn, y Canon Aled Edwards.

"Fe fydd broses hynny yn parhau. Yn economaidd dyw hi ddim yn gynaliadwy, a 'dan ni'n canfod hi'n heriol i gael bugeiliaid a gweinidogion ar gyfer eglwysi bychain."

Llawn hanes a threftadaeth

Un capel sydd wedi cael bywyd newydd yw adeilad hen gapel Soar ym Merthyr Tudful.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei adeiladu yn 1801, a'i ailadeiladu yn 1825 a 1842. Ond wedi i'r niferoedd oedd yn mynychu ddisgyn fe gymrodd menter iaith gyfrifoldeb o'r adeilad a'i droi'n theatr yn 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lis McLean fod gan hen addoldai gymaint i'w gynnig i gymunedau Cymru

Lis McLean yw prif weithredwr Menter Iaith a Canolfan Soar. "Bob tro ry'n ni'n derbyn bod addoldy o unrhyw fath yn cau, mae e'n drist achos mae e'n newid i gymuned," dywedodd.

"Ond ar yr un pryd mae pobl dal yn dod ynghyd fan hyn i addoli er bod e ddim yn addoldy, achos mae e'n le perffaith ar gyfer cymanfaoedd canu a pethau felly.

"Mae e'n leoliad amlbwrpas cymunedol. Mae'n well defnyddio fe fel'na na chael e' ar gau, achos y ffaith yw mae'r holl adeiladau yma, mae cymaint gyda nhw i gynnig i'n cymunedau ni.

"Maen nhw'n lleoliadau hardd, ac maen nhw'n llawn hanes a threftadaeth."

Pynciau cysylltiedig