Â鶹ԼÅÄ

Angen 'meddwl yn greadigol' i ddiogelu capeli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Edern

Mae angen meddwl yn "greadigol" a chydweithio er mwyn diogelu capeli Cymru sy'n cael eu gwerthu, yn ôl ymgyrchwyr.

Ym Mhen Llŷn, mae trafodaeth ar gychwyn am ddyfodol capel Edern ar ôl i Newyddion S4C ddeall fod y plwyf lleol wedi penderfynu nad oedd modd cynnal yr adeilad na'r gwasanaethau bellach.

Mae 'na alw felly ar yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru i beidio â'i roi ar y farchnad agored er mwyn ei gadw at ddibenion cymunedol.

Mae'r sefydliad yn dweud mai blaenoriaid y capel fydd yn penderfynu ar ddyfodol yr adeilad.

'Rhaid cael y sgwrs'

Mae disgwyl i gyfarfod cymunedol gael ei gynnal yr wythnos nesaf lle caiff y gymuned leol y cyfle i fynegi eu safbwyntiau ar ddyfodol yr adeilad.

Er hynny mae 'na bryder y gallai'r capel, fel nifer gynt, fynd ar y farchnad rydd gan werthu i'r prynwr uchaf a gadael dwylo'r gymuned leol.

Dyna ddigwyddodd yn mhentref cyfagos Pistyll y llynedd, lle gwerthwyd hen gapel am dros £250,000.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthwyd Capel Bethania ym mhentref Pistyll am dros £250,000

Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts, mae angen sgwrs gall a chydweithio i ddod o hyd i ddefnydd i adeiladau o'r fath.

"Mae bob un cymuned angen edrych ar y llefydd cyhoeddus sydd gyno ni a sut allwn ni wneud y defnydd gorau ohonyn nhw ar gyfer y dyfodol," dywedodd.

"Mae'n amlwg o edrych ar y capeli ac ysgolion, bydd rhaid i rywun edrych sut 'dan ni am gadw nhw i gyd a sut 'dan ni'n dod i benderfyniad teg.

"Mae rhaid cael y sgwrs o be yn union 'da ni eisiau gwneud 'efo nhw."

Ers degawdau mae capeli ar draws Cymru wedi cau a nifer wedi uno mewn canolfannau eraill.

Doedd sefydliad Cytûn, Eglwysi ynghyd yng Nghymru, ddim am wneud sylw ar achosion penodol, ond maent yn cydnabod fod y broses o gau capeli a'u defnydd wedyn yn un "emosiynol".

"Dwi'n credu yn gyffredinol, bod 'na deimlad cryf iawn y dylai adeiladau gael eu parchu a chael eu defnyddio at ddiben sy'n bwrpasol ac yn dda a bod y defnydd amgen yn dda i bobl," meddai prif weithredwr Cytûn, y Parchedig Aled Edwards.

"Dwi'n meddwl bod 'na le i gael trafodaeth 'efo asiantaethau fel Cadw ac eraill fel bod rhywbeth buddiol yn dod o'r broses."

'Blaenoriaid fydd yn penderfynu'

Yn ôl yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru mi fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf er mwyn i'r gymuned fynegi eu safbwyntiau.

Ychwanegwyd mai "blaenoriaid Edern fydd yn penderfynu ar ddyfodol yr adeilad".

Fe allai hynny olygu un ai ei werthu yn breifat, ei ddatblygu at ddibenion lleol neu ei brydlesu i grwpiau.

Mi fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mawrth ym mhentref Edern.

Pynciau cysylltiedig